Edrych yn ôl ar fy amser fel myfyriwr intern yn y Gwasanaeth Ymchwil, gan Hayley Moulding

Cyhoeddwyd 04/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/11/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Cynllun Interniaethau Polisi y Cyngor Ymchwil yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr doethuriaeth gael eu lleoli mewn sefydliad polisi am gyfnod o dri mis. Noddir y cynllun gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, ac roeddwn i’n gallu ymgeisio’n uniongyrchol am y cynllun hwn. Mae’r interniaeth yn caniatáu i fyfyrwyr brofi gwaith y sefydliadau polisi perthnasol, a hynny gan ddysgu amdano a chyfrannu ato. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn cynnig lleoliadau, gan gynnwys adrannau seneddol a llywodraethol a Chyrff Anllywodraethol. Penderfynais wneud cais am leoliad seneddol i fod yng nghanol y rhyngweithio rhwng gwaith ymchwil, gwaith seneddol a gwaith llywodraethol. Ar ôl gwneud cais a mynd i Lundain am gyfweliad, cynigwyd lle i mi gyda’r tîm Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yng Ngwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ystod fy wythnos gyntaf gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, cefais wahanol sesiynau cynefino, sesiynau hyfforddiant a chyfarfodydd. Rhoddwyd ffolder i mi yn llawn canllawiau cynhwysfawr, o gyflwyno’r gwasanaeth ymchwil i ddefnyddio cronfeydd data gwerthfawr. Oherwydd fy mod wedi byw yng Nghymru am dair blynedd cyn hyn, roeddwn yn ymwybodol o’r Cynulliad a datganoli, ond nid hanes y Cynulliad. Yn ystod yr wythnos gyntaf, dysgais am hanes datganoli yng Nghymru, strwythur y Cynulliad a’r Cynulliadau blaenorol. Ochr yn ochr â hyn, cefais groeso cynnes gan y tîm Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a theimlais yn rhan o’r tîm ar unwaith.

Amrywiaeth o waith

Roedd y gwaith yn llawn amrywiaeth o’r cychwyn cyntaf. O ddydd i ddydd, mae’n rhaid ymateb i ymholiadau gan Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth. Yn aml, mae’r rhain yn gwestiynau gan etholwyr i’w Haelod Cynulliad. Maent yn trafod ystod o bynciau, ac weithiau gellir ymateb i ymholiadau yn gymharol gyflym neu mae’n bosibl y bydd angen ymchwilio iddynt mewn rhagor o fanylder a darparu ymateb hirach. Mae’r terfynau amser yn aml yn llai nag wythnos, ac weithiau gallant fod o fewn yr un diwrnod. Yn ystod fy amser gyda’r Gwasanaeth Ymchwil, llwyddais i ymateb i 11 o ymholiadau. Roedd llawer ohonynt yn ymatebion drwy e-bost, ond roedd ambell un yn golygu llunio briffiau cynhwysfawr i Aelodau’r Cynulliad.

Hefyd, mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cynhyrchu briffiau rhagweithiol. Mae’r rhain yn aml ar ffurf blogiau a gyhoeddir ar y wefan PIGION. Mae’r blogiau’n aml yn adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Cynulliad. Gallai’r gwaith hwn fod yn gysylltiedig â thrafodaethau a dadleuon yn y Cyfarfod Llawn neu ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal gan y pwyllgorau. Hefyd, gellir cyhoeddi blogiau ar bynciau cyfoes, gan ddarparu gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad am waith sydd ar y gweill. Roeddwn i’n ddigon ffodus o gyhoeddi tri blog yn ystod fy nghyfnod gyda’r Gwasanaeth Ymchwil: Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr 2018; Beth mae datganoli cyflog ac amodau gwaith athrawon yn ei olygu i system addysg Cymru? a Pam bod ‘codi dyheadau’ ar yr agenda addysg?.

Fel y soniais yn fyr, ymchwiliadau sy’n aml yn llyncu’r rhan fwyaf o amser y Gwasanaethau Ymchwil. Mae’r rhain yn ddarnau mawr o waith gan bwyllgorau’r Cynulliad ar bwnc penodol. Er enghraifft, roedd ymchwiliad diweddaraf y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn trafod Cyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol. Cynhaliwyd pedwar cyfarfod pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad, gan gynnwys wyth sesiwn dystiolaeth, a daeth i ben gyda sesiwn i graffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cafodd papur briffio cynhwysfawr ei baratoi gan y Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer pob un o’r cyfarfodydd hyn. Roeddwn i’n ddigon ffodus o gael cyfle i gyfrannu’n rhannol at yr ymchwiliad i gyllid wedi’i dargedu drwy baratoi crynodeb o’r dystiolaeth a ddaeth i law drwy’r ymgynghoriad ysgrifenedig. Cyflwynwyd y crynodeb hwn cyn y sesiwn dystiolaeth gyntaf.

Hefyd, lluniais grynodeb o ddigwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc . Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol.

Dysgu a datblygu

Cefais fy annog i fynd i sesiynau hyfforddi a gwneud y mwyaf o fy amser yn y Cynulliad. Roedd y sesiynau a gynhaliwyd yn y Cynulliad yn trafod Deddf Cymru 2017, Datganoli yng Nghymru a Deddfwriaeth, ac roedd un sesiwn yn San Steffan yn trafod Is-ddeddfwriaeth. Treuliais ddiwrnod gyda thîm clercio’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a diwrnod gyda’r tîm Allgymorth ac Ymgysylltu mewn un o sesiynau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fel rhan o’r ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru.

Cynadleddau

Cefais gyfle i fynd i gynadleddau addysg, gan gynnwys cynhadledd ar ‘Lesiant Plant a Phobl Ifanc - Themâu Allweddol Ledled Cymru’ a gynhaliwyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru; ‘Little Pieces. Big Picture.’ gan Save the Children Cymru; ‘Y camau nesaf ar gyfer codi safonau mewn ysgolion yng Nghymru’ gan Fforwm Polisi Cymru a Digwyddiad Blynyddol Horizon 2020. Roedd mynd i’r cynadleddau hyn yn dangos sut mae’r Cynulliad, a’i waith o graffu ar y Llywodraeth, yn effeithio’n uniongyrchol ar addysgwyr, gan ehangu fy ngorwelion o ran y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael ym myd addysg.

Codi fy nyheadau gyrfaol

Nid oeddwn yn disgwyl gadael y Cynulliad yn llawn angerdd newydd am wleidyddiaeth pan gyflwynais fy nghais i Gyngor Ymchwil y DU.

Mae’r interniaeth hon wedi caniatáu imi ymdrwytho yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac mewn maes ymchwil newydd. Bellach, mae gennyf ddealltwriaeth fanwl o’r Gwasanaeth Ymchwil ac rwyf wedi bod yn dyst i’r pwysau a’r galw am adroddiadau cynhwysfawr, cywir a diduedd i lywio gwaith Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt graffu ar y Llywodraeth. Mae cynnal deialog â rhanddeiliaid yn rhan bwysig o waith y Gwasanaeth Ymchwil i sicrhau bod y papurau briffio mor gyfoes â phosibl a’u bod yn trafod yr heriau diweddaraf.

Mae gweithio gyda’r tîm Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi bod yn ysbrydoledig ac yn ysgogol. Mae pob aelod o’r tîm wedi fy nghefnogi i gynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol ac wedi fy annog i fod yn rhagweithiol. Rwyf wedi datblygu arddull fy ngwaith ysgrifenedig, fy ngallu i adolygu’n feirniadol a fy nealltwriaeth o faterion gwleidyddol, ac rwyf hefyd wedi cael persbectif newydd ar fy noethuriaeth. Roeddwn yn arfer teimlo y gallai gweithio ym myd addysg yn hytrach na’m cefndir ym myd iechyd a meddygaeth fod yn anfantais, ond nid oedd hyn yn wir o gwbl. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol, ac yn un sy’n derbyn ac yn datblygu’r holl staff, sydd wedi’i leoli ym mae hyfryd Caerdydd, felly roedd modd treulio pob amser cinio yn cerdded ar hyd yr arfordir hardd ac yn gwledda yn Wagamama.

Byddwn yn sicr yn annog unrhyw fyfyriwr doethuriaeth sydd am ddeall sut mae gwaith ymchwil yn berthnasol i ddadleuon seneddol a pholisi’r Llywodraeth i ymgeisio am un o interniaethau Cyngor Ymchwil y DU, a byddwn yn bendant yn annog myfyrwyr i ystyried lleoliad yng Ngwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Hayley Moulding gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a olygodd y gallai’r blog hwn gael ei gwblhau.