Silwetau o bobl yn cerdded ac yn eistedd tra bod yr haul yn machlud dros bier Cymreig.

Silwetau o bobl yn cerdded ac yn eistedd tra bod yr haul yn machlud dros bier Cymreig.

Edrych tua'r dyfodol: pa heriau cyllido sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn 2025-26?

Cyhoeddwyd 15/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi bod yn brysur yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar yr hyn y maen nhw'n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2025-26. Ar hyn o bryd bwriedir cyhoeddi'r gyllideb ar 10 Rhagfyr.

Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych ar sut y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn edrych, gan gynnwys yr hyn y gallai Llywodraeth newydd y DU ei olygu ar gyfer cyllid sydd ar gael i Gymru, a rhai o'r blaenoriaethau sy'n deillio o waith y Pwyllgor Cyllid.

Sut y bydd Llywodraeth newydd y DU yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru?

Y diwrnod wedi’r Etholiad Cyffredinol, siaradodd y Prif Weinidog am "[g]yfnod newydd i'r Senedd a Llywodraeth Cymru.” Ond nid yw'n glir eto beth mae newid llywodraeth yn San Steffan yn ei olygu i'r arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Mae unrhyw gyllid newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir eisoes, yn dibynnu ar sut y mae Llywodraeth newydd y DU yn dewis gweithredu ei haddewidion maniffesto o ran polisi a gwariant. Fodd bynnag, yn ei haraith gyntaf ers dod yn Ganghellor, soniodd y Gwir Anrh Rachel Reeves AS am benderfyniadau anodd:

I have repeatedly warned that whoever won the general election would inherit the worst set of circumstances since the Second World War.

Mae'r Canghellor newydd wedi cyfarwyddo swyddogion y Trysorlys i ddarparu asesiad o gyflwr yr hyn mae’n ei alw’n etifeddiaeth gwariant Llywodraeth y DU, i'w gyflwyno i Senedd y DU cyn toriad yr haf. Byddai hyn ar wahân i'r Gyllideb a fyddai'n dal i gael ei chynnal yn ddiweddarach eleni, er na roddwyd dyddiad penodol.

Dadansoddwyd addewidion y maniffesto gan y Sefydliad Dadansoddi Cyllid a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Bu corff Dadansoddi Cyllid Cymru yn dadansoddi sut y byddai'r canfyddiadau hyn yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n tynnu sylw at y ffaith y gallai cynigion Llafur ar ddechrau’r etholiad, sy'n cynnal llwybrau gwariant presennol yn fras, arwain at heriau sylweddol i Lywodraeth Cymru.

Mae corff Dadansoddi Cyllid Cymru yn amcangyfrif y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, o dan Lywodraeth newydd y DU, yn cynyddu 1.1 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real, rhwng 2024-25 a 2028-29. Byddai hynny 0.2 pwynt canran yn uwch na chynlluniau gwariant blaenorol y llywodraeth Geidwadol.

Rydym hefyd eisoes wedi gweld effaith yr Etholiad Cyffredinol ar broses cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae amseru'r etholiad wedi golygu bod y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25, y byddem fel arfer yn ei gweld rywbryd ym mis Mehefin, wedi'i gohirio tan yr hydref.

Beth mae pobl eisiau ei flaenoriaethu?

O ystyried y diffyg twf posibl yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, bydd yn allweddol blaenoriaethu’r adnoddau sydd ar gael.

Mae ymgysylltiad diweddar y Pwyllgor Cyllid wedi'i gynllunio i roi rhagor o ddylanwad i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar benderfyniadau cyllidebol yn gynharach, er mwyn llywio cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Roedd strategaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys:

  • digwyddiad allanol i randdeiliaid yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin;
  • grwpiau ffocws gyda sefydliadau ac unigolion, wedi’u hwyluso gan dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd; a
  • digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys grŵp ffocws yng Ngholeg y Cymoedd gyda myfyrwyr 16-25 oed, a sesiwn galw heibio yn Eisteddfod yr Urdd.

Bydd sesiynau galw heibio pellach yn cael eu cynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt a'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

Canfyddiadau o'r digwyddiad i randdeiliaid

Yn y digwyddiad i randdeiliaid yng Nghanolfan S4C Yr Egin, tynnwyd sylw at nifer o bryderon ariannol allweddol, gan gynnwys:

  • anghydbwysedd cyffredinol rhwng ariannu gwasanaethau rheng flaen a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau ataliol, gan arwain at benderfyniadau gwariant adweithiol tymor byr gan Lywodraeth Cymru;
  • diffyg dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru o effaith ei phenderfyniadau gwariant, yn enwedig o ran lleihau cyllid a phennu blaenoriaethau cyllidebol; ac
  • angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ragor o setliadau ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol fel y gallant drosglwyddo cyllid tymor hir i sefydliadau y maent yn eu cefnogi.

Roedd rhai o'r materion blaenoriaeth a godwyd gan gyfranogwyr yn y digwyddiad i randdeiliaid yn cynnwys:

  • y ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus i ddarparu cymorth i bobl sy'n teimlo pwysau cynyddol oherwydd y cynnydd mewn costau byw, canlyniadau posibl pwysau ariannol ar y gwasanaethau hyn a sut y gallent effeithio ar wasanaethau'r GIG;
  • effaith anghyfartal y cynnydd mewn costau byw ar fenywod, effaith y codiadau mewn costau mewn ardaloedd gwledig a'r angen i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol drwy fesurau a buddsoddiad tymor hir;
  • symud i ffwrdd o ddull adweithiol tuag at ganolbwyntio ar flaenoriaethau strategol tymor hwy, megis gwario ataliol;
  • mynd i'r afael â'r pwysau cyllidebol a deimlir gan y rhai sy'n gweithio ac yn astudio yn y sectorau addysg, gwella mynediad at brydau ysgol am ddim drwy godi trothwyon incwm a mynd i'r afael â'r cynnydd yng nghostau’r diwrnod ysgol o ran gwisg ysgol, ymweliadau ac offer ar gyfer yr ysgol;
  • y cynnydd mewn cyllid ar gyfer y GIG, nad yw wedi'i adlewyrchu'n gymesur yng nghyllideb llywodraeth leol, a'r effaith negyddol y mae hyn wedi'i chael ar ariannu gofal cymdeithasol;
  • perthynas rhwng yr "argyfyngau" costau byw, tai a hinsawdd; buddsoddi mewn adeiladu tai carbon isel, o ansawdd da;
  • hybu economïau lleol drwy dargedu cyllid yn fwy effeithiol er budd cymunedau cyfan;
  • pwysigrwydd cefnogi'r Gymraeg i annog pobl ifanc i fyw a gweithio yn eu cymunedau; a
  • chostau gofal plant sy'n atal menywod rhag dychwelyd i'r gweithle.
Digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc

Mae'r Pwyllgor Cyllid eisoes wedi gwahodd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru (Y Senedd Ieuenctid) i gymryd rhan mewn gweithdy i drafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru.

Gan nad oedd y Senedd Ieuenctid mewn sesiwn eleni, casglwyd barn pobl ifanc drwy Grŵp Ffocws Dinasyddion penodol (a gafodd eu hymgorffori yng nghanfyddiadau grwpiau ffocws, isod) a sesiwn galw heibio yn Eisteddfod yr Urdd Meifod ym mis Mai 2024.

Y blaenoriaethau y tynnwyd sylw atynt yn y sesiwn galw heibio oedd:

  • cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion, yn enwedig o gwmpas amseroedd arholiadau;
  • mesurau i gefnogi'r amgylchedd, ffermio cynaliadwy a lliniaru newid yn yr hinsawdd;
  • prydau ysgol am ddim i bawb a gostwng pris gwisg ysgol; a
  • chyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad at y celfyddydau creadigol mewn addysg.
Grwpiau ffocws

Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion 15 o grwpiau ffocws ac un cyfweliad yn ystod mis Mehefin 2024 gydag 84 o gyfranogwyr. Roedd y canfyddiadau o'r sesiynau hyn yn cynnwys:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol oedd yn cael eu blaenoriaethu amlaf gan gyfranogwyr, gydag addysg yn ail agos, ac yna tai a digartrefedd.
  • Nodwyd bod trafnidiaeth, yr economi a diwylliant hefyd yn flaenoriaethau cyllido gan y rhan fwyaf o’r grwpiau.
  • Roedd yn well gan eraill weld mwy o effeithlonrwydd yn y ffordd yr oedd cyllid yn cael ei wario, yn hytrach na nodi unrhyw feysydd penodol ar gyfer gostyngiad.
  • Er bod gwahaniaeth barn o ran trethiant neu fenthyca, roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr ond eisiau gweld cynnydd mewn treth incwm i'r rhai sy'n gallu ei fforddio. Roedd unrhyw drethiant i'r cyhoedd yn gyffredinol yn amhoblogaidd gyda bron pob grŵp.

Beth fydd yn digwydd nesaf gyda chyllideb Llywodraeth Cymru?

Disgwylir i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 gael ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr 2024. Gallai'r dyddiad hwn newid ar ôl cyhoeddi amseriad cyllideb yr hydref y DU, cyn diwedd mis Gorffennaf.

Bydd gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi diweddariadau ar flaenoriaethau gwariant cyn y Gyllideb Drafft, yn tynnu sylw at y pwyntiau allweddol wedi iddi gael ei chyhoeddi a’i chynhyrchu yn fwy manwl.

Bydd y Senedd yn trafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar 17 Gorffennaf 2024, a gallwch ddilyn y ddadl ar SeneddTV.


Erthygl gan Božo Lugonja ac Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru