e-ragnodi: Y cam nesaf ym maes gofal iechyd digidol

Cyhoeddwyd 16/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae rhagnodi yn parhau i fod ar bapur yn bennaf yng Nghymru. Mewn gofal sylfaenol, er bod cod bar 2D ar besgripsiynau, mae angen i feddygon teulu a chlinigwyr eraill argraffu a llofnodi copïau caled o hyd cyn eu hanfon i fferyllfeydd.

Mae rhagnodi electronig - a elwir yn aml yn e-ragnodi - yn dileu'r angen i glinigwyr lofnodi'r copïau hyn yn bersonol, gan roi llofnodion electronig a phresgripsiynau yn eu lle. Wedyn, gellir anfon y rhain gan y rhagnodwr yn uniongyrchol i'r fferyllfa. O ganlyniad, gall rhagnodwyr ddefnyddio amser a arbedwyd yn llofnodi copïau caled, i drin cleifion, sydd yn eu tro yn gallu casglu presgripsiynau o unrhyw leoliad.

Cynigiwyd ymgorfforiad cynnar o e-ragnodi am y tro cyntaf yn Lloegr yn 2005 a chyflwynoddd yr Alban wasanaeth presgripsiwn cwbl electronig yn 2009. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am fod “mor ofnadwy o araf” i’w gyflwyno yma. Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Phwyllgor Fferyllol Cymru am weld Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i e-ragnodi gyda mwy o ymdeimlad o frys

Yn dilyn adolygiad annibynnol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ym mis Medi 2021 i ddatblygu gwasanaeth e-ragnodi yng Nghymru yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf, er mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud ei bod am ei weld yn digwydd yn gyflymach na hynny.

Beth yw manteision e-ragnodi?

Yn ôl GIG Digidol, yn Lloegr mae manteision e-ragnodi yn cynnwys:

  • mae rhagnodwyr yn prosesu presgripsiynau'n fwy effeithlon;
  • mae fferyllwyr yn lleihau gwastraff, yn gwella rheolaeth stoc ac yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon i gleifion; a
  • gall cleifion gasglu presgripsiynau amlroddadwy o fferyllfa heb ymweld â meddyg teulu.

Mae cyflwyno gwasanaeth e-ragnodi yn gwella diogelwch cleifion drwy leihau camgymeriadau mewn presgripsiynau,. Yn Lloegr, amcangyfrifwyd y gall awtomeiddio presgripsiynau amlroddadwy arbed 2.7 miliwn o oriau o amser meddygon teulu a phractisau.

Beth oedd wedi ei wneud hyd yn hyn yng Nghymru?

Er bod llawer o ffocws e-ragnodi ar ofal sylfaenol, mae hefyd yn cael ei gyflwyno mewn ysbytai. Yn 2017, dynodwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bo Morgannwg (a elwir bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) yn fraenarwr cenedlaethol o ran e-ragnodi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r bwrdd iechyd bellach bron â dileu siartiau cyffuriau papur mewn 15 o wardiau meddygol ar draws ysbytai Castell-nedd Port Talbot a Singleton gan eu disodli â system e-ragnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau mewn Ysbytai (HEPMA).

Mae HEPMA yn caniatáu i ragnodwyr gwblhau presgripsiwn yn ddigidol ac mae nyrsys yn defnyddio cyfrifiaduron i gael gafael ar fanylion llawn meddyginiaeth, dos, amlder a hyd y defnydd. Mae'r system electronig hefyd yn amlygu alergeddau cleifion i gyffuriau neu os yw cyffur penodol yn anaddas i'w gymryd gyda meddyginiaeth y gallai claf fod yn ei gymryd eisoes.

Rhwng mis Chwefror a mis Mai 2021, canfu rhaglen beilot y bwrdd iechyd fod cyflwyno HEPMA wedi lleihau’r amser y mae nyrsys yn ei dreulio ar rowndiau meddyginiaeth mewn pedair ward yng Nghastell-nedd Port Talbot 125 awr yn ystod y treial. Canfuwyd bod camgymeriadau posibl mewn presgripsiynau wedi lleihau yn ystod y peilot, gan ganiatáu i nyrsys ddarparu mwy o ofal ymarferol yn ystod pandemig COVID-19.

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer Cymru?

Yn ei adolygiad yn 2021, argymhellodd Iechyd a Gofal Digidol y dylid darparu gwasanaeth e-ragnodi ar draws pedwar maes gwahanol: gofal sylfaenol, gofal eilaidd, mynediad cleifion, ac ystorfa data meddyginiaethau. Bydd yn cymryd yr awenau o ran cyflwyno'r rhaglen yn ystod y 3-5 mlynedd nesaf.

Gofal sylfaenol

Ar hyn o bryd mae clinigwyr gofal sylfaenol yn defnyddio systemau electronig amrywiol i gynhyrchu presgripsiynau ond mae’n rhaid iddynt argraffu a llofnodi copïau caled, sy’n cael eu harchifo er mwyn i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gyflwyno adroddiad arnynt. Bydd presgripsiynau’n cael eu digideiddio’n gyfan gwbl gan ddileu’r angen am y copïau caled hynny a galluogi trosglwyddiad uniongyrchol rhwng y rhagnodwr a’r fferyllfa.

Llinell Amser: 1-2 flynedd ar gyfer galluoedd craidd; 2-3 blynedd i’w gyflwyno'n llawn

Gofal Eilaidd

Bydd llwyfan electronig ar gyfer presgripsiynau’n cael ei gyflwyno mewn ysbytai, gan gynnwys siartiau cyffuriau electronig i symleiddio'r broses o weinyddu. Bydd cynllun peilot HEPMA Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael ei ddefnyddio fel sail i lunio'r rhaglen genedlaethol.

Llinell Amser: 1-2 flynedd ar gyfer y “Braenarwr” cyntaf; hyd at 5 mlynedd i’w gyflwyno mewn ysbytai allweddol

Mynediad Cleifion

Bydd y rhaglen e-ragnodi yn partneru â'r rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd i ddatblygu nodweddion newydd yn ap GIG Cymru. Bydd yr ap yn caniatáu i gleifion archebu presgripsiynau amlroddadwy yn electronig, cofnodi pryd y maent wedi cymryd meddyginiaeth ac o bosibl gael gafael ar wybodaeth am gymryd eu meddyginiaeth.

Llinell Amser: 1-2 flynedd ar gyfer galluoedd craidd, parhaus

Ystorfa Data Meddyginiaethau

Bydd y system yn galluogi clinigwyr ar draws gwahanol ysbytai i gael gafael ar gofnod meddyginiaeth cleifion, o dan reolaeth lem. Mae hyn ni waeth ble y cawsant eu rhoi yng Nghymru neu a oeddent mewn gofal sylfaenol neu eilaidd.

Llinell Amser: 1-2 flynedd ar gyfer galluoedd craidd.

A yw e-ragnodi yn fyw ledled y DU ac Ewrop?

Lloegr

Yn 2005, ychwanegwyd codau bar at bresgripsiynau a sefydlwyd y sylfeini a'r seilwaith ar gyfer e-ragnodi. Erbyn 2018, roedd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn fyw mewn dros 99 y cant o fferyllfeydd cymunedol a thros 91 y cant o bractisau meddygon teulu. Cynyddodd e-bresgripsiynau i 86 y cant o’r holl bresgripsiynau mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn Lloegr yn ystod ton gyntaf pandemig COVID-19.

Yr Alban

Cyhoeddodd GIG yr Alban raglen newydd o Ragnodi a Gweinyddu Digidol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd ym mis Ebrill 2021. Yn 2009 yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddarparu gwasanaeth presgripsiwn cwbl electronig gyda dros 90 y cant o bresgripsiynau’n cael eu cyflwyno’n electronig a thros 99 y cant o fferyllfeydd a meddygfeydd yn gallu defnyddio’r system.

Yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r UE yn cyflwyno gwasanaeth eBresgripsiwn ac eDdosbrthiad ar draws Aelod-wladwriaethau, sy’n caniatáu i ddinasyddion yr UE gael meddyginiaeth mewn fferyllfa sydd mewn gwlad arall yn yr UE. Roedd y cleifion cyntaf i ddefnyddio'r gwasanaeth yn Estonia a'r Ffindir (Ionawr 2019). Disgwylir i'r gwasanaeth gael ei ddefnyddio ar draws 25 o wledydd yr UE erbyn 2025.

Beth yw'r rhwystrau?

Mae angen i wasanaeth e-ragnodi gael ei weithredu'n iawn mewn system iechyd i weithio mewn gwirionedd a bod o fudd i gleifion. Mae cymorth ariannol gwael, diffyg hyfforddiant i staff neu integreiddio proses newydd yn wael i system TG bresennol ymhlith rhai yn unig o’r rhwystrau rhag gweithredu.

Gall methu â goresgyn y problemau hyn arwain at fathau newydd o gamgymeriadau, fel mewngofnodi cyfarwyddiadau dosio, nifer y cyffuriau neu wybodaeth am gleifion yn anghywir. Gall y camgymeriadau hyn leihau effeithlonrwydd mewn gwirionedd a chynyddu cost meddyginiaeth o ganlyniad i gywiro camgymeriadau cyfrifiadurol.

Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu ymhellach y pwysau sy’n wynebu’r GIG. Efallai y bydd cyflwyno gwasanaeth e-ragnodi yn cyfrannu at ryddhau amser gwerthfawr i ymdrin ag ôl-groniadau cleifion ar draws y sector gofal iechyd.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru