Datblygiadau yn y diwydiant dur oedd un o'r materion gwleidyddol amlycaf yn 2016. Beth yw'r prif bwysau sy'n wynebu'r diwydiant a sut all Llywodraeth newydd Cymru helpu i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy iddo?
Penderfyniad Tata Steel ym mis Mawrth 2016 i werthu ei asedau yn y DU oedd y datblygiad diweddaraf mewn 'storm berffaith' o heriau diweddar i’r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU. Yn ogystal â'r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, mae gan Tata nifer o weithfeydd eraill yng Nghymru: Llanwern, yr Orb yng Nghasnewydd, Shotton, a Throstre ger Llanelli. Ymhlith y cynhyrchwyr eraill sydd â gweithfeydd yng Nghymru mae Celsa Steel a Liberty House Steel UK. Ledled Cymru, roedd 6,420 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau haearn a dur yn 2015, ac roedd y diwydiant dur sylfaenol a'r gadwyn gyflenwi yn cyfrif am yn agos at 20,000 o swyddi. Canfu’r Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd mai £3.2 biliwn yw cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru bob blwyddyn, a'i fod yn cefnogi Gwerth Ychwanegol Gros o £1.6 biliwn. Mae Tata yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae pob swydd yn Tata yn cefnogi 1.22 o swyddi eraill yn economi Cymru. Beth yw'r opsiynau i sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata Steel? Cymerodd naw mis i gael y cytundeb gwerthiant amodol ar gyfer gweithfa Tata yn Scunthorpe ym mis Ebrill 2016, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi annog Tata i ganiatáu digon o amser ar gyfer gwerthu. Ym mis Mawrth 2016, prynodd Llywodraeth yr Alban ddau o weithfeydd dur Tata cyn eu gwerthu ymlaen i Liberty Steel ar yr un diwrnod. Mae'r opsiynau posibl ar gyfer safleoedd Tata yn cynnwys: gwerthu'r holl weithfeydd; rheolwyr yn prynu safleoedd penodol; gwladoli; cyd-fuddsoddi rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat; rhewi'r safleoedd dros dro yn eu cyflwr presennol i alluogi eu hailagor yn y dyfodol; neu gau'r cyfan. Cynigiodd Llywodraeth flaenorol Cymru becyn gwerth dros £60 miliwn i Tata, a oedd yn cynnwys cyllid ar gyfer cynnyrch amgylcheddol a sgiliau a hyfforddiant, a benthyciad masnachol i ddatblygu llinell galfaneiddio ar gyfer gorchuddio dur. Trafodwyd hefyd gyd-fuddsoddi mewn gorsaf bŵer ar safle Port Talbot, a fyddai'n arwain at gostau ynni is ac at ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon. O ystyried maint y buddsoddiad sydd ei angen yng ngweithfeydd Tata, byddai hefyd angen cymorth gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y byddai'n ystyried cyd-fuddsoddi â phrynwr ar delerau masnachol, gan gynnwys, o bosibl, derbyn y cyfrifoldeb am rai o'r dyledion sy'n gysylltiedig â'r gweithfeydd. Gallai Llywodraeth y DU hefyd helpu gyda’r cyflenwad pŵer, drwy Gynllun Pensiwn Dur Prydain, ac o ran y seilwaith. Sut mae mynd i'r afael â’r heriau sy'n wynebu'r sector? Ar ddechrau’r argyfwng, roedd y diwydiant o’r farn ei fod yn wynebu pum prif her, ac mae pedwar ohonynt yn bryderon mawr i'r sector o hyd. Mae rhai o'r rhain yn feysydd sydd heb eu datganoli, sy'n golygu y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn.Beth yw dympio, a pha fesurau sy'n cael eu defnyddio i'w atal ar hyn o bryd?
Ystyr dympio yw pan fydd pris allforio cynnyrch fel dur yn is na phris y farchnad yng ngwlad yr allforiwr, neu efallai hyd yn oed yn is na'r pris cost. Mae’r UE yn ymchwilio i'r achosion hyn, ac mae'n gallu gosod tariffau ar lefel y dympio, oni bai y byddai tariff is yn gwneud iawn am y golled i gynhyrchwyr yn yr UE. Y rheol 'dyletswydd leiaf' yw’r enw ar hyn.
Mae 'dympio' dur yn cael sylw ar lefel yr UE, ac mae'r pryderon yn ymwneud â gallu dur Ewropeaidd i gystadlu'n fyd-eang ag allforion Tsieina a Rwsia. Lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i fynd i'r afael â'r heriau hyn ym mis Mawrth 2016, gan gynnwys lleihau faint o amser y mae ymchwiliadau gwrth-ddympio yn ei gymryd a newid y ffordd y mae tariffau gwrth-ddympio yn cael eu cyfrifo mewn rhai amgylchiadau. Pryder arall yw'r effaith y byddai dyfarnu Statws Economi'r Farchnad i Tsieina yn ei chael ar gamau y gellid eu cymryd yn erbyn 'dympio'. Mae prisiau ynni ar gyfer cynhyrchwyr dur yn y DU yn uwch na gwledydd eraill Ewrop, er bod Llywodraeth y DU yn digolledu diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni. Er bod cynhyrchwyr dur wedi croesawu'r pecyn digolledu, maent yn dal i dalu llawer mwy am drydan na’u cystadleuwyr yn Ewrop ac maent am weld rhagor yn cael ei wneud Mae'n debyg bod ardrethi busnes sy'n cael eu talu gan gynhyrchwyr yn y DU rhwng pump a deg gwaith yn uwch na'r rhai mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Yng Nghymru, mae pwerau dros ardrethi busnes wedi'u datganoli'n llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae'r sector wedi galw am beidio â chynnwys gwerth peiriannau a pheirianwaith wrth gyfrifo biliau ardrethi busnes, gan fod hynny’n cymell cwmnïau i beidio â buddsoddi. Ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn dal i ystyried sut i fynd i'r afael â'r mater hwn ar gyfer holl ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru. Mae'r diwydiant dur hefyd am i sector cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddefnyddio'r broses gaffael ar gyfer prosiectau seilwaith mawr i roi mwy o gefnogaeth i ddur y DU. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru o'r farn bod ei pholisïau caffael yn cefnogi egwyddorion y Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydeinig, er bod y diwydiant wedi galw am fonitro a gweithredu polisïau caffael yn agosach. Mae Tasglu Tata, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, yn datblygu rhestr o brosiectau seilwaith a allai fod o gymorth i'r diwydiant dur, ac yn edrych ar sut y mae prosiectau cyfalaf mawr yn gosod meini prawf ar gyfer caffael dur. Mae'r diwydiant dur hefyd wedi nodi y byddai cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn ymchwil a datblygu yn ffordd i ddatblygu'r sector dur. Bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddyfodol agos a dyfodol hirdymor y diwydiant. Gan fod miloedd o swyddi a dyfodol diwydiant cyfan yn y fantol, un o'r heriau mawr cyntaf i Lywodraeth nesaf Cymru fydd gweithio â phartneriaid i leddfu'r pwysau sy'n wynebu'r sector hwn. Ers i’r erthygl hon gael ei hysgrifennu ar gyfer copi caled y cyhoeddiad Materion o Bwys, bu nifer o ddatblygiadau:- Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno manylion pellach am gymorth a allai fod ar gael i’r prynwr llwyddiannus, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd yn cymryd cyfran ecwiti o hyd at 25%;
- Mae Tata wedi cyhoeddi bod saith ymgeisydd wedi cyrraedd cam nesaf y broses ymgeisio. Mae’r rhain yn cynnwys Liberty Steel ac Excalibur Steel UK, a’r sôn yw eu bod hefyd yn cynnwys Greybull Capital, JSW Steel a Nucor; ac
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi cynnig cymorth ariannol i gynnig Excalibur Steel UK, ond nid yw’n hysbys eto beth yw gwerth y cymorth hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gefnogaeth ffurfiol o gais Excalibur gan fod cymorth ar gael i ymgeiswyr eraill os byddant yn gofyn amdano.
- Llywodraeth Cymru, Tasglu Tata (gwefan)
- UK Steel, Energy costs and the steel sector (Saesneg yn unig) (2016)
- UK Steel, The future of the UK steel sector (Saesneg yn unig) (2016)
- Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, The Economic Impact of Tata Steel in Wales (Saesneg yn unig) (2012)
- Y Comisiwn Ewropeaidd, Gwrth-ddympio (gwefan) (Saesneg yn unig)
- Y Pwyllgor Dethol ar Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, Tŷ'r Cyffredin, Diwydiant dur yn y DU: Ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng (Saesneg yn unig) (2015)
- Y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, Strong foundation industries: How improving conditions for core material producers could boost UK manufacturing (Saesneg yn unig) (2016)