Dyfodol trafnidiaeth mwy gwyrdd i Gymru?

Cyhoeddwyd 27/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/12/2020   |   Amser darllen munudau

Trafnidiaeth yw'r sector mwyaf sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr yn y DU. Dyma’r sector oedd i gyfrif am 24% o allyriadau'r DU yn 2019, ac 16% o allyriadau Cymru yn 2018 (bydd data 2019 ar gyfer Cymru ar gael ym mis Rhagfyr 2020). Er ei bod yn anochel bod pandemig y coronafeirws wedi golygu gostyngiad mewn allyriadau o drafnidiaeth, yn bennaf oherwydd llai o deithiau car, nid yw'r argyfwng hinsawdd wedi diflannu.

Yn Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y gallai newidiadau sydyn iawn yn ymddygiad pobl, yn cynnwys teithio, roi cyfleoedd posibl ar gyfer datgarboneiddio:

Yn y cyfnod ar ôl y pandemig, bydd cymysgedd o heriau trafnidiaeth hen a newydd yn dod i'r amlwg, yn enwedig cynaliadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus sy’n caniatáu cadw pellter cymdeithasol; hwyluso teithio llesol ochr yn ochr â defnydd hanfodol o geir; a sicrhau bod datgarboneiddio wrth wraidd trefniadau newydd ar gyfer rheilffyrdd.

Ddiwedd 2019, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (ESS) ymchwiliad i ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Er bod y rhan fwyaf o'r dystiolaeth wedi'i chasglu cyn y pandemig, mae'r adroddiad yn myfyrio ar sut y gall gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig ddylanwadu ar y modd yr ydym yn mynd i’r afael â thrafnidiaeth yn y dyfodol. Archwiliwyd ystod o feysydd, gan gynnwys modelau cyllido, technoleg, trafnidiaeth gyhoeddus, cludo llwythi, rheilffyrdd, hedfan a morgludiant, a newid moddol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ym mis Medi, a darparodd ddiweddariad pellach ganol mis Tachwedd.

Mae'r blog hwn yn edrych ar ganfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor, wedi'u gosod yn erbyn y cyd-destun polisi ehangach a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd.

Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni?

Mae uchelgais gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau trafnidiaeth wedi'i nodi yn ei chynllun carbon isel, Ffyniant i Bawb: Cymru carbon isel. Mae'r cynllun yn amlinellu polisïau a chynigion i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged o leihau allyriadau'r sector trafnidiaeth 43% (o'r lefelau sylfaenol) erbyn 2030. Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu teithio llesol a’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus; newid ymddygiad; a mesurau i gefnogi cerbydau trydan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio ei thargedau datgarboneiddio trafnidiaeth fel rhai hynod uchelgeisiol. Ond roedd rhywfaint o'r dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn awgrymu nad yw'r targedau'n mynd yn ddigon pell os yw Cymru o ddifrif ynghylch ei datganiad o argyfwng hinsawdd a chyflawni ei huchelgais datgarboneiddio (gostyngiad o 95% mewn allyriadau erbyn 2050, gydag uchelgais i gyflawni allyriadau sero-net erbyn yr un dyddiad).

Fodd bynnag, roedd eraill yn awgrymu, o ystyried y cyd-destun polisi (cyn y pandemig), gyda ffactorau megis tagfeydd, technoleg, a phwerau cyfyngedig dros hedfan a morgludiant), bod y targedau yn rhy uchelgeisiol ac yn annhebygol o gael eu cyflawni heb weithredu radical.

Y DU ehangach

Mae’r setliad datganoli yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau datgarboneiddio carbon. Mae meysydd allweddol fel safonau cerbydau modur a chynllunio ac ariannu seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Er bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd, mae hedfan yn fater a gedwir yn ôl. O ganlyniad, bydd polisi Llywodraeth y DU mewn perthynas â datgarboneiddio trafnidiaeth yn cael effaith sylweddol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn datblygu ei chynllun ei hun ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth, gan adeiladu ar ei Road to Zero Strategy. Mae cynllun 10 pwynt ar gyfer “Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd” Llywodraeth y DU yn addo dod â gwerthiant ceir a faniau petrol a disel newydd i ben erbyn 2030, ddeng mlynedd ynghynt na’r bwriad gwreiddiol, a chynyddu buddsoddiad ar gyfer seilwaith cerbydau trydan a grantiau ar gyfer cerbydau.

Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru, Llwybr Newydd, ar 17 Tachwedd. Mae'r strategaeth yn nodi uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth gynaliadwy a hygyrch. Mae'r cyntaf o bum blaenoriaeth a nodwyd yn canolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng hinsawdd trwy fynd i'r afael â datgarboneiddio ar draws pob sector trafnidiaeth. Bydd hefyd yn datblygu Llwybr Datgarboneiddio, ac yn defnyddio ystod o ysgogiadau rheoleiddio, ariannol a pholisi eraill.

Dywed y strategaeth y bydd y Llwybr yn rhan o gynllun cyflawni carbon isel nesaf Llywodraeth Cymru (sydd i ddod yn 2021), a bydd yn cynnwys darnau penodol o waith gan gynnwys:

  • Cynllun gwefru cerbydau trydan;
  • Cynllun rheoli’r galw;
  • Gwaith ar hydrogen a datblygiadau arloesol eraill; a
  • Mentrau sydd â’r nod o newid ymddygiad, megis prisio ffyrdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei chynllun gwefru cerbydau trydan ar gyfer ymgynghori arno erbyn diwedd 2020. Yn ei ymchwiliad i wefru cerbydau trydan nododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y capasiti ynni a’r grid fel rhwystr i symud i gerbydau trydan llawn. Y gobaith yw y bydd y cynllun sydd i ddod yn rhoi mwy o fanylion ar sut y bydd seilwaith i gefnogi cerbydau trydan yn cael ei ddatblygu a'i roi ar waith ledled Cymru.

Yn ôl sector

Rheilffyrdd

Yn ystod ei ymchwiliad clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod rheilffyrdd yn un o'r moddau trafnidiaeth carbon isaf. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) y bydd ei gynlluniau i drydaneiddio 'Cledrau Craidd y Cymoedd' yn arwain at linellau sy'n cael eu pweru’n llwyr gan ynni adnewyddadwy, gan arwain at ostyngiad o 25% mewn allyriadau carbon ar draws y rhwydwaith. Cydnabu'r Pwyllgor fod technolegau trosi tanwydd, a datblygu strategaethau ar gyfer tyniant di-garbon yn cynnig cyfle sylweddol ar gyfer datgarboneiddio’r rheilffyrdd.

Mae'r strategaeth drafnidiaeth newydd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth y DU dros y pum mlynedd nesaf i drydaneiddio fflyd rheilffyrdd Cymru erbyn 2040.

Bysiau

Roedd y cynllun carbon isel yn gosod ymrwymiad na fydd gan unrhyw fws yng Nghymru allyriadau pibell egsôst erbyn 2028. Argymhellodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu ei syniadau diweddaraf ar gost-effeithiolrwydd cymharol ôl-addasu bysiau disel mwy newydd i fod yn gerbydau trydan, yn hytrach na disodli'r fflyd gyfan â cherbydau trydan newydd, yn dilyn materion a godwyd gan y sector, yn enwedig ynghylch costau.

Mewn llythyr diweddar i’r Pwyllgor, yn diweddaru ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor, cydnabu Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, y bydd angen cefnogaeth ar y sector bysiau i drosglwyddo i fflyd sy’n gwbl ddi-allyriadau erbyn 2028. Addawodd gynllun i gyflawni'r nod hwn.

Tacsis a cherbydau hurio preifat

Amlinellodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr angen i'r sector tacsis a hurio preifat gael cefnogaeth i ddatgarboneiddio, a galwodd am fanylion pellach am gynlluniau ac amserlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio trwyddedu yn y sector.

Dywed y strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau’r newid i gerbydau dim allyriadau, ac mae wedi amlinellu ei gynlluniau i gyflwyno cynllun “rhoi cynnig arni cyn prynu” ar gyfer cerbydau trydan. Bydd hefyd yn edrych ar gymhellion fel cynlluniau prydles, benthyciadau a rheoleiddio, i hwyluso'r newid i gerbydau glanach. Mae'r cam gweithredu hwn wedi'i osod yn erbyn targed y cynllun cyflawni carbon isel i bob cerbyd trwyddedig fod yn un di-allyriadau erbyn 2028.

Cludo llwythi

Cludo llwythi yw un o'r meysydd lle nododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ddiffyg cyfeiriad a ffocws yng nghynllun carbon isel cyfredol Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn amlinellu ei bwriad i ddatblygu dull o ymdrin â'r twf sylweddol mewn dosbarthu milltir olaf a chyflym, a deall y ffordd orau o reoli hyn ochr yn ochr ag uchelgeisiau i leihau tagfeydd a mynd i'r afael â datgarboneiddio. Mae’n nodi:

Bydd gan Gymru y seilwaith, y gallu a'r adnoddau i gefnogi sector cludo llwythi a logisteg mwy cynaliadwy, gan gynnwys modelau busnes arloesol sy'n annog twf masnachol ochr yn ochr â datgarboneiddio.

Byddwn yn gweithio gyda'r sectorau a phartneriaid i nodi mesurau ystyrlon ar gyfer cludo llwythi a logisteg er mwyn deall yn well y rhyngweithio cymhleth rhwng cludo llwythi, logisteg a'r rhwydwaith ehangach, a phennu targedau ar gyfer datgarboneiddio.

Hedfan a morgludiant

Mae hedfan a morgludiant yn feysydd lle mae gan Lywodraeth Cymru lai o ysgogiadau i symud ymlaen â’i hagenda datgarboneiddio. Galwodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar i Lywodraeth Cymru amlinellu sut mae Maes Awyr Caerdydd yn cyd-fynd â’i chynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel, a beth yw ei disgwyliadau ar gyfer datgarboneiddio byr dymor a hirdymor.

Mae'r strategaeth drafnidiaeth newydd yn cydnabod yr heriau datgarboneiddio yn y sector hedfan. Dywed fod gan Faes Awyr Caerdydd strategaeth ddatgarboneiddio gadarn, sy'n cyflawni mesurau fel cynhyrchu ar y safle, allforio ynni ac adeiladau carbon niwtral - a'i bod yn gweithio gyda'r maes awyr i leihau effeithiau amgylcheddol hedfan. Ar gyfer porthladdoedd, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n darparu seilwaith porthladdoedd mwy cynaliadwy ac sy'n cyfrannu at ddatgarboneiddio yn y sector.

Trafnidiaeth gymunedol

Mae'r strategaeth newydd hefyd yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y sector trafnidiaeth gymunedol. Dywed y bydd annog pobl i deithio gyda'i gilydd yn lleihau effaith teithio ar yr amgylchedd. Mae'n amlinellu nod Llywodraeth Cymru i nodi cwmpas a photensial trafnidiaeth y trydydd sector, a deall yn well y manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach y mae'n eu darparu. Mae'n nodi ei nod, sef y bydd trafnidiaeth gymunedol, erbyn 2040, wedi gwneud mwy o ddefnydd o dechnolegau cerbydau amgen

Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhelliad y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n well â'r sector trafnidiaeth gymunedol ar ei hagenda datgarboneiddio, a darparu cymorth am gerbydau, seilwaith a gweithrediadau.

Teithio llesol

Roedd un o argymhellion y Pwyllgor ar annog teithio llesol diogel, a'r angen i ddarparu cefnogaeth i awdurdodau lleol i ddarparu seilwaith addas mewn ymateb i'r pandemig. Mae hyn yn fwy perthnasol nag erioed o ystyried y newid ymddygiad diweddar a’r newid moddol, ac yng ngoleuni'r heriau y mae'r pandemig wedi'u cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r strategaeth newydd yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol, ac yn dyrchafu’r manteision i'r amgylchedd, allyriadau, ansawdd aer a bioamrywiaeth. Er bod y Pwyllgor wedi crybwyll teithio llesol fel rhan o'i ymchwiliad, roedd y ffocws yn fwy ar y meysydd a amlinellwyd uchod er mwyn osgoi dyblygu ei waith blaenorol ar deithio llesol yn 2018.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 2 Rhagfyr, a gallwch wylio'n fyw ar Deledu'r Senedd.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru