Ar 25 Tachwedd, bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod canfyddiadau ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch llwybrau prentisiaeth. Edrychodd yr ymchwiliad ar arfer da a'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â llwybrau prentisiaeth, yn amrywio o'r wybodaeth, y cymorth a'r mynediad i ddysgwyr i'r cymorth i gyflogwyr a'r heriau sy'n eu hwynebu. Hefyd, trafododd y Pwyllgor rôl a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ymhlith rhanddeiliaid eraill.
Ceir nifer o wahanol fathau o brentisiaeth. Mae'r rhain yn amrywio o brentisiaethau iau, i'r rhai 14-16 oed, i brentisiaethau gradd i'r rhai sy'n awyddus i gyfuno dysgu yn y gweithle drwy brentisiaeth draddodiadol â chymhwyster addysg uwch.
Hefyd, trafodwyd rhai materion yn ymwneud â phrentisiaethau yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Llwybrau i Addysg a Hyfforddiant Ôl-16.
Prentisiaethau yng Nghymru
Er bod rhai agweddau ar brentisiaethau, fel yr ardoll prentisiaethau a chyfraith cyflogaeth, yn berthnasol i bob un o bedair gwlad y DU, mae’r cyfeiriad polisi a'r weinyddiaeth yn faterion datganoledig, gan arwain at bedwar system wahanol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn darparu cyhoeddiad chwarterol ynghylch rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd sy’n cael eu cofnodi yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 100,000, a gafodd ei ostwng o darged cychwynnol y Rhaglen Lywodraethu o ddechrau 125,000 o brentisiaethau ar ddechrau'r chweched Senedd.
Mae’r data dros dro diweddaraf yn nodi erbyn mis Ebrill 2025 bod 77,385 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers pedwerydd chwarter 2020/21 fel rhan o'r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru. Ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ei fod yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei tharged diwygiedig.
Ar hyn o bryd, mae Medr yn edrych ar ddylunio Rhaglen Brentisiaethau newydd i Gymru a fydd yn dechrau ar 1 Awst 2027, ac mae wedi ymgynghori â chyflogwyr, darparwyr dysgu a'r rhai sydd â phrofiad o brentisiaethau fel rhan o'r gwaith hwn.
Fe wnaeth ymatebion i ymgynghoriad Medr ar y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru dynnu sylw at arfer da ar draws pob sector cyflogaeth, ond cododd yr angen am ddarpariaeth fwy hyblyg ac ymateb i'r economi newidiol ac anghenion y diwydiant.
Materion polisi allweddol
Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, adroddodd rhanddeiliaid am amryw o achosion o arfer da yn y system prentisiaethau, yn ogystal ag ystod o gyfyngiadau yn y rhaglen brentisiaethau bresennol yng Nghymru. Roedd y materion allweddol yn cynnwys:
Mae angen gwneud mwy i hyrwyddo prentisiaethau fel opsiwn hyfyw i ddysgwyr
Awgrymodd rhai rhanddeiliaid fel Educ8 training y gall y wybodaeth a ddarperir i ddysgwyr atal rhai dysgwyr rhag cydnabod prentisiaeth fel llwybr hyfyw. Maent yn credu y gall diffyg eglurder a natur ddryslyd y wybodaeth a ddarperir i bobl ifanc wneud y canlynol:
Result in misleading, biased or incomplete guidance, leaving potential learners without access to the comprehensive range of options necessary to make informed decisions about their future.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
More work [needs] to be done from a younger age in schools on apprenticeship routes and pathways and also with parents/ carers.
Mae'r Pwyllgor yn credu y dylid rhoi gwybodaeth ddiduedd a chywir i ddysgwyr am eu dewisiadau a'r opsiynau sydd ar gael drwy lwybrau academaidd a galwedigaethol. Dywedodd y dylid sicrhau pwyslais parhaus ar gydraddoldeb parch drwy hyrwyddo prentisiaethau fel dewisiadau sydd â gwerth cyfartal â dewisiadau academaidd.
Mae cymorth a chyfleoedd prentisiaeth yn amrywio ar draws gwahanol ranbarthau Cymru.
Dywedodd rhai rhanddeiliaid fod ffactorau fel teithio a seilwaith yn effeithio'n anghyfartal ar ddarpariaeth prentisiaethau ledled Cymru, gydag ardaloedd gwledig yn teimlo'r effeithiau negyddol yn arbennig. Yn ystod gwaith y Pwyllgor o ymgysylltu â dinasyddion, tynnodd un o’r cyfranogwyr sylw at effaith gwahaniaethau rhanbarthol ar eu penderfyniad ynghylch ble i fagu eu plant:
Rwy'n dod o ardal wledig o Gymru ond yn byw yn y ddinas ar hyn o bryd, gan fy mod eisiau i fy mhlant gael cyfleoedd gyrfa nad ydynt ar gael iddynt mewn ardaloedd gwledig.
Er ei fod yn cydnabod nad yw rhai o’r ffactorau hyn yn llwyr dan reolaeth Llywodraeth Cymru, mae'r adroddiad yn dweud y dylai ddefnyddio pob dull i gael ddileu neu leihau rhwystrau i bob dysgwr.
Rhaid targedu profiad gwaith ac iddo fod yn ystyrlon
Er bod ACT Training yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan brofiad gwaith i'w chwarae yn yr addysg a’r llwybrau gyrfa i ddysgwyr, tynnodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru sylw at rôl hanfodol profiad gwaith ystyrlon o ran codi ymwybyddiaeth am lwybrau prentisiaeth.
Mae'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad, er mwyn cael yr effaith orau, y dylai cyfleoedd profiad gwaith fod o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddynt.
Mae pryder ynghylch y gostyngiad yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd
Mae dau ddatganiad ystadegol diweddaraf Medr, ym mis Awst 2025 ac ym mis Mehefin 2025, yn dangos gostyngiad yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd wrth gymharu data tebyg â'r un chwarter y flwyddyn flaenorol.
Mae Estyn yn priodoli’r gostyngiad hwn mewn prentisiaethau i'r gostyngiad o 14% mewn cyllid prentisiaethau ar gyfer darparwyr, yn ogystal â cholli cyfraniadau Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae'r Pwyllgor yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddeall effaith gostyngiad yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar hyder busnesau, dysgwyr ac economi Cymru.
Beth nesaf i brentisiaethau yng Nghymru?
Yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, mae nifer o sefydliadau wedi galw am wneud mwy ynghylch prentisiaethau:
- Mae’r maniffesto ar gyfer prentisiaethau gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn galw ar bob plaid i ymrwymo i ddechrau 200,000 o brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd.
- Mae Colegau Cymru galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ailymrwymo i raglen brentisiaethau newydd.
- Mae’r Brifysgol Agored yn galw am well cefnogaeth a chyllid ar gyfer prentisiaethau gradd
- Mae Prifysgolion Cymru yn galw am fwy o ryddid i brifysgolion ddylunio a chyflwyno prentisiaethau mewn partneriaeth â busnesau, yn ogystal ag adolygiad annibynnol a thryloyw o brentisiaethau gradd
- Mae Cymdeithas Dietegwyr y DU yn galw am lwybrau amgen i'r proffesiwn fel prentisiaethau gradd
- Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu nifer y prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog drwy fuddsoddiad ychwanegol
Canfu'r Pwyllgor nad yw llwybrau i'r rhai sy'n ceisio dilyn prentisiaeth mor glir â'r rhai ar gyfer llwybrau academaidd. Fel y nodwyd yn rhagair y Cadeirydd:
Mae’r llwybr academaidd yn glir, ac mae ysgolion yn gweithio'n galed i baratoi’r ffordd i’w myfyrwyr a’u hannog i symud ymlaen i gyrsiau Safon Uwch a gradd, ond nid felly y mae hi gyda llwybrau prentisiaeth.
Erthygl gan Dr. Thomas Morris, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru