Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 21/02/2023   |   Amser darllen munudau

Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru - cyhoeddwyd adroddiad terfynol panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru ar ddydd San Ffolant, 14 Chwefror.

Pan gyhoeddwyd yr adolygiad fis Mehefin 2021, dyfodol y cynlluniau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad gafodd y prif sylw.

Ond mae’n mynd gryn dipyn ymhellach na hyn, mae’n drobwynt sylfaenol yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn priffyrdd.

Mae’n destun siom i rai, ond yn destun llawenydd i eraill. Fodd bynnag, o gofio bod cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau dan fygythiad bydd angen i Lywodraeth Cymru fod yn siŵr y gall y dull newydd hwn o weithredu lwyddo.

Pam gafodd yr adolygiad ei gomisiynu?

Gwelwyd newidiadau polisi sylweddol ers cyflwyno nifer o’r cynlluniau. Yn ôl yr adroddiad, ei sail resymegol yw archwilio’r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, asesu a ydynt yn gydnaws â’r polisïau hyn, a gwneud argymhellion ynghylch polisi yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac aeth ati i bennu targedau er mwyn sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050.

Er mai allyriadau trafnidiaeth ar y ddaear yw trydedd ffynhonnell allyriadau fwyaf Cymru, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud nad yw’r allyriadau hyn wedi newid fawr ddim ers 1990.

Mae’r “llwybr newydd” yn Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru (2021), yn canolbwyntio ar leihau’r angen i deithio a hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio. Mae’r strategaeth a’r fersiwn ddiweddaraf o’r polisi cynllunio defnydd tir yn ymdrechu i ymwreiddio’r “hierarchiaeth trafnidiaeth gynaliadwy”.

Bws yn gadael gorsaf fysiau am Fangor yng ngogledd Cymru.Nod y strategaeth a Chynllun Sero Net Cymru yw sicrhau gostyngiad o 22% mewn allyriadau trafnidiaeth teithwyr rhwng 2019 a 2025, a gostyngiad o 98% erbyn 2050, a sicrhau gostyngiad o 10% mewn milltiroedd car erbyn 2030 a chynnydd o 39% mewn dulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2025, a chynnydd o 45% erbyn 2040.

Mae angen gweithredu ar raddfa enfawr. Ym mis Hydref 2022, daeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd i’r casgliad nad yw’r targedau ar gyfer newid dulliau o deithio “wedi’u hategu gan yr offer i sicrhau y gellir eu cyflawni”.

Daeth adroddiad y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr ac WPI Economics, sef Bus and Coach: the route to net zero in Wales i’r casgliad y byddai cyfeiriad y polisi presennol yn arwain at gynnydd yn y defnydd o fysiau o ychydig dros un rhan o bump o’r hyn sydd ei angen i gyrraedd sero net.

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru “wedi cael trafferth” integreiddio trafnidiaeth â pholisïau sy’n creu teithiau fel cynllunio defnydd tir. Mae hefyd wedi cydnabod gwendidau yn y modd y caiff Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru eu cymhwyso, gan ddweud mai, dro ar ôl tro, y canlyniadau y mae WelTAG yn eu cynhyrchu yw’r canlyniadau y mae bob amser wedi’u cynhyrchu.

Beth oedd casgliadau’r panel?

Gwnaeth yr adroddiad ddau brif argymhelliad gan sefydlu “'‘4x4’ o ddibenion ac amodau ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol”. Bydd hyn yn gyfyngedig i bedwar o “ddibenion”:

  • ei gwneud yn haws newid dulliau o deithio;
  • lleihau anafiadau drwy newidiadau bach;
  • addasu i’r newid yn yr hinsawdd; a
  • hybu ffyniant drwy sicrhau mynediad i safleoedd datblygu sy'n hybu trafnidiaeth gynaliadwy.

Roedd hefyd yn gosod “amodau” ar gyfer unrhyw gynllun:

  • dylai geisio lleihau allyriadau carbon mewn gwaith adeiladu;
  • ni ddylai gynyddu cyflymder cerbydau a chynyddu allyriadau;
  • ni ddylai gynyddu capasiti ffyrdd ar gyfer ceir; ac
  • ni ddylai gael effaith andwyol ar safleoedd sy’n werthfawr yn ecolegol.

Nid yw'r dibenion newydd yn effeithio ar wariant cynnal a chadw ac adnewyddu, ac nid yw'r “hidlwyr cam cyntaf” hyn yn disodli arfarniad systematig.

Mae’r adroddiad yn gwneud 51 o argymhellion i gyd, gan gynnwys galw am raglenni buddsoddi aml-ddull rhanbarthol a rhaglen newid dulliau teithio ar gefnffyrdd. Mae'n cynnig rhaglenni i gyflwyno cyflymder a llwybrau mwy diogel ar gefnffyrdd, creu datblygiadau economaidd / preswyl sy’n esiampl da a rhoi mwy o sylw i drafnidiaeth cludo nwyddau.

O'r cynlluniau eu hunain, ystyriwyd bod 17 yn cyd-fynd â'r meini prawf 4x4. Yn achos 17 arall, roedd y panel yn teimlo y byddai’n well defnyddio dulliau eraill o weithredu neu ddod o hyd i atebion gwahanol. Nid oedd y panel yn teimlo y dylid bwrw ymlaen â‘r 14 cynllun arall.

Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?

Yn ei ddatganiad yn y cyfarfod llawn, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod hwn yn “adroddiad pwysig iawn ac iddo arwyddocâd rhyngwladol”. Tynnodd sylw at faterion a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys ysgogi galw a charbon sydd wedi’i ymgorffori mewn cynlluniau seilwaith, gan ddweud:

… rydym ni wedi derbyn achos yr adroddiad dros newid. Ni fyddwn ni'n cyrraedd sero net oni bai ein bod ni'n rhoi'r gorau i wneud yr un peth dro ar ôl tro.

Mae manylion yr ymateb wedi'u cynnwys mewn Datganiad Polisi Ffyrdd newydd a Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol (NTDP) newydd a gyhoeddwyd gydag adroddiad yr adolygiad.

Mae'r datganiad polisi yn cynnwys pedwar prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd sy'n adlewyrchu'r dibenion a bennwyd gan y panel, gyda mân newidiadau yn ymwneud â materion polisi fel Porthladdoedd Rhydd. Mae hefyd yn cynnwys y pedwar amod. Eglurodd y Dirprwy Weinidog y byddai’r polisi hwn yn ystyriaeth bwysig pe bai unrhyw anghydfod cynllunio.

Mae’r dull o ymdrin â’r cynlluniau eu hunain wedi’i nodi yn yr NTDP, ynghyd â dogfen gryno.

Nid yw cynlluniau'r NTDP yn adlewyrchu argymhellion y panel ar gyfer cynlluniau yn hollol. Er enghraifft, mae'r argymhelliad na ddylid bwrw ymlaen â’r cynllun i godi trydedd bont dros y Fenai yn dod yn fater i’w gyfeirio at Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer gwytnwch y rhwydwaith ar draws y Fenai. Hefyd, tra bod rhaglen Gwella Coridor Sir y Fflint wedi'i chanslo, mae'r NTDP yn ymrwymo i ddatblygu opsiynau i wella ansawdd aer ar ffordd yr A494 yn Aston Hill.

Bydd sampl fach o gynlluniau ar gyfer tir datblygu na wnaeth y panel argymhellion yn eu cylch yn cael eu hystyried ymhellach.

Ymateb cymysg

Cafwyd ymateb cymysg, ac nid yw hynny’n syndod.

Cafodd y Dirprwy Weinidog ei herio gan bob plaid ar ôl ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn – gan gynnwys gan Ken Skates AS, y cyn Weinidog roedd yn arfer gweithio iddo.

Cafodd gefnogaeth hefyd - er nad cefnogaeth lawn bob amser - o wahanol rannau o’r siambr.

Mae’n ddealladwy bod y datganiad wedi ennyn beirniadaeth. Mae cynlluniau hir-ddisgwyliedig wedi'u canslo neu wedi’u hanfon yn ôl i'w hadolygu. Ni fydd yn hawdd argyhoeddi gwleidyddion, busnesau a chymunedau lleol a oedd o’r farn mai buddsoddiad oedd yr ateb i broblemau lleol.

Mae eraill fel y Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a'r sector amgylcheddol yn croesawu'r datganiad.

Fodd bynnag, ychydig a allai anghytuno ag ymateb y CBI “having rejected or revised dozens of transport projects across Wales, the ball is now in the government’s court to produce an alternative solution with urgency”.

Mae rhesymeg y dull newydd o weithredu yn gofyn am fuddsoddi mewn atebion sy'n bodloni'r meini prawf 4x4. Ond mae’r heriau o ran y gyllideb y tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw atynt yn ei ddatganiad yn parhau.

Roedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 yn cynnwys dyraniad o £28m ar gyfer Cynllun Brys ar gyfer Bysiau yn 2023-24 – sy’n cyfateb i’r dyraniad ar gyfer 2022-23. Mae’n anodd cyhoeddi datganiad yn awgrymu bod hyn yn y fantol bedwar diwrnod cyn cyhoeddi adroddiad sy'n ei gwneud yn orfodol gwneud mwy i newid dulliau teithio.

Yn yr un modd, bydd ymwreiddio'r dull newydd hwn o weithredu’n anodd yn ddiwylliannol ac yn sefydliadol. Mae'r Cydbwyllgorau Corfforedig rhanbarthol a fyddai'n sicr o fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu rhaglenni rhanbarthol yn eu dyddiau cynnar. Er bod y panel wedi argymell rôl gydgysylltu ranbarthol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru byddai hyn ar ben rhestr gynyddol o gyfrifoldebau’r sefydliad sy’n ymestyn ei allu i'r eithaf.

Mae'r her wleidyddol o leihau'r defnydd o geir yn enfawr. Ar ben penderfyniadau anodd a wnaed yn y gorffennol ynghylch yr M4 a’r terfynau cyflymder 20mya difoyn, mae mwy i ddod. Fel y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi clywed, mai maint yr her o newid dulliau teithio ac o fynd i’r afael â materion newid hinsawdd yn galw am weithredu mwy pendant i newid ymddygiad.

Gellir disgwyl derbyniad tanllyd i ymrwymiadau NTDP i greu “strategaeth ar gyfer codi tâl teg ar ddefnyddwyr ffyrdd” ddisgwyl derbyniad tanllyd.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi dangos ei fod yn ymwybodol iawn o faint yr her. Er gwaethaf y sylw y mae’r penderfyniad hwn wedi’i gael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, nid oes dim amheuaeth y bydd llawer o gwestiynau anoddach i’w hwynebu yn nes at adref.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru