Dyfodol amaethyddiaeth: cynigion ar draws y DU

Cyhoeddwyd 24/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae polisi amaethyddol ar draws y DU yn newid. Wrth i'r DU adael yr UE, mae'n gadael system gymorthdaliadau bresennol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) sydd wedi bod yn sail i'r byd ffermio yn y DU ers degawdau. Mae holl wledydd y DU wedi cyhoeddi eu cynigion ar gyfer polisïau amaethyddol ar ôl Brexit:

Geirfa

Taliadau Uniongyrchol: Mae'r rhain yn daliadau cymorth incwm a delir i bob ffermwr sy'n gymwys i'w cael. Maent yn cynnwys mesurau gwyrddu a thrawsgydymffurfio. Mae Taliadau Uniongyrchol yn creu 'Colofn 1' o'r PAC.

Cynllun y Taliad Sylfaenol: Dyma'r dull allweddol o ddosbarthu Taliadau Uniongyrchol i ffermwyr. Rhoddir dyraniad blynyddol i bob Aelod-wladwriaeth/Rhanbarth i'w ddosbarthu i ffermwyr am bob un o'r saith mlynedd a gwmpesir gan y PAC.

Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG): Mae'r UE yn rhoi arian cyfatebol i'r holl Aelod-wladwriaethau/Ranbarthau ar gyfer rhaglenni saith mlynedd i gefnogi nifer o fesurau datblygu gwledig ar eu tir. Gelwir hyn yn Rhaglen Datblygu Gwledig ac mae'n creu 'Colofn 2' o'r PAC. Mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaethau/Ranbarthau wario o leiaf rywfaint o'r cyllid ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol a rhywfaint ar brosiectau LEADER (cynlluniau adfywio a gynhelir gan y gymuned ar gyfer ardaloedd gwledig).

Fel y mae pethau, bydd holl reolau'r UE yn parhau i fod yn gymwys yn ystod cyfnod pontio (disgwylir iddo ymestyn o 29 Mawrth 2019 tan 31 Rhagfyr 2020) er bod hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Fodd bynnag, eithriad pwysig yw Taliadau Uniongyrchol y PAC na fyddant bellach yn gymwys yn 2020. Yn lle hynny, bydd y DU yn dechrau cymhwyso rheolau domestig newydd. Fodd bynnag, os ceir Brexit heb fargen, ni fydd y cyfnod pontio'n gymwys a bydd pwerau a chyfrifoldebau domestig yn dod i rym ar 29 Mawrth 2019. Mae'r erthygl hon yn nodi'r gwaith pontio disgwyliedig i'r polisïau amaethyddol newydd ar draws y DU yn seiliedig ar yr hyn a wyddom hyd yn hyn.

Cymru - Brexit a'n tir

2018-2019

Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2018-2019 yn parhau. Bydd contractau presennol Glastir (cynllun amaeth-amgylcheddol o dan y RhDG) yn parhau i gael eu gweithredu. Bydd rheolau a safonau'r UE yn parhau i fod yn gymwys.

2020-2024

Bydd y gwaith pontio'n dechrau gyda thair elfen gydamserol:

  • Cam 1: Ymadael â Chynllun y Taliad Sylfaenol yn raddol. Mae'r opsiynau'n cynnwys lleihau taliadau mewn termau diamod, yn gymesur neu drwy newid cyfraddau capio.
  • Cam 2: Cyflwyno cynlluniau newydd. O bosibl drwy ddyrannu arian i brosiectau peilot cyn eu gweithredu'n llawn.
  • Cam 3: Ymadael â'r RhDG. Daw'r RhDG i ben yn 2020, ond bydd yr holl ymrwymiadau sydd ar waith ar adeg gadael yr UE yn cael eu bodloni (hyd at '2023 a thu hwnt').

2025 a thu hwnt

Disgwylir y bydd cynlluniau newydd ar waith yn llawn erbyn 2025, gan ddisodli'r PAC yn ei gyfanrwydd. Cynigir y bydd dau gynllun gan y 'Rhaglen Rheoli Tir' newydd:

  • Y Cynllun Cadernid Economaidd: buddsoddiad ar gyfer gweithgareddau economaidd, yn enwedig cynhyrchu bwyd a choed. Bydd y cynllun yn rhoi cymorth i: 1) gynyddu potensial y farchnad; 2) ysgogi gwelliannau mewn cynhyrchiant; 3) arallgyfeirio; 4) gwella'r broses o reoli risg; a 5) gwella cyfnewid gwybodaeth a sgiliau.
  • Cynllun Nwyddau Cyhoeddus: cymorth uniongyrchol ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer yr amgylchedd. Bydd yn rhoi ffrwd incwm newydd i reolwyr tir ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth, ansawdd aer andwyol ac ansawdd dŵr gwael. I dalu taliadau, cynigir dull sy'n seiliedig ar ganlyniadau.

Bydd gan ffermwyr fynediad at y ddwy ffrwd ariannu.

Deddfwriaeth

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi ei huchelgais i gael deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru ar waith cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Yn ogystal, mae Bil Amaethyddiaeth y DU (a osodwyd ar 12 Medi) yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru mewn amserlen ar wahân i roi pwerau i ddechrau'r cyfnod pontio graddol. Mae datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys rhagor o fanylion. Bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn llunio blog arall ar Fil y DU maes o law.

Lloegr - Iechyd a harmoni

2018-2019

Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2018-2019 yn parhau. Mae cynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad symlach (cynllun amaeth-amgylcheddol) yn cael ei gynnig. Bydd contractau presennol yn parhau i gael eu gweithredu. Bydd rheolau a safonau'r UE yn parhau i fod yn gymwys.

2020-2027

Bydd cyfnod pontio amaethyddol hyd at 2027 wrth i'r taliadau presennol gael eu diddymu'n raddol. Bydd Llywodraeth y DU yn ceisio gostwng Taliadau Uniongyrchol. Gallai hyn fod drwy uchafswm cap neu raddfa symudol o ostyngiadau. Yn fwy radical, awgrymir hefyd system amgen o gael gwared ar yr angen i dderbynwyr fodloni rheolau cymhwystra tir neu gydymffurfio â mesurau gwyrddu. Cynigir cynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad symlach hefyd. Yn ystod y cyfnod pontio, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal llinell sylfaen reoleiddiol gref o safonau sy'n adlewyrchu egwyddor 'y llygrwr sy'n talu'. Ni fydd angen dilyn rheolau trawsgydymffurfio mwyach. Awgrymir archwiliadau sy'n seiliedig ar risg. Pan ddaw'r cyfnod pontio i ben, bydd 'Cynllun Rheoli Amgylcheddol' yn disodli'r PAC ar sail arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus gyda dull sy'n seiliedig ar ganlyniadau.

Deddfwriaeth

Gosodwyd Bil Amaethyddiaeth y DU ar 12 Medi.

Yr Alban - Sefydlogrwydd a symlrwydd

2018-2019

Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2018-2019 yn parhau. Disgwylir y ceir tasglu symleiddio o hydref 2018 am flwyddyn gyda'r bwriad o leihau cymhlethdod a gwella gwerth cyhoeddus. Bydd RhDG yr Alban yn parhau i ddilyn rheolau'r PAC. Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu parhau i ddarparu'r cynllun Cymorth i Ardaloedd Llai Ffafriol ar 100 y cant (£65 miliwn y flwyddyn) yn 2018, gan ostwng i 80 y cant o'r cyfraddau presennol yn 2019.

2020-2023

Bydd Taliadau Uniongyrchol yn parhau, er bod newidiadau posibl yn cynnwys capio taliadau a symleiddio ceisiadau, archwiliadau a chadw cyfrifon. Bydd llawer o gynlluniau RhDG yr Alban yn parhau gyda rhai newidiadau i wella canlyniadau polisi. Bydd cyllid ar gyfer y cynllun Cymorth i Ardaloedd Llai Ffafriol ar 20 y cant o'r lefelau presennol yn 2020.

2024 a thu hwnt

Disgwylir i bolisi domestig newydd fod ar waith o 31 Mawrth 2024. Nid oes amlinelliad o'r polisi eto ac mae'r ymgynghoriad yn dweud ei fod yn nodi dechrau'r broses.

Deddfwriaeth

Hyd yn hyn, ni chyhoeddwyd deddfwriaeth sylfaenol yr Alban ac nid oes darpariaethau penodol am yr Alban ym Mil Amaethyddiaeth y DU.

Gogledd Iwerddon - Fframwaith Polisi Amaethyddol yn y Dyfodol.

2018-2019

Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2018-2019 yn parhau. Bydd cynlluniau'r RhDG yn parhau i gael eu cynnal, o bosibl y tu hwnt i 2020.

2020-21

Bydd yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ceisio cynnal y sefyllfa bresennol yn ystod blynyddoedd y cynllun, sef 2020-2021. Fodd bynnag, gellir gwneud newidiadau cyfyngedig er mwyn symleiddio'r gyfundrefn. Mae'r opsiynau'n cynnwys parhau â'r gwaith pontio presennol tuag at daliad safonol erbyn 2021 neu rewi gwerth yr hawliau ddiwedd 2019 (gan aros yr un peth ar gyfer 2020 a 2021 o ganlyniad i hynny). Mae'r opsiynau hefyd yn cynnwys newidiadau i'r gofynion gwyrddu, y Taliadau Ffermwyr Ifanc a'r Gronfa Ranbarthol.

2022 a thu hwnt

Cynigir fframwaith polisi amaethyddol newydd ar ôl 2021. Mae'r ymgynghoriad yn dweud ei bod yn debygol y bydd angen i'r newid i agenda polisi newydd ddigwydd dros nifer o flynyddoedd ar gyfer cyfnod pontio a reolir.

Deddfwriaeth

Hyd yn hyn, ni chyhoeddwyd deddfwriaeth sylfaenol Gogledd Iwerddon. Mae amserlen benodol ar gyfer Gogledd Iwerddon ym Mil Amaethyddiaeth y DU.

Cyffredinrwydd/gwahaniaethau rhwng y cynigion ar draws y DU

Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd synergedd rhwng cynhyrchu bwyd a darparu nwyddau cyhoeddus. Mae'r manylion am sut y bydd dull mwy integredig yn cael ei gefnogi'n aneglur o hyd. Fodd bynnag, mae pwyslais amrywiol i'w weld rhwng y dogfennau ymgynghori. Er enghraifft, mae cynigion Lloegr yn rhoi pwyslais sylweddol ar arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus ac yn cyflwyno gweledigaeth werdd ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhannu gweledigaeth nwyddau cyhoeddus fel y dangosir drwy ei Chynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhoi pwyslais sylweddol ar gynhyrchu bwyd (er ei bod yn ystyried bod cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus yn ddau fater ar wahân) drwy'r Cynllun Cadernid Economaidd arfaethedig. Ni chynigir cynllun cyfatebol yn ymgynghoriad Lloegr. Mae'r holl wledydd yn cynnig dull sy'n seiliedig ar ganlyniadau mewn perthynas â darparu nwyddau cyhoeddus. Mae hyn yn newid sylweddol o'r dull presennol sy'n seiliedig yn bennaf ar fewnbynnau (e.e. presgripsiynau Glastir) a gallai gael goblygiadau ar gyfer taliadau ffermwyr a diogelu/gwella'r amgylchedd.

CAP 2021-2027

Wrth i gynigion newydd gael eu datblygu ledled y DU, mae cylch nesaf y PAC (2021-2027) yn cael ei ddatblygu ar lefel yr UE. Ar 1 Mehefin 2018, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei reoliadau arfaethedig.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cydnabyddiaeth i Wendy Kenyon (Canolfan Wybodaeth Senedd yr Alban) ac Emma Downing (Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin) am gyfrannu.