Cyhoeddwyd 12/03/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
12 Mawrth 2015
Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_2536" align="alignright" width="420"]

Llun: Geograph gan Andy Beecroft . Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Mae dwy ran o dair o gartrefi yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddiannwyr. O 1 Ebrill 2018 bydd cyfraddau Treth Dir y Doll Stamp, a gaiff ei ail-enwi'n Dreth Trafodiadau Tir, yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio ar yr holl gartrefi a safleoedd busnes a werthir ar ôl y dyddiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad i helpu i lunio'r polisi. Eu nod yw bod treth o'r fath yn y dyfodol yn syml, yn deg ac yn anodd ei osgoi.
Mae hwn yn gyfle i'r cyhoedd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu system dreth newydd a fydd yn effeithio ar unrhyw un sy'n prynu tŷ neu eiddo busnes ar ôl 1 Ebrill 2018.
Mae'r ymgynghoriad eisiau clywed barn pobl ar faterion megis:
- Beth ddylai strwythur y dreth fod?
- Beth ddylid ei ystyried wrth lunio polisi ar fandiau a chyfraddau treth?
- Sut y gellir lleihau'r achosion o osgoi trethi?
- A ddylid cael gostyngiadau ac eithriadau?
- Sut y dylai trafodiadadau gan gwmnïau yn hytrach na phobl gael eu trin?
- A ddylid trin lesoedd yn wahanol i bryniadau?
Am
ragor o wybodaeth, neu i ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 6 Mai 2015.
Roedd dros 50,000 o drafodiadau yn destun Treth Dir y Doll Stamp yn 2013-14 yng Nghymru. Rhagwelir erbyn 2018-19 y bydd y dreth yn casglu dros £200 miliwn y flwyddyn.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg