Dur yng Nghymru: pwysau sy'n wynebu'r diwydiant

Cyhoeddwyd 21/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

21 Ionawr 2016 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4550" align="alignnone" width="640"]Port Talbot Steelworks Llun o Flickr gan Ben Salter.  Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae'r ansicrwydd diweddar sy'n wynebu'r sector dur ledled y DU wedi cael effaith fawr ar gymunedau ledled Cymru. Cafwyd cyhoeddiad gan Tata Steel ddydd Llun bod swyddi'n cael eu colli, yn dilyn cyhoeddiad tebyg ddiwedd y llynedd. O ystyried pwysigrwydd y diwydiant dur i Gymru, rydym yn bwrw golwg ar y materion allweddol. Mae'r erthygl hon yn rhoi darlun cyffredinol o'r diwydiant dur yng Nghymru a'r heriau y mae'n eu hwynebu, ac yn nes ymlaen heddiw mewn ail erthygl byddwn yn edrych yn fanylach ar y gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig. Pa gyfraniad economaidd y mae'r diwydiant dur yn ei wneud i Gymru? Yn ôl rhai adroddiadau, mae Tata Steel yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru. Canfu astudiaeth gan yr Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd mai £3.2 biliwn yw cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru, a'i fod yn cefnogi gwerth ychwanegol gros o £1.6 biliwn. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a gyflogir yn y diwydiant dur dros y pedwar degawd diwethaf. Roedd 6,630 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau haearn a dur yng Nghymru yn 2014, sef 10% yn unig o'r 62,400 o bobl a oedd yn cael eu cyflogi yn y sector 40 mlynedd yn ôl. Dyma'r lefel isaf ar unrhyw adeg yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Gwelwyd llawer o'r gostyngiad hwn yn y 1970au hwyr a dechrau'r 1980au. Nifer y bobl a gyflogir yn y diwydiant haearn a dur yng Nghymru a'r DU Steel graph Welsh Ffynhonnell: Stats Cymru, Lefelau cynhyrchu haearn a dur yn ôl blwyddyn, mesur ac ardal Mae'n werth cofio bod nifer o ffigurau gwahanol ar gael ynglŷn â chyflogaeth yn y diwydiant dur yng Nghymru. Mae ffigurau eraill sy'n defnyddio diffiniad gwahanol o'r diwydiant dur yn awgrymu ei fod yn cyflogi 8,100 o bobl yng Nghymru yn 2014. Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi awgrymu bod y diwydiant dur sylfaenol, a'i gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn cyfrif am yn agos at 20,000 o swyddi. Yng Nghymru, cynhyrchwyd 4,400 cilotunnell o ddur crai yn 2014. Mae hyn yn 37% o gyfanswm y DU, sef 12,030 cilotunnell. Mae'r lefelau cynhyrchu yn tueddu i amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yng Nghymru a'r DU. Mae mewnforion haearn a dur i Gymru wedi cynyddu lawer yn gyflymach dros y blynyddoedd diwethaf na lefel yr allforion o Gymru. Mae ffigurau'n dangos bod Cymru wedi allforio gwerth bron i £1.3 biliwn o haearn a dur yn 2014, gan fewnforio gwerth ychydig dros £400 miliwn. Fodd bynnag, rhwng 1996 a 2014 (y cyfnod y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer), mae gwerth blynyddol mewnforion haearn a dur i Gymru wedi cynyddu 370%, o'i gymharu â chynnydd o 69% yng ngwerth blynyddol allforion yn ystod yr un cyfnod. Mewn geiriau eraill, roedd gwerth blynyddol allforion ym 1996 bron naw gwaith yn fwy na gwerth mewnforion. Yn 2014, roedd gwerth blynyddol allforion ychydig dros dair gwaith gwerth mewnforion. O ran faint o ddur a gynhyrchir yn gyffredinol, mae'r diwydiant dur yn y DU wedi lleihau'n sylweddol dros y deugain mlynedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, mae gwledydd eraill wedi cynyddu eu lefelau cynhyrchu gryn dipyn. Dros y pedwar degawd diwethaf mae lefelau cynhyrchu dur yn y DU wedi disgyn yn is na'r lefelau mewn gwledydd fel Ffrainc, Sbaen a'r Eidal, ac wedi aros yn is na lefel yr Almaen. Mae'r anawsterau a wynebir gan y diwydiant wedi bod yn hysbys ers rhai blynyddoedd, ac wedi derbyn cryn sylw yn y cyfryngau a chan wleidyddion dros y misoedd diwethaf. Beth yw'r prif heriau a wynebir gan y diwydiant dur, a beth yw'r atebion posibl? Crybwyllwyd nifer o ffactorau posibl i egluro'r pwysau sy'n wynebu'r diwydiant dur a'r swyddi a gollwyd yn ddiweddar. Mae'r rhain yn cynnwys mewnforion rhad, y bunt gref, costau ynni ac ardrethi busnes. Mae'r diwydiant wedi nodi pum maes lle y gellir cymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae angen gweithredu ar lefel Llywodraeth y DU neu'r UE ar nifer o'r meysydd polisi hyn, oherwydd nad ydynt wedi'u datganoli. Gweithredu yn erbyn arferion masnachu megis 'dympio' dur - lle mae'r pris allforio yn is na phris y farchnad yn ngwlad yr allforiwr, neu efallai hyd yn oed yn is na'r pris cost. Rhaid ymdrin â'r mater hwn ar lefel yr UE, ac mae'n ymwneud yn bennaf â phryderon ynghylch gallu dur o Ewrop i gystadlu'n fyd-eang wrth i Tsieina allforio mwy o ddur nag erioed o'r blaen. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Fusnes, Arloesedd a Sgiliau yn San Steffan yn ystyried mai hon yw'r her bwysicaf, ac wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw sicrwydd y bydd yn cael ei datrys yn fuan. Mae Llywodraeth y DU wedi pleidleisio o blaid camau 'gwrth-ddympio' yn achos rhai mewnforion dur, ac wedi llwyddo i sicrhau cyfarfod eithriadol o Gyngor Cystadleurwydd yr UE ynglŷn â’r mater hwn. Mae prisiau ynni ar gyfer cynhyrchwyr dur yn uwch nag yn rhai o wledydd eraill yr UE. Mae'r diwydiant dur wedi bod yn galw ers 2011 am becyn arbennig ar gyfer diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni. Ym mis Rhagfyr 2015 sicrhaodd Llywodraeth y DU gymeradwyaeth, o safbwynt cymorth gwladwriaethol, i dalu rhagor o iawndal i ddiwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, gan gynnwys dur, er mwyn ystyried costau'r polisi ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod eisoes wedi talu tua £60 miliwn i'r diwydiant dur er mwyn helpu i liniaru costau'r polisïau ynni presennol cyn y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2015. Mae'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn bygwth rhagor o bwysau o safbwynt costau. Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n gohirio'r broses o weithredu'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol am bedair blynedd a hanner ar gyfer y sector dur, yn amodol ar gael cymeradwyaeth derfynol gan y Comisiwn. Mae ardrethi busnes ledled y DU yn uwch nag yn rhai o wledydd eraill yr UE, ac mae UK Steel wedi tynnu sylw at y ffaith bod cwmnïau dur yn y DU yn talu rhwng pump a 10 gwaith yn fwy mewn ardrethi busnes na'u cystadleuwyr yn yr UE. Mae'n destun pryder penodol i'r sector dur bod offer a pheiriannau yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo ardrethi busnes, gan y gwelir bod hyn yn annog busnesau i beidio â buddsoddi yn y rhain os byddant wedyn yn gorfod talu mwy mewn ardrethi busnes. Pryderon bod cwmnïau dur yn y DU ar eu colled o ran contractau amddiffyn a phrosiectau seilwaith mawr, oherwydd nad yw prosesau caffael yn rhoi digon o sylw i ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol, ac ystyriaethau cynaliadwyedd, yn ogystal â phris. Mae’r materion eraill a godwyd mewn briff diweddar gan UK Steel yn cynnwys gweithredu ar lefel yr UE ar Statws Economi Marchnad i Tsieina, a chymorth cyllido uniongyrchol ar gyfer y sector ym maes ymchwil a datblygu a gwelliannau amgylcheddol. Byddai’r cymorth cyllido hwn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yr heriau y gall Llywodraeth Cymru ymateb iddynt yw'r rhai sy'n ymwneud ag ardrethi busnes a chaffael. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflawni rôl allweddol wrth gefnogi gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi, trwy'r rhaglen ReAct a thrwy ysgogiadau polisi eraill ym maes datblygu economaidd. Bydd y meysydd hyn yn cael eu trafod yn fwy manwl yn nes ymlaen heddiw. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg