Cyhoeddwyd 18/05/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
18 Mai 2016
Erthygl gan Nia Seaton, Chloe Corbyn a Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Daw’r erthygl hon o
‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.
Sut fydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Cynllunio a Deddf yr Amgylchedd yn gweithio gyda’i gilydd?
Pasiodd y Pedwerydd Cynulliad dri darn arloesol o ddeddfwriaeth sy’n perthyn i’w gilydd, sef
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ,
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r tair Deddf yn gosod amrywiaeth o ddyletswyddau cynllunio, dyletswyddau adrodd a dyletswyddau datblygu polisi newydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. Bydd cydlynu’r dyletswyddau gwahanol hyn yn fater o bwys i Lywodraeth newydd Cymru a’r Pumed Cynulliad.
Diben y Deddfau
Diben
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru drwy osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i feddwl a gweithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy a hirdymor. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i’w cyflawni a’u hystyried wrth wneud penderfyniadau.
Mae
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn creu fframwaith newydd ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu, gan gynnwys Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd. Mae hefyd yn ceisio symleiddio prosesau cynllunio drwy ganiatáu i Lywodraeth Cymru benderfynu ar geisiadau cynllunio penodol, ac yn cyflwyno proses statudol ar gyfer ymgynghori cyn cyflwyno ceisiadau arwyddocaol. Mae’r Ddeddf hefyd yn moderneiddio’r system gorfodi ym maes cynllunio.
Mae
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymgorffori yn y gyfraith egwyddorion a pholisïau rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Mae’n cyflwyno dyletswydd newydd o ran bioamrywiaeth ac ecosystemau, yn gosod targedau a chyllidebau ar gyfer allyriadau carbon statudol, ac yn creu system trwyddedu morol newydd. Mae hefyd yn cynnwys pwerau dros bysgodfeydd a gwastraff ac yn ehangu pwerau Llywodraeth Cymru dros daliadau am fagiau siopa untro.
Pwysigrwydd cydlynu
Dangosodd
adroddiad etifeddiaeth Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad fod rhanddeiliaid yn parhau’n ‘ansicr ynghylch y rhyngberthynas rhwng y tair deddf newydd a sut y byddant yn cael eu cyflwyno ar lawr gwlad’. Dywedodd y Pwyllgor fod yn rhaid i’r deddfau gael eu cyflwyno mewn ffordd gydlynol er mwyn iddynt lwyddo yn eu nod.
Mae’r ffeithlun isod yn nodi’r gwahanol ddyletswyddau adrodd, cynllunio a datblygu polisi y mae’r tair deddf yn eu gosod ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Mae’n ceisio dangos dau beth. Yn gyntaf, y dolenni cydiol a geir o fewn y ddeddfwriaeth, ac yn ail, y cysylltiadau y mae rhanddeiliaid wedi’u hawgrymu y dylid eu gwneud rhwng y gwahanol bolisïau ac adroddiadau. Mae’r saethau solet yn dangos cysylltiadau pendant yn y ddeddfwriaeth; nodir y cysylltiadau posibl a awgrymwyd gan randdeiliaid drwy ddefnyddio llinellau dotiog.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg