Dod ag addysg ôl-16 ynghyd: beth y mae angen i chi ei wybod am y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Cyhoeddwyd 10/03/2022   |   Amser darllen munudau

Bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn dod â chyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg ôl-16 ynghyd o dan un corff – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Fel y mae ein Crynodeb Bil yn egluro, byddai gan y Comisiwn gyllideb o dros £800 miliwn y flwyddyn, sy'n golygu y byddai'n rheoli mwy o gyllid nag unrhyw gorff cyhoeddus arall yng Nghymru, heblaw GIG Cymru. Byddai'r Comisiwn yn goruchwylio’r addysg a ddarperir i dros 300,000 o ddysgwyr a myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd.

Ddydd Mawrth 15 Mawrth, bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil cymhleth ac arwyddocaol hwn. Yn yr erthygl hon, rydym yn nodi rhai o’r pethau allweddol y mae angen i chi eu gwybod cyn y ddadl honno.

Beth fyddai’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn ei wneud?

Bydd y Bil yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sef un corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

Mae hwn yn newid mawr i’r ffordd y mae addysg ôl-16 yn gweithio ar hyn o bryd. Fel y dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg pan gyflwynodd y Bil ym mis Tachwedd 2021:

Am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, byddwn yn dwyn y sectorau canlynol ynghyd mewn un man: addysg uwch ac addysg bellach Cymru, chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned, yn ogystal â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Bil, bydd y Comisiwn yn helpu i ddarparu “system addysg drydyddol sy’n canolbwyntio at y dysgwr ac sydd â rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltiad wrth ei wraidd”. Bydd y Bil yn rhoi pwerau i’r Comisiwn:

… i lywio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yn well, gan helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol a hyrwyddo mwy o gydlyniant ar draws y sector a rhwng addysg orfodol ac ôl-orfodol mewn ysgolion.

Mae’n debygol y bydd y Comisiwn yn sefydliad mawr a chymhleth a fydd â chylch gwaith sy’n cwmpasu sector eang. Mae’r Bil yn gymhleth, ac mae tri o bwyllgorau’r Senedd wedi craffu’n fanwl arno.

Cefnogaeth “gyffredinol eang” ar gyfer y Bil

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu hadroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 4 Mawrth 2022.

Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn adlewyrchu cymhlethdod y Bil ac yn crynhoi rhai pryderon allweddol gan randdeiliaid. Dywedodd aelodau o’r Pwyllgor:

Mae gan y Bil gefnogaeth gyffredinol eang gan randdeiliaid, ond nododd pob un feysydd i’w diwygio. Rydym yn croesawu’r Bil ac yn cytuno â’r egwyddorion cyffredinol, ar yr amod y cyflwynir rhagor o newidiadau.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 37 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys galw am newidiadau i:

  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethu’r Comisiwn yn “adlewyrchu ehangder y ddarpariaeth addysg ac ymchwil, ac amrywiaeth eang Cymru”, er enghraifft drwy gynyddu cynrychiolaeth gweithwyr a dysgwyr ar y Comisiwn;
  • Cryfhau dyletswydd y Comisiwn i hyrwyddo addysg drydyddol ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ac “adlewyrchu uchelgais Cymraeg 2050”;
  • Diffinio’r hyn y mae’r Bil yn ei olygu wrth “barch cydradd”, gydag argymhellion penodol i’r Bil gynnwys dyletswydd ariannu gytbwys i sicrhau nad yw rhai rhannau o’r sector ôl-16 yn cael eu “colli”;
  • Diogelu lles dysgwyr a myfyrwyr, gan roi llais dysgwyr a myfyrwyr wrth galon penderfyniadau’r Comisiwn;
  • Cynnwys dyletswydd strategol i hyrwyddo cydweithio a chystadleurwydd mewn ymchwil ac arloesi;
  • Rhoi mesurau diogelu ar waith ynghylch annibyniaeth y Comisiwn ar y Llywodraeth, er enghraifft drwy ddiwygiadau i sicrhau na all y Gweinidog newid cynllun strategol y Comisiwn heb gytundeb y Comisiwn.

Mynegodd rhai rhanddeiliaid bryderon ynghylch gweithredu’r Bil. Mae tystiolaeth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn amlygu “risg glir o weithredu darpariaethau'r Bil heb sefydlu cynlluniau clir ar gyfer yr amrediad anferth o faterion gweithredol y mae angen ymdrin â nhw er mwyn sicrhau llwyddiant y Comisiwn”.

Mae aelodau’r Pwyllgor yn nodi yn eu hadroddiad y bydd “llawer o’r manylion sut y bydd y Bil yn gweithio i’w gweld yn y rheoliadau”, ac yn galw am ragor o wybodaeth am y rheoliadau hyn cyn i drafodion cyfnod 2 ddechrau.

Mae’r Gweinidog yn “ystyried gwelliannau posibl”

Yn ystod eu gwaith craffu ar y Bil, fe wnaeth aelodau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg holi’r Gweinidog ac ysgrifennu ato. Yn ei ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor, dyddiedig 14 Chwefror 2022, dywedodd y Gweinidog bod yna feysydd:

… lle'r wyf yn ystyried gwelliannau posibl yn seiliedig ar yr adborth a'r dystiolaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid i'r Pwyllgor ac yn uniongyrchol i mi a'm swyddogion.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd
  • Sicrhau bod ymchwil ac arloesi a'r Gymraeg yn cael amlygrwydd priodol ar draws y Bil
  • Pwysleisio pwysigrwydd llais y dysgwr
  • Sicrhau cysondeb ar draws y gwahanol bwerau cyllido, a chynyddu tryloywder mewn perthynas â phenderfyniadau cyllido’r Comisiwn

Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd ei fod yn rhagweld y bydd “yn gallu rhoi darlun llawnach o'r cynllun gweithredu ar gyfer y Bil yn ystod Cyfnod 2 o waith craffu'r Bil.”

Pa gyfnod y mae’r Bil ynddo ar hyn o bryd?

Mae'r Bil ar hyn o bryd yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Fel rydym yn esbonio uchod, mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi cael tystiolaeth gan randdeiliaid a Llywodraeth Cymru er mwyn craffu ar y Bil a chyhoeddi ei adroddiad. Mae Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd hefyd wedi cyhoeddi adroddiadau gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Defnyddiwch y ffeithlun hwn i gael rhagor o wybodaeth am broses ddeddfwriaethol y Senedd:

Beth yw’r cyfnodau pan fydd y Senedd yn penderfynu ar gyfreithiau newydd?

Cyfnod 1

Cyfnod presennol

Yn y cyfnod hwn y dewisir pwyllgor i edrych ar yr hyn y mae’r Bil yn ceisio ei wneud, a oes angen deddf newydd i gyflawni hynny, ac a yw’r Bil wedi’i ysgrifennu yn y ffordd iawn. Mae’r Pwyllgor yn ysgrifennu adroddiad ac yna mae’r Senedd gyfan yn pleidleisio ar a all y Bil fynd ymlaen i’r cyfnod nesaf.

Cliciwch ar y saethau i weld y cyfnodau eraill

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar 15 Mawrth, bydd yr holl Aelodau o’r Senedd yn cael cyfle i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil. Yna, bydd yr Aelodau yn pleidleisio p’un a ddylai’r Bil symud ymlaen i’r cam nesaf. Bydd angen i’r Bil fynd trwy sawl cyfnod arall cyn dod yn gyfraith, a’r chwe deg Aelod o’r Senedd fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol ar hynny.

Fel y dywed Cadeirydd y Pwyllgor yn ei rhagair yn yr adroddiad, “Y gobaith yw y bydd y Bil hwn yn helpu i ddod â mwy o gydlyniant a gweledigaeth strategol gliriach i’r sector”. Aeth y Pwyllgor ymlaen i ddweud:

Drwy gydol ein gwaith craffu ar y Bil mae’r Gweinidog wedi’i gwneud yn glir ei fod yn agored i newid y Bil mewn rhai meysydd allweddol. Rydym yn croesawu’r dull agored hwn, ac yn edrych ymlaen at ymateb cadarnhaol i’r argymhellion a wnawn yn yr adroddiad.

Gallwn ddisgwyl llawer mwy o weithgarwch ar y Bil hwn, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob cam o’r ffordd.


Erthygl gan Rosemary Hill, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru