Diwygio tribiwnlysoedd Cymru: oedi gyda’r cynnydd

Cyhoeddwyd 31/03/2026

Wrth i'r Chweched Senedd ddod i ben, mae’r gwaith o ddiwygio Tribiwnlysoedd Cymru yn parhau i fod heb ei orffen. 

Er gwaethaf ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ni chyflwynwyd deddfwriaeth i gyflawni'r diwygiadau. Yn hytrach, cyfrifoldeb Llywodraeth nesaf Cymru fydd penderfynu a ddylid cyflwyno Bil.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar y dadleuon a gyflwynwyd dros ddiwygio'r tribiwnlysoedd a'r cynigion a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn papur gwyn yn 2023, a'r oedi wrth gyflwyno deddfwriaeth.

Beth yw Tribiwnlysoedd Cymru a phwy yw’r Llywydd?

Tribiwnlysoedd Cymru yw'r unig gyrff barnwrol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Corff sy’n datrys anghydfodau yw tribiwnlys, yn aml yn dilyn penderfyniad gan gorff cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae chwe Thribiwnlys yng Nghymru, yn ymdrin â meysydd fel iechyd meddwl, addysg ac amaeth.

Crëwyd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. Penodwyd Syr Gary Hickinbottom yn Llywydd yn 2023. Mae gan Lywydd y Tribiwnlysoedd rôl yn goruchwylio holl Dribiwnlysoedd Cymru. Mae gan bob tribiwnlys hefyd ei arweinydd barnwrol a'i aelodau ei hun. Mae gan y tribiwnlysoedd ystod o wahanol gyfrifoldebau. Gyda'i gilydd, maen nhw'n ymdrin â thua 2,000 o achosion bob blwyddyn.

Mae rhagor o wybodaeth am Dribiwnlysoedd Cymru ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd

Pam mae angen eu diwygio?

Mae'r chwe thribiwnlys datganoledig yng Nghymru yn cwmpasu ystod eang o feysydd polisi, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn dyddio'n ôl i’r cyfnod cyn datganoli. Mae Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu llywodraethu'n bennaf gan eu deddfwriaeth wreiddiol ac mae anghysondebau ac amrywiadau yn eu prosesau a'u gweithdrefnau.

Cynhaliodd Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr adolygiad o Dribiwnlysoedd Cymru. Cyhoeddodd ei adroddiad ar hyn ym mis Rhagfyr 2021. Gofynnodd Llywodraeth Cymru iddo ystyried materion yn ymwneud â Bil Tribiwnlysoedd newydd er mwyn rheoleiddio gweithrediad un system dribiwnlysoedd yng Nghymru.

Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid cael gwared ar dribiwnlysoedd Cymru a chreu un ‘Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru’, a fyddai’n cael ei rhannu’n siambrau. Dywedodd Comisiwn y Gyfraith y byddai hyn yn rhoi mwy o gydlyniant rhwng y tribiwnlysoedd, yn cynyddu proffil cyhoeddus y tribiwnlysoedd datganoledig ac yn eu galluogi i ymateb i ddatblygiadau yn y dyfodol. Byddai gan bob un o'r 'siambrau' hyn ei faes cyfrifoldeb arbenigol ei hun, sy’n adlewyrchu ystod bresennol Tribiwnlysoedd Cymru.

Bu rhaglen ddiwygio debyg yn yr Alban yn 2014, a sefydlodd Dribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban a Thribiwnlys Uchaf yr Alban i wrando ar apeliadau ar benderfyniadau siambrau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio?

Mewn ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn ar ddiwygio’r tribiwnlysoedd ym mis Mehefin 2023. Roedd yn nodi cynigion y llywodraeth i ddiwygio'r tribiwnlysoedd a chreu 'Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru' gyda siambrau wedi'u rhannu, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith. Cynigiodd hefyd sefydlu Tribiwnlys Apêl Cymru i wrando ar apeliadau a wneir yn erbyn penderfyniadau pob siambr. Yn rhagair y Gweinidog i'r Papur Gwyn, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd mai dyma'r tro cyntaf yn hanes cyfreithiol Cymru y byddai gan Gymru dribiwnlys apêl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y system dribiwnlysoedd yng Nghymru yn cynnig “gwasanaeth teilwng” i bobl Cymru ond bod y fframweithiau deddfwriaethol sy’n sail iddi yn “hen ac yn anhyblyg, ac nid ydynt yn gydlynol”. Ychwanegodd fel a ganlyn:

Mae ffordd fwy clir, syml, effeithiol a chydlynol o weithredu system dribiwnlysoedd Cymru yn hollbwysig i’r achos o sicrhau cyfiawnder i bobl Cymru

Mae’r diwygiadau arfaethedig wedi cael cefnogaeth gadarn gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a ddywedodd eu bod yn “hanfodol i gynnydd system gyfiawnder effeithlon ac effeithiol yng Nghymru”.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn 2022 i gyflwyno Bil i ddiwygio system dribiwnlysoedd Cymru yn y Senedd hon, ond nid yw wedi gwneud hynny. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf, dywedodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru "fel y rhan fwyaf o’r rhai sy’n ymwneud â thribiwnlysoedd yng Nghymru, rwy’n siomedig".

Pryd fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno?

Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn paratoi deddfwriaeth i’r llywodraeth nesaf ei chyflwyno ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai. Yn ei hymateb i adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, dywedodd Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, fod “llawer o gystadleuaeth am le” yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer blwyddyn olaf tymor y Senedd, a bod y Llywodraeth wedi gorfod gwneud “dewisiadau anodd”.

Ychwanegodd fod y gwaith ar ddrafftio Bil “wedi gwneud cynnydd da” a’i bod yn hyderus y bydd y gefnogaeth yn y Senedd bresennol i ddiwygio’r tribiwnlysoedd, yn parhau yn y Senedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud yr effeithiwyd ar gynnydd y gwaith hwn oherwydd y bu’n rhaid dargyfeirio adnoddau er mwyn cefnogi pasio Deddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026 ym mis Ionawr.

Yn ei adroddiad gwaddol, dywedodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd ei fod yn rhannu siomedigaeth y Llywydd nad oes Bil wedi'i gyflwyno yn nhymor y Senedd hon. Mae'r Pwyllgor yn annog y pwyllgor fydd â chyfrifoldeb dros faterion cyfiawnder yn y Seithfed Senedd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth nesaf Cymru o ran amserlen ar gyfer cyflwyno Bil ar frys.

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru