Agos-lun o ddŵr yn sblashio, gyda diferion wedi’u dal yn eu hunfan yn erbyn cefndir tywyll.

Agos-lun o ddŵr yn sblashio, gyda diferion wedi’u dal yn eu hunfan yn erbyn cefndir tywyll.

Diwygio sector dŵr Cymru: beth, sut a phryd?

Cyhoeddwyd 13/02/2026

Ar 3 Chwefror cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyrdd: Llunio Dyfodol Llywodraethiant Dŵr yng Nghymru, yn “amlinellu cyfeiriad cychwynnol” tuag at “ail-ddechrau o’r newydd” yn y sector dŵr yng Nghymru.

Mae'r newid yn dilyn blynyddoedd o bryderon ymhlith y cyhoedd ynghylch perfformiad cwmnïau dŵr, gyda chynnydd mewn digwyddiadau llygredd a biliau sy’n cynyddu.

Mae'r Papur Gwyrdd yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol y Comisiwn Dŵr Annibynnol, a gynhaliodd yr “adolygiad mwyaf o’r diwydiant ers preifateiddio”. Gwnaeth Adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol 88 o argymhellion o dan wyth thema eang, ac mae'r Papur Gwyrdd yn ymateb i bob un o'r themâu hyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ar 20 Ionawr, gan nodi ei ymateb i adolygiad y Comisiwn. Fodd bynnag, gan fod y diwydiant dŵr wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, mae’r cynigion ar gyfer Cymru yn wahanol i’r rhai ar gyfer Lloegr (ceir manylion am hyn isod).

Dyma’r tri phrif beth i’w nodi o'r Papur Gwyrdd:

1. Cynllun i ailwampio'r system gyfan ar gyfer y sector dŵr

Mae’r cynigion ar gyfer Cymru yn cynnwys, yn fras, y canlynol:

  • Cyhoeddi Strategaeth Ddŵr Genedlaethol newydd i Gymru, a newidiadau i’r ffordd y mae blaenoriaethau strategol yn cael eu cyfleu i'r diwydiant;
  • cyflwyno swyddogaeth cynllunio systemau cenedlaethol i gydlynu rheoli dŵr ledled Cymru, ac ar draws sectorau; a hefyd
  • cyfrifoldebau rheoleiddio cryfach ac atebolrwydd drwy ddiwygiadau i reoleiddwyr – bydd Ofwat, y rheoleiddiwr economaidd presennol ar gyfer Cymru a Lloegr, yn cael ei ddiddymu, a rheoleiddiwr economaidd annibynnol ar wahân i sector dŵr Cymru i gael ei sefydlu.

Awgrymir bod y dull cynllunio systemau newydd yn cael ei wneud yn swyddogaeth i'r rheoleiddiwr economaidd, er mwyn “sicrhau bod fforddiadwyedd tymor byr yn cael ei gydbwyso â seilwaith tymor hir ac anghenion amgylcheddol”. Mae newidiadau hefyd a argymhellir o ran y ffordd y mae rheoleiddwyr yn ymgysylltu â chwmnïau, gan gynnwys ystyried fframweithiau perfformiad ac adnoddau gorfodi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig adolygu’r fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer dŵr, a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol iddo. Mae argymhellion pellach yn ymwneud â chryfhau llywodraethiant cwmnïau dŵr sydd wedi'u cyfeirio'n bennaf at reoleiddwyr, a rhai'n anelu at newid y modd y mae seilwaith y diwydiant dŵr yn cael ei reoli, ei fonitro a'i ddarparu.

Y gwahaniaeth mawr rhwng cynigion Cymru a Lloegr yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu rheoleiddiwr dŵr integredig ar gyfer Lloegr, drwy ddwyn ynghyd swyddogaethau perthnasol y system ddŵr o'r rheoleiddwyr presennol – Ofwat, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, Asiantaeth yr Amgylchedd, a Natural England – yn un corff newydd. Yng Nghymru, byddai swyddogaethau rheoleiddio dŵr presennol Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau gyda’r asiantaeth honno.

Cynigir hefyd y byddai cylch gorchwyl yr Asiantaeth Dŵr Yfed yn parhau i fod ar sail ‘Cymru a Lloegr’, tra’n cae ei ymgorffori yn rheoleiddiwr integredig Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y posibilrwydd y bydd hyn yn “peri heriau” o ran cwmpas daearyddol a chylch gwaith y rheoleiddiwr newydd ar gyfer Lloegr, a bydd yn asesu “priodoldeb” y sefyllfa hon yn ystod y cyfnod pontio.

2. Angen pwerau ychwanegol i gyflawni diwygiadau Cymru

Bydd sefydlu rheoleiddiwr economaidd ar wahân i Gymru yn gofyn am gymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i’r Senedd, a chymhwysedd gweithredol i Weinidogion Cymru.

Mae’r Papur Gwyrdd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn “gweithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio’r cynigion, gan gynnwys “trafod cwmpas y cymwyseddau deddfwriaethol a gweithredol” sydd eu hangen.

Bydd angen diwygio deddfwriaethol mawr ledled Cymru a Lloegr i weithredu'r cynigion ar gyfer diwygio ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU a Phapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru. Er nad yw dyddiadau'n glir o'r naill bapur na'r llall, bydd fersiwn gyntaf o gynllun pontio ar y cyd, sy'n nodi mwy o fanylion am sut y bydd y diwygiadau'n cael eu gweithredu, yn cael ei chyhoeddi yn 2026 gan y ddwy lywodraeth. 

Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei deddfwriaeth sylfaenol yn gyntaf, gan nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Lloegr, yn ogystal â'r pwerau galluogi ar gyfer Cymru. Disgwylir iddi osod y trefniadau trosiannol ar sail statudol, a nodi sut y bydd cyrff Cymru a Lloegr yn cydweithio ar faterion trawsffiniol.

Yn dilyn deddfwriaeth Llywodraeth y DU, ac yn amodol ar gytundeb Llywodraeth newydd Cymru, cynigir cyhoeddi Papur Gwyn i Gymru yn cynnwys manylion y ddeddfwriaeth Gymreig, ac yn ymgorffori adborth a gasglwyd drwy'r Papur Gwyrdd. Disgwylir i hyn amlinellu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer diwygio yng Nghymru, a llwybr cyflawni ar gyfer rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru.

Unwaith eto, yn amodol ar gytundeb y llywodraeth newydd ar ôl yr etholiad, y bwriad yw y bydd Bil Dŵr Cymru yn cael ei gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd.

3. Rheoleiddiwr newydd Cymru yn gweithredu o ganol y 2030au ymlaen

Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi amserlen fras ar gyfer diwygio'r sector dŵr yng Nghymru:

  • Cam 1 Newid deddfwriaethol: 2026 i tua 2028 / 2029.
  • Cam 2 Sefydlu rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru a swyddogaeth cynllunio system ar gyfer dŵr: 2028 – dechrau'r 2030au.
  • Cam 3 Rheoleiddiwr economaidd ar gyfer dŵr wedi’i sefydlu ac ymgymryd â'r rôl: canol y 2030au ymlaen.

Y rheswm a roddir dros yr amserlenni hir yw y bydd angen cyflawni'r diwygiad yn erbyn cefndir o gylch adolygu prisiau 5 mlynedd Ofwat.

Mae’r Papur Gwyrdd yn egluro fel a ganlyn o ra sicrhau nad oes bwlch mewn rheoleiddio ar gyfer cwmnïau dŵr Cymru, o 2026 ymlaen:

bydd rhaid i Ofwat, ac unrhyw reoleiddiwr integredig dilynol barhau i ddarparu swyddogaethau rheoleiddio economaidd i Gymru, gan gynnwys cynnal yr adolygiad prisiau a bennwyd yn 2029.

Er mwyn i'r rheoleiddiwr newydd yng Nghymru arwain yr adolygiad prisiau ar gyfer Cymru yn 2034 (PR34), byddai angen iddo fod yn weithredol erbyn 2030 fan bellaf:

Gan y bydd angen i'r broses ddeddfwriaethol yng Nghymru fynd rhagddi mewn trefn, mae'r amserlen hon yn golygu y bydd angen trefniadau wrth gefn i sicrhau rheoleiddio effeithiol ar gyfer PR34.

Gan ddibynnu ar ba mor gyflym y gellir pasio deddfwriaeth Cymru, a sefydlu rheoleiddiwr wedi hynny, mae'n bosibl y bydd y corff rheoleiddio Seisnig newydd yn “[g]oruchwylio rhai swyddogaethau rheoleiddio dros dro argyfer Cymru” nes bod PR34 yn cael ei gyflwyno.

Y camau nesaf

Dylid nodi rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd y diwygiadau hyn yn cael eu gweithredu yn y cynllun pontio, a ddisgwylir eleni. Bydd hyn cynnig cynllun i arwain y sector o’r system bresennol i fodel ar gyfer y dyfodol drwy nodi’r hyn sydd angen digwydd a phryd, a phwy sy’n gyfrifol.

Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru