Diwygio’r Senedd: geirfa

Cyhoeddwyd 06/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 18 Medi 2023.

Mae’r Bil yn cynnwys cynigion i gynyddu maint y Senedd o 60 i 96 o Aelodau, newid y ffordd y caiff Aelodau eu hethol ac mae’n darparu ar gyfer adolygu ffiniau etholaethau ar gyfer etholiadau’r Senedd. Gallwch ddarllen mwy am gynnwys y Bil yma.

Mae’r erthygl hon yn rhoi esboniadau o rai o’r termau allweddol a ddefnyddir yn y Bil ac yn y ddadl ehangach ynghylch diwygio’r Senedd.

Mae geirfa ddwyieithog o dermau a ddefnyddir yn y Bil hefyd wedi’i chyhoeddi.

Y prif dermau

Adolygu ffiniau

Fel arfer, caiff ffiniau etholaethau at ddibenion etholiadau’r DU eu hadolygu o bryd i'w gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn adlewyrchu ffactorau fel newidiadau mewn poblogaeth. Mae’r Bil yn darparu ar gyfer adolygiad symlach o ffiniau ar gyfer etholiad 2026, adolygiad llawn o’r ffiniau cyn etholiad 2031 ac adolygiadau cyfnodol ar ôl hynny. Byddai’r adolygiadau hyn yn cael eu gwneud gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, y byddai’r Bil yn ei ailenwi yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru. Byddai’r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i’r Comisiwn ei hun, gan gynnwys cynyddu uchafswm nifer Aelodau’r Comisiwn o bump i naw.

Cwotâu rhywedd

Mae cwotâu rhywedd, yng nghyd-destun etholiadau, yn rheolau sy'n mynnu bod nifer neu ganran benodol o rywedd penodol yn cael ei chynrychioli yn y gronfa o ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol.

Cyd-drawiad

Cyd-drawiad yw etholaethau’n rhannu ffiniau ar gyfer gwahanol etholiadau. Er enghraifft, pe bai ffiniau Senedd y DU a ffiniau’r Senedd yr un fath byddent yn cyd-daro. Dywedir bod cyd-drawiad yn ddefnyddiol o ran cynefindra i bleidleiswyr a phleidiau. Roedd ffiniau'r Senedd yn arfer cyd-daro â ffiniau San Steffan tan 2011, pan gafodd y cysylltiad ei dorri.

Cyfranoldeb

Y graddau y mae dosbarthiad seddau mewn deddfwrfa yn adlewyrchu cyfran y pleidleisiau a enillwyd gan bleidiau/ymgeiswyr. Mesurodd y Panel Arbenigol systemau etholiadol gwahanol gan ddefnyddio Mynegai Galler o Anghyfranoldeb. Mae hwn yn mesur pa mor anghyfrannol yw canlyniad etholiad; hynny yw, y gwahaniaeth rhwng canran y pleidleisiau a gafwyd a chanran y seddau a gafodd plaid yn y ddeddfwrfa sy'n deillio o'r etholiad. Po isaf yw ffigur Gallagher, y mwyaf cyfrannol yw'r canlyniad.

Cymhwysedd Deddfwriaethol

Y term a ddefnyddir i ddisgrifio cwmpas pŵer y Senedd i ddeddfu. Oherwydd y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2011, mae’r Senedd yn cael pasio Deddfau yn y pynciau wedi’u cynnwys yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cafodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ei ddiwygio gan Ddeddf Cymru 2017, a ddarparodd ar gyfer setliad datganoli newydd i Gymru. Mae'r Model Cadw Pwerau a sefydlwyd o dan Ddeddf 2017 yn caniatáu i'r Senedd ddeddfu ar unrhyw faterion nas cadwyd gan Senedd y DU.

Cynrychiolaeth Gyfrannol

System etholiadol lle mae nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn cyfateb yn agos i ddosbarthiad y seddi.

Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Gaeedig

Math o system etholiadol lle mae pob plaid yn cyflwyno rhestr o'u hymgeiswyr ar gyfer etholaethau aml-aelod. Caiff yr ymgeiswyr buddugol eu cymryd o'r rhestrau yn nhrefn eu safle, a dyrennir seddi'n gymesur gan ddefnyddio fformiwla. Mewn system rhestr gaeedig, mae pleidiau yn cyflwyno rhestr sefydlog yn y drefn o'u dewis. Nid oes gan bleidleiswyr lais yn y modd y trefnir y rhestr, ac yn syml, mae'r pleidleisiwr yn pleidleisio dros restr y blaid. Dyma’r system a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer seddi rhanbarthol yn y Senedd. Dyma hefyd y system y byddai Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn ei chyflwyno mewn Senedd sydd â 96 o Aelodau.

Dull D'Hondt

Fformiwla a ddefnyddir i droi pleidleisiau yn seddi mewn system etholiadol gyfrannol. Mae’r fformiwla eisoes yn cael ei defnyddio ar gyfer seddi rhanbarthol yn y Senedd bresennol. Rhennir nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob plaid â nifer y seddi y mae'r blaid eisoes wedi'u hennill, ynghyd ag un. Er enghraifft, os yw plaid wedi ennill dwy sedd, rhennir nifer y pleidleisiau a enillir â thri. Y blaid sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob rownd sy’n ennill y sedd, ac mae hyn yn cael ei ailadrodd hyd nes bod pob sedd wedi’i llenwi. Dyma’r dull y darperir ar ei gyfer ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar draws Senedd 96 Aelod, a etholir yn gyfan gwbl drwy system gyfrannol rhestr gaeedig.

Dull Sainte-Laguë

Fformiwla a ddefnyddir i droi pleidleisiau yn seddi mewn system etholiadol gyfrannol. Mae'n debyg i ddull D'Hondt, y prif wahaniaeth yw'r rhannwr a ddefnyddir ym mhob rownd. Yn y dull Sainte-Laguë, rhennir nifer y pleidleisiau â dwywaith nifer y seddi a enillwyd, ynghyd ag un. Er enghraifft, ar ôl ennill sedd sengl, mae'r rownd nesaf yn defnyddio'r rhannwr tri, gan mai un dwbl yw hwn (y sedd a enillwyd yn y rownd gyntaf), ynghyd ag un. Mae hyn yn arwain at ranwyr o un, tri, pump, saith ac yn y blaen ar gyfer pob rownd, hyd nes bod pob sedd wedi'i dyrannu.

Etholaethau aml-aelod

Mae etholaethau aml-aelod yn etholaethau sy’n ethol mwy nag un aelod. Mae’r rhestrau rhanbarthol a ddefnyddiwyd hyd yn hyn yn etholiadau’r Senedd yn un enghraifft. Mae’r Pwyllgor yn cynnig y byddai pob etholaeth yn etholiadau’r Senedd yn y dyfodol yn ethol cyfanswm o chwe aelod. Mae hyn yn wahanol i systemau etholiadol 'cyntaf i'r felin' fel yr un a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol y DU, lle mae un aelod yn unig yn cael ei ethol i gynrychioli etholaeth.

Maint y dosbarth

Maint y dosbarth yw nifer yr aelodau a etholir gan bob etholaeth. Po uchaf yw maint y dosbarth neu nifer yr aelodau sy'n cynrychioli ardal, y mwyaf cyfrannol y mae'r canlyniadau'n debygol o fod. Gall meintiau’r dosbarth sy'n rhy uchel feddu ar y risg o fod yn ‘hypergyfrannol’ gan ganiatáu i bleidiau neu ymgeiswyr â lefelau isel iawn o gefnogaeth gyffredinol ennill seddii.

Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Sefydlwyd y Panel Arbenigol ym mis Chwefror 2017 i roi cyngor gwleidyddol diduedd i’r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ar y pryd, ar nifer yr Aelodau y dylai’r Senedd eu cael, y system etholiadol fwyaf addas i’w defnyddio a materion cysylltiedig eraill. Roedd yn cynnwys chwe academydd, a chafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister. Cyhoeddodd ei adroddiad ym mis Tachwedd 2017.

Paru

Mae’r Bil yn cynnig y dylid creu 16 o etholaethau newydd i’r Senedd. Mae'n dweud y dylent fod yn seiliedig ar baru’r 32 etholaeth newydd ar gyfer  Senedd y DU fydd ar waith erbyn Etholiad Cyffredinol nesaf y DU. Mae paru yn golygu paru dwy etholaeth wahanol i wneud un newydd. Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal adolygiad ffiniau ‘symlach’ i baru etholaethau cyn 2026.

Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

System etholiadol gyfrannol lle mae pleidleiswyr yn rhifo ymgeiswyr yn nhrefn blaenoriaeth mewn etholaethau aml-aelod. Mae gan bob etholwr un bleidlais. Os oes gan ddewis cyntaf pleidleisiwr ddigon o bleidleisiau i ennill sedd, neu os nad oes gan ei ddewis cyntaf obaith clir o ennill, bydd ail ddewis y pleidleisiwr yn cael ei bleidlais. Bydd unrhyw bleidleisiau sy'n fwy na'r cwota ar gyfer yr ymgeisydd buddugol yn symud i ail ddewis y pleidleisiwr. Mae hyn yn parhau nes bod pob sedd yn yr etholaeth wedi'i llenwi. Dyma'r system a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol a’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ond nid gan y Pwyllgor Diben Arbennig. Roedd lleiafrif ar y Pwyllgor Diben Arbennig o blaid y dull hwn.

Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ym mis Medi 2019 i ystyried canfyddiadau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol. Roedd yn cynnwys Aelodau o’r Senedd o Blaid Cymru, Llafur a Phlaid Brexit (UKIP gynt). Ymddiswyddodd aelod Plaid Brexit cyn i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd gyhoeddi ei ganfyddiadau. Cyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Medi 2020.

Rhannu swydd

Yn yr achos hwn, mae rhannu swydd yn cyfeirio at ddal swyddi penodol ar y cyd, yn amrywio o Aelod o’r Senedd i Lywydd i un o Weinidogion Cymru. Gallai hyn olygu rhannu’r swydd ar yr un pryd, neu un person yn dal y swydd dros dro tra nad yw’r deiliad penodedig neu’r deiliad etholedig ar gael (er enghraifft os oedd ar absenoldeb rhiant). Ni fyddai Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cyflwyno darpariaethau rhannu swyddi, ond byddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gyflwyno cynnig i sefydlu pwyllgor yn y Senedd i adolygu’r mater o fewn chwe mis i’r etholiad cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

Rhestrau ‘am yn ail’

Trefn lle mae rhestr ymgeiswyr plaid yn amrywio rhwng ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd. Mae hyn yn sicrhau bod niferoedd cyfartal o ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd yn ymddangos ar restrau pleidiau. Mae hyn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan rai pleidiau yn etholiadau rhanbarthol y Senedd.

Sedd sy'n digwydd dod yn wag

Sedd sy'n dod yn wag rhwng etholiadau, er enghraifft am fod Aelod wedi marw neu wedi ymddiswyddo.

System Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg

System bleidleisio gymysg a ddefnyddir ar hyn o bryd i ethol Aelodau o’r Senedd. Mae’n cyfuno elfennau o system y cyntaf i'r felin yn y 40 etholaeth, a system cynrychiolaeth gyfrannol, pan fydd pleidleiswyr yn dewis o restr o ymgeiswyr dros bob plaid mewn pum rhanbarth, gan ethol 20 o Aelodau ychwanegol. Mae hyn yn helpu i wneud iawn am yr anghydbwysedd sy'n codi'n aml yn etholiadau'r cyntaf i'r felin. Gelwir hyn hefyd yn System Aelodau Ychwanegol.

Tymhorau Etholiadol

Pa mor hir y mae Senedd yn eistedd rhwng etholiadau. Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn darparu ar gyfer lleihau hyd tymor Senedd o’r tymor sefydlog presennol o bum mlynedd i dymor penodol o bedair blynedd.

Uwchfwyafrif

Yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’n rhaid i Filiau sy’n ymwneud ag aelodaeth y Senedd, ei hetholaethau a’r systemau ar gyfer dychwelyd Aelodau gael eu pasio gan uwchfwyafrif o Aelodau’r Senedd yn hytrach na mwyafrif syml fel gyda Biliau eraill. Mae hynny’n golygu bod angen i Filiau ar y pynciau hyn gael 40 Aelod o’r Senedd i bleidleisio drostyn nhw wrth gam olaf proses y Bil er mwyn iddyn nhw gael eu pasio. Mae hyn wedi’i nodi’n fanwl yn Adran 111A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Y Gofrestr Etholiadol

Y rhestr o bobl sy’n gymwys i bleidleisio mewn ardal leol benodol. Caiff ei llunio a’i chynnal gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Mae dwy fersiwn o’r gofrestr: y gofrestr lawn, a ddefnyddir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a swyddogion canlyniadau ar gyfer cynnal etholiadau, a’r gofrestr ‘agored’, sy’n fersiwn o’r gofrestr lawn, y gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol ei gwerthu i unrhyw berson, sefydliad neu gwmni at ystod eang o ddibenion.


Erthygl gan Rhun Davies, Philip Lewis & Nia Moss, diweddarwyd gan Philip Lewis a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru