Bydd ymgynghoriadau'n cael eu cynnal yn ystod y gwanwyn yn 2018 ar ddwy ddogfen polisi cynllunio bwysig a fydd yn fframio sut y bydd y system gynllunio yng Nghymru yn gweithio yn y dyfodol rhagweladwy.
Mae'r ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10 eisoes wedi dechrau a bwriedir lansio ymgynghoriad ar y drafft cyntaf o'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd ar 30 Ebrill 2018.
Polisi Cynllunio Cymru yw polisi cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 2002. Dyma'r cam cyntaf o ran y polisi cynllunio yng Nghymru ac fe'i cefnogir gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol a chanllawiau eraill.
Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi fframwaith defnydd tir 20 mlynedd ar gyfer Cymru gyfan a bydd yn llywio'r cynlluniau datblygu cysylltiedig – sef Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol. Bydd hefyd yn cefnogi penderfyniadau ar brosiectau seilwaith ar raddfa fawr drwy'r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Disgwylir i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol gael ei gyhoeddi ddechrau 2020, yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth a fydd yn cynnwys gwaith craffu gan y Cynulliad.
Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar yr ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru. Bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn trafod yr ymgynghoriad ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft unwaith y bydd wedi dechrau. Yn y cyfamser, gweler ein herthygl flaenorol sy'n cyflwyno'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Y sbardun ar gyfer newid
Y prif sbardun ar gyfer diweddaru Polisi Cynllunio Cymru yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailstrwythuro'r polisi cynllunio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'r drafft yn ceisio ymgorffori saith nod llesiant y Ddeddf a phum ffordd o weithio yn llawn fel rhan o bolisi cynllunio am y tro cyntaf. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, fod Polisi Cynllunio Cymru 'wedi ei addasu' i ystyried y Ddeddf, wrth iddi lansio'r ymgynghoriad ym mis Chwefror 2018.
Mae creu lleoedd hefyd yn un o nodau amlwg y fersiwn newydd. Mewn cyfweliad ar gyfer 'Planner', sef cylchgrawn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, eglurodd Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru:
Placemaking complements well-being: by taking a holistic approach early on in the development process, planners can help shape good-quality places that are attractive, sociable and ultimately successful developments.
Strwythur newydd
Felly, mae strwythur newydd Polisi Cynllunio Cymru wedi ei seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a'r nod o greu lleoedd. Mae'n cyflwyno Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol newydd o ran Creu Lleoedd sy'n disgrifio beth sy'n creu lleoedd llwyddiannus a chynaliadwy.
Mae pynciau'r polisi wedi'u trefnu'n unol â chyfres o themâu gyda'r nod o'i gwneud hi'n haws nodi meysydd polisi sy'n gysylltiedig â'i gilydd. Er enghraifft, mae'r bennod ar Leoedd Actif a Chymdeithasol yn cynnwys polisi ar dai, manwerthu, cyfleusterau cymunedol, mannau hamdden a thrafnidiaeth.
Newidiadau polisi
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi achub ar y cyfle i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:
- Rhoi mwy o bwyslais ar gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol;
- Dylid hyrwyddo aneddiadau newydd ac estyniadau trefol drwy gynlluniau datblygu;
- Mwy o bwyslais ar dir a ddatblygwyd o'r blaen;
- Dim ond fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol neu Gynllun Datblygu Strategol y dylid cynnig creu lleiniau glas;
- Polisi newydd ar dai i bobl hŷn, datblygiadau hunanadeiladu ac adeiladu pwrpasol;
- Hyrwyddo'r hierarchaeth drafnidiaeth a theithio llesol;
- Trothwyon o ran darparu seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan;
- Polisïau diwygiedig o ran glo ac olew a nwy ar y tir;
- Mwy o gefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel;
- Diweddariadau o ran yr amgylcheddol naturiol i adlewyrchu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; a
- Chyflwyno’r 'egwyddor cyfrwng newid'.
Ymchwiliadau gan bwyllgorau
Mae ymchwiliadau diweddar gan bwyllgorau'r Cynulliad i wahanol faterion polisi wedi tynnu sylw at feysydd lle y mae rhanddeiliaid yn credu y gellid gwella polisi cynllunio.
Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi clywed sut y dylai Polisi Cynllunio Cymru wneud mwy i hyrwyddo nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Mae'r un Pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod angen gwneud mwy i gefnogi awdurdodau cynllunio lleol wrth gynllunio canol trefi a pharciau adwerthu y tu allan i ganol trefi, ac mae wedi argymell y dylid diwygio polisi cynllunio er mwyn cefnogi mwy o fuddsoddiad mewn cysylltedd digidol. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru i'r casgliadau a'r argymhellion hyn yn y lincs uchod.
Fel rhan o'i waith ar Gynllun Morol Cenedlaethol drafft Cymru, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi clywed y dylai fod cysylltiadau cryfach rhwng polisi cynllunio daearol a morol.
Un o brif negeseuon allweddol ymchwiliad diweddar y Pwyllgor i Dai Carbon Isel yw'r angen i gynllunwyr symud tuag at roi blaenoriaeth i ddyluniad carbon isel, a'r angen i edrych ar y sefyllfa o safbwynt cyfannol er mwyn hwyluso datblygiad cynaliadwy.
Ymateb
Mae rhanddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb wrthi'n paratoi eu hymatebion i'r ymgynghoriad, ond mae rhai ymatebion eisoes wedi dod i'r amlwg.
Er enghraifft, mae cwmni ymgynghori Barton Willmore wedi cyhoeddi dadansoddiad manwl o'r Polisi Cynllunio Cymru drafft. Ymhlith pethau eraill, mae'n croesawu cynyddu'r pwyslais ar gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol ac yn nodi'r diffyg cynnydd wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Strategol ers i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 dderbyn Cydsyniad Brenhinol bron i dair blynedd yn ôl.
Yng nghyswllt hyn, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017 yn gwahodd awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol ar y cyd a, lle y bo'n briodol, Cynlluniau Datblygu Strategol.
Mae Coed Cadw wedi mynegi pryder bod geiriad y polisi newydd arfaethedig yn gwanhau'r mesurau ar gyfer amddiffyn coetiroedd hynafol. Fodd bynnag, wrth ymateb i gwestiwn ar y mater yn ystod un o gyfarfodydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, dywedodd y Prif Gynllunydd mai bwriad y polisi o hyd yw diogelu coetiroedd hynafol, er bod y geiriau wedi newid, ac os oes gan bobl bryderon, y gellid edrych eto ar y geiriad.
Mae'r ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru ar agor tan 18 Mai 2018, a gellir dod o hyd iddo yma: Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Dogfen ymgynghori Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10