Cyhoeddwyd 28/09/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
28 Medi 2016
Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru wrthi'n adolygu'r etholaethau seneddol yng Nghymru, gyda'r nod o leihau maint Tŷ'r Cyffredin. Mae hyn yn dilyn
Deddf Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (Deddf 2011) Senedd y DU. Gelwir y broses bresennol yn 'Adolygiad 2018'. Adroddir ar yr argymhellion terfynol sy'n deillio o Adolygiad 2018 i Lywodraeth y DU a bydd eu gweithredu yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol.
Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar drefniadau etholaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru oherwydd
Adran 13 o Ddeddf 2011
. Roedd y gwelliant hwn i
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn datgysylltu etholaethau etholiadol y Cynulliad a Senedd y DU.
Roedd hyn yn bwysig, oherwydd ar adeg Adolygiad 2013, roedd
trafodaeth ynghylch os a sut y byddai Cynulliad Cymru yn ailadrodd y model 30 o seddi etholaethol, a sut y byddai'n effeithio ar gyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad.
Mae
Rhan 2 o Ddeddf 2011 yn nodi'r rheolau y mae'n rhaid i'r Comisiynau Ffiniau ledled y DU eu dilyn wrth gynllunio'r etholaethau newydd. Er bod nifer o reolau ac ystyriaethau, fel ffiniau cymdeithasol a daearyddol traddodiadol, y peth mwyaf arwyddocaol yw
nifer yr etholwyr cofrestredig ym mhob etholaeth.
Roedd Deddf 2011 hefyd yn gosod dyletswydd ar bob Comisiwn Ffiniau i adolygu ffiniau etholaethau ac adrodd ar eu canfyddiadau cyn 1 Hydref bob pum mlynedd wedi hynny [dyddiad yr adolygiad cyntaf, 2013].
Cefndir y polisi
Crëwyd Deddf 2011 yn sgil cytundeb y glymblaid rhwng y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r blog hwn yn ymwneud ag agweddau ar y Ddeddf sy'n ymdrin â diwygio etholaethau seneddol y DU.
Roedd Deddf 2011 yn mandadu y dylid lleihau Tŷ'r Cyffredin i 600 o aelodau erbyn Etholiad 2015. Er mwyn sicrhau hyn, roedd yn nodi y dylai Comisiwn Ffiniau pob gwlad yn y DU lunio adolygiad o ffiniau ei etholaeth erbyn mis Hydref 2013. Yng Nghymru,
cyhoeddwyd canfyddiadau terfynol arolwg 2013 ym mis Hydref 2012 a dyrannwyd 30 o seddi i Gymru.
Fodd bynnag, yn dilyn
anghytuno gwleidyddol rhwng partneriaid y glymblaid, gohiriwyd y broses o weithredu'r ffiniau newydd. Roedd yr anghytundeb yn ymwneud â diwygio Tŷ'r Arglwyddi, rhywbeth yr oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i'w sicrhau a rhywbeth nad oedd dros 100 o'r Ceidwadwyr yn ei gefnogi.
Mewn ymateb i hyn, nid oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r newid i leihau nifer o aelodau Tŷ'r Cyffredin. Felly, bu oedi cyn cyhoeddi'r rheolau newydd, drwy
Ddeddf Gweinyddu a Chofrestru Etholiadol 2013, tan ar ôl Adolygiad 2018.
Adolygiad 2018 a'r dull a ddefnyddir ar gyfer cynllunio etholaethau newydd
Ceisiodd y Comisiwn Ffiniau i Gymru (y Comisiwn), cyn belled â phosibl, greu etholaethau yng Nghymru:
- O wardiau etholiadol sy'n agos at ei gilydd; ac
- Nad ydynt yn cynnwys 'rhannau datgysylltiedig', h.y. lle byddai'r unig gysylltiad ffisegol rhwng un rhan o'r etholaeth a'r gweddill yn gofyn i rywun basio drwy etholaeth wahanol.
Fel y soniwyd eisoes, roedd yn ofynnol i'r Comisiwn ddilyn y rheolau a nodir yn Neddf 2011. Roedd hyn yn golygu gorfod sicrhau bod gan bob etholaeth nifer yr etholwyr (ar ddyddiad yr arolwg) sy'n o leiaf 95 y cant a ddim yn fwy na 105 y cant o 'gwota etholiadol y DU'.
Cyfrifir y cwota etholiadol drwy rannu nifer yr etholwyr sydd wedi cofrestru i bleidleisio ar ddyddiad yr arolwg â 596. Diffinnir dyddiad yr adolygiad yn Neddf 2011 fel 'dwy flynedd a deg mis' cyn adolygiad terfynol y Comisiwn. Roedd hyn yn golygu bod adolygiad 2018 yn defnyddio data o 1 Rhagfyr 2015. Roedd 44,562,440 o etholwyr cofrestredig ledled y DU ar y dyddiad hwn.
O ganlyniad i hyn, roedd cwota etholiadol y DU ar gyfer Adolygiad 2018 yn 74,769. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid cael o leiaf 71,031 a dim mwy na 78,507 o etholwyr fesul etholaeth yng Nghymru. O ganlyniad i hyn, rhagwelwyd newidiadau mawr ar gyfer Cymru gan fod y
canolrif ar gyfer etholwyr seneddol ym mhob etholaeth yng Nghymru yn tua 54,300 yn 2015.
Roedd adroddiad Pwyllgor Diwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol Tŷ'r Cyffredin, sef
What next on the redrawing of parliamentary constituency boundaries? yn amlygu, yn seiliedig ar ddata etholiadol 2010, hyd yn oed os gallai nifer yr etholwyr amrywio 10 y cant o Gwota Etholiadol y DU, dim ond pedair etholaeth yng Nghymru fyddai heb ei heffeithio.
Mae
pedwar eithriad i'r Cwota Etholiadol yn Neddf 2011, sef 'etholaethau gwarchodedig'. Yn yr Alban ceir etholaethau Ynysoedd Erch ac Ynysoedd Shetland a Na h-Eileanan an Iar. Mae dwy 'etholaeth warchodedig' arfaethedig ar Ynys Wyth hefyd.
Mae'r
Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei Gynigion Cychwynnol ar gyfer Adolygiad 2018. Mae'r cynigion yn lleihau nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 29. Mae
Adroddiad o Gynigion Cychwynnol y Comisiwn yn cynnwys darlun manwl o bob etholaeth a'r wardiau etholiadol sydd ynddynt.
Bwriedir i'r
ffiniau newydd fod ar waith ar gyfer Etholiad Cyffredinol nesaf y DU, sydd wedi'i gynllunio ar hyn o bryd ar gyfer mis Mai 2020. Bydd unrhyw is-etholiadau a gynhelir cyn y dyddiad hwn yn seiliedig ar y ffiniau presennol.
Y dyfodol ar gyfer ffiniau etholiadol yng Nghymru
Os bydd
Bil Cymru 2016-17 yn mynd drwodd ar ei ffurf bresennol, yna bydd Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros fanyleb neu nifer yr etholaethau, rhanbarthau neu unrhyw ardal etholiadol gyfatebol, mewn perthynas ag etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae hyn yn golygu y byddant yn gallu cynyddu nifer y seddi sydd ar gael a cheisio, drwy'r Comisiwn Ffiniau i Gymru, gwneud addasiadau i ffiniau etholaethol y Cynulliad.
O ran etholaethau seneddol, bydd y Comisiwn, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, yn gorfod drafftio a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig ffurfiol i Lywodraeth y DU cyn mis Hydref 2018. Roedd angen i'r broses seneddol ddilynol newid y Ffiniau Seneddol sydd wedi'u nodi mewn papur briffio gan Dŷ'r Cyffredin,
‘2018 Review of Parliamentary constituencies: Wales’.
I grynhoi, unwaith y bydd Llywodraeth y DU yn cael yr adroddiadau gan y Comisiynau Ffiniau, rhaid iddo eu gosod gerbron y Senedd ar ffurf Gorchymyn neu Orchmynion Drafft y Cyfrin Gyngor. Rhaid i'r argymhellion a geir yn y Gorchymyn/Gorchmynion Drafft gael eu cymeradwyo gan y ddau Dŷ Seneddol. Os nad yw'r Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn/Gorchmynion Drafft, yna efallai y bydd y Llywodraeth yn diwygio'r cynigion ac yn gosod Gorchymyn/Gorchmynion newydd. Yna bydd yn rhaid gwneud cais newydd am gymeradwyaeth seneddol.
Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynigion Cychwynnol
Drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd 2016, bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn
cynnal gwrandawiadau cyhoeddus ledled Cymru ar eu Cynigion Cychwynnol. Bwriedir i'r gwrandawiadau hyn
...r[h]oi cyfle i bobl gyflwyno sylwadau am unrhyw un o'r cynigion cychwynnol y Comisiwn, gan gynnwys enwi etholaethau a chyflwyno unrhyw wrthgynigion.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwrandawiadau cyhoeddus hyn, ac am yr ymgynghoriad ehangach ar y Cynigion Cychwynnol,
ewch i wefan y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Bydd yr
ymgynghoriad yn dod i ben ar 5 Rhagfyr 2016.