Mae COVID-19 wedi newid ein bywydau bob dydd, ond mae hefyd wedi gwaethygu anghydraddoldebau a oedd yn bodoli cyn y pandemig.
Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg o ragor o anghydraddoldebau o ran rhyw yn y farchnad lafur, o ran canlyniadau iechyd, o ran cynrychiolaeth ac o ran cam-drin domestig.
Ond nid yw profiadau menywod yn unffurf, ac mae anghydraddoldebau'n cael eu chwyddo pan fydd ffactorau amrywiol fel amddifadedd economaidd, ethnigrwydd, oedran, anabledd, rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd a ffactorau eraill yn rhyngblethu.
Er enghraifft, dangosodd tystiolaeth gynnar fod 39 y cant o'r holl weithwyr benywaidd o dan 25 mlwydd oed yn gweithio mewn sectorau a oedd wedi’u cau yng Nghymru, a bod 44 y cant o weithwyr o ethnigrwydd Bangladeshaidd yn cael eu cyflogi mewn sectorau a oedd wedi’u cau.
Mae’r mudiad Menywod y Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio:
‘[…] the perspectives of women and girls in all of their diversity must be integrated in the formulation and implementation of policies and programmes in all spheres and at all stages of pandemic response and recovery.’
Mae nod Llywodraeth Cymru o ddod yn 'llywodraeth ffeministaidd' sy'n cydnabod bod anghydraddoldebau rhyngblethedd yn debygol o gael ei brofi yn ystod yr adferiad o’r pandemig.
Beth yw rhyngblethedd?
Term a fathwyd dros 30 mlynedd yn ôl gan yr Athro Kimberlé Crenshaw yw 'Intersectionality'. Hi a ddisgrifiodd y term fel trosiad ar gyfer deall y ffyrdd y mae sawl math o anghydraddoldeb neu anfantais weithiau'n dwysáu eu hunain.
Mae rhyngblethedd yn disgrifio'r ffordd y mae'r ffactorau hyn yn gorgyffwrdd, ac yn egluro pam na all rhywedd yn unig egluro effeithiau amrywiol COVID-19. Ond mae diffyg data wedi'u dadgyfuno yn rhwystro’r gallu i ddarparu dadansoddiad ystyrlon.
Rhaid i ddull rhyngblethiadol o ran yr adferiad gyd-fynd â'r heriau sy'n wynebu pobl â nifer o nodweddion gwarchodedig.
Mae lens rhyngblethiadol yn helpu i egluro pam mae COVID-19 wedi cael effeithiau mor amrywiol ar bobl. Bydd y profiad aml-haenog hwn o anghydraddoldeb hefyd yn effeithio ar allu pobl i adfer ar ôl y pandemig, a'u gallu i fod yn wydn yn wyneb argyfyngau yn y dyfodol.
Mae lleihau anghydraddoldebau yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru wrth gynllunio ar gyfer adferiad ar ôl y pandemig.
Yn 2018 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddod yn 'llywodraeth ffeministaidd', oedd ag egwyddor allweddol o ryngblethedd. Mae'r Cynllun Gweithredu ar Rywedd a a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020 yn pwysleisio yn yr un modd “na ellir ac na ddylid deall un math o wahaniaethu ar wahân i un arall”.
Mae rhyngblethedd hefyd yn cael ei gydnabod yng Nghynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-24 Llywodraeth Cymru.
Mae data yn allweddol i ddeall anghydraddoldeb rhyngblethedd.
Un o'r rhwystrau i ymgorffori dull rhyngblethiadol o ran cydraddoldeb yw diffyg data rhyngblethedd wedi'i ddadgyfuno sydd ar gael ar lefel Cymru.
Fel y nodwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Senedd ym mis Awst 2020, “yn ystod y pandemig daeth yn amlwg nad yw'r data sydd ar gael o ansawdd digonol o ran cyflogaeth y sector cyhoeddus, nac o ran canlyniadau iechyd”. Adleisiwyd y canfyddiad hwn gan Bwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Tŷ'r Cyffredin.
Ond beth ydyn ni'n ei wybod hyd yma am yr anghydraddoldebau rhyngblethedd a amlygwyd gan y pandemig, a pha ddata sydd ar goll?
Darlun sy’n destun pryder o ran cynrychiolaeth menywod
Canfu Adroddiad Cyflwr y Genedl 2021 Chwarae Teg ddirywiad sydyn o ran esgyniad menywod i swyddi dylanwadol. Mae penodiadau cyhoeddus benywaidd wedi lleihau o 64 y cant yn 2018-19 i 43 y cant yn 2019-20, ac mae penodiadau cadeiryddion benywaidd wedi lleihau o 56 y cant i lai na 5 y cant.
Mae gwaith mapio diweddar yn awgrymu mai dim ond 34 y cant o fenywod sy'n ymgeiswyr yn etholiad y Senedd ym mis Mai sydd mewn seddi a all fod yn ‘fuddugol', ac mae hyn eto yn tynnu sylw at ragor o anghydraddoldeb o ran cynrychiolaeth.
Nid yw'r data hyn yn cael ei ddadgyfuno ymhellach yn ôl ethnigrwydd, anabledd, oedran na ffactorau eraill. Yn ei waith ymchwil ar gynrychiolaeth hiliol ym mywyd cyhoeddus Cymru, galwodd Cynghrair Hil Cymru am gasglu data ethnigrwydd ar geisiadau ar gyfer penodiadau cyhoeddus, ac i Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb gael ei deddfu i ganiatáu i ddata gael ei gasglu ar ethnigrwydd sy'n gysylltiedig ag ymgeiswyr ar gyfer eu hethol, a hynny ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol. Roedd hyn hefyd wedi’i argymell gan Bwyllgor Cydraddoldeb y Senedd yn 2019.
Yr effaith ar sail rhyw ar iechyd
Er bod dynion a menywod yr un mor agored i ddal y feirws, mae dynion mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol a marw o ganlyniad i’r feirws.
Ond mae menywod yn llawer mwy tebygol o fod yn weithwyr allweddol na dynion yng Nghymru, ac felly'n fwy tebygol o fod yn agored i'r feirws. Mae menywod yn cynrychioli 78 y cant o weithwyr yn y sector iechyd, y sector gofal cymdeithasol a’r sector gwaith cymdeithasol yn y DU. Mae'r sector gofal cymdeithasol yn arbennig o ddibynnol ar fenywod sydd wedi ymfudo, sy'n 16 y cant o weithlu gofal cymdeithasol y DU. Y llynedd cododd Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd bryderon penodol am ansawdd y data cydraddoldeb a gasglwyd gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cafodd menywod a ddaeth yn famau yn ystod y pandemig broblemau penodol. Canfu Adroddiad ar Eni Babanod yn ystod y Cyfyngiadau Symud gan y Parent Infant Foundation bod 28 y cant o rieni sy'n bwydo ar y fron yn teimlo nad oedd ganddynt gefnogaeth, gyda’r effaith fwyaf ar ymatebwyr o grŵpiau Pobl Ddu. Dim ond 11 y cant o rieni plant o dan ddwy oed oedd wedi gweld ymwelydd iechyd wyneb yn wyneb.
Mae tystiolaeth bod iechyd meddwl menywod yn fwy tebygol o ddirywio yn ystod y pandemig. Cynyddodd nifer y menywod ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed a nododd broblem iechyd meddwl difrifol yn ystod y pandemig o 18 y cant i 35 y cant.
Dengys gwaith ymchwil hefyd bod 56 y cant o fenywod anabl wedi nodi ei bod yn anodd iddynt ymdopi ag arwahanrwydd cymdeithasol, o'i gymharu â 41 y cant o fenywod nad ydynt yn anabl. Roedd y gyfradd pryder ar ei uchaf ymhlith menywod anabl, gyda dros eu hanner yn nodi pryder mawr.
Roedd y pandemig yn cyfyngu ar fynediad at ofal iechyd ar gyfer poblogaethau a oedd â rhagor o anghenion meddygol, fel pobl drawsrywiol. Cyhoeddodd Barnardo's a Stonewall rybuddion y byddai pobl LHDT+ hefyd mewn perygl o gael eu cau allan o’u cymuned a bod yn fwy agored i drais, problemau iechyd meddwl, a gwahaniaethu.
Ni theimlwyd yr effeithiau’n gyfartal o ran y farchnad lafur ychwaith.
Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod y sectorau yr effeithir arnynt fwyaf gan y pandemig yng Nghymru (fel lletygarwch, hamdden, a manwerthu nad yw'n hanfodol) yn cyflogi cyfran uwch na'r cyfartaledd o bobl ifanc, menywod, gweithwyr o dras Bangladeshaidd, Du Caribïaidd a Phacistanaidd, a gweithwyr ar incwm isel.
Dengys y ffigurau diweddaraf ar y farchnad lafur bod y gyfradd gyflogaeth (sy'n cynnwys pobl sydd ar ffyrlo) rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020 ar gyfer dynion yn 74 y cant, o'i chymharu â 70 y cant ar gyfer menywod.
Mae'r data hefyd yn dangos bod 92,500 o fenywod ac 85,400 o ddynion ar gynllun ffyrlo yng Nghymru ers mis Ionawr 2021. Canfu dadansoddiad o ddata Cyllid a Thollau EM ar lefel y DU bod menywod ifanc o dan 22 mlwydd oed yn fwy tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo na dynion o'r un oed.
Efallai y bydd diffyg data rhyngblethedd ar brif feincnodau’r farchnad lafur ar lefel Cymru yn ei gwneud yn anoddach i dargedu rhaglenni adferiad yn effeithiol at y rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae COVID-19 wedi peri bod gofynion llafur di-dâl yn fwy gweladwy.
Mae gweithio gartref wedi dod â manteision ac anfanteision, yn dibynnu ar gyfrifoldebau a sefyllfaoedd byw pobl. Ond gydag ysgolion wedi cau, rhagor o bobl gartref, a llai o gyfleusterau gofal plant ar gael, mae'r angen o ran tasgau a gofal yn y cartref wedi cynyddu.
Canfu gwaith ymchwil mewn 38 o wledydd gan Fenywod y Cenhedloedd Unedig, er bod dynion a menywod wedi cynyddu eu llwyth gwaith o ran gofalu’n ddi-dâl, roedd menywod yn ysgwyddo’r cyfran helaethaf o’r gwaith, a arweiniodd at fod llawer yn gadael y gweithlu yn llwyr.
Dengys gwaith ymchwil yng Nghymru bod menywod yn fwy tebygol o orfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yn ddi-dâl i ofalu am eu plant (15 y cant o gymharu â 8 y cant o dadau). Canfu’r ymchwil hefyd bod pobl ag incwm sy’n llai na £20,000 y flwyddyn bron i bum gwaith yn fwy tebygol o golli eu swydd neu’u horiau gwaith oherwydd cyfrifoldebau gofal plant na menywod ar incwm uwch.
Daeth rhianta hefyd â heriau ychwanegol i fenywod anabl. Dywedodd dros draean o famau anabl (38 y cant) eu bod yn cael trafferth bwydo eu plant, o gymharu â 17 y cant o famau nad ydynt yn anabl. Yn ogystal â hyn, cafodd 59 y cant o fenywod anabl anawsterau wrth gyflawni tasgau o ddydd i ddydd fel siopa am fwyd, a nododd 60 y cant broblemau gyda rheoli gyrfa ochr yn ochr â gofalu am blant.
Mae rhagor o astudiaethau yng Nghymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio hyblyg yn yr hirdymor, i sicrhau nad yw mamau'n gadael y gweithlu yn barhaol. Gwnaeth Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd amrywiaeth o argymhellion am rianta a chyflogaeth yn 2018, gan gynnwys gwella gwaith hyblyg.
Roedd y cyfyngiadau symud yn cynyddu risgiau
Mae data'n dangos cynnydd tebygol o ran cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er y gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r cyfyngiadau symud, ynghyd â gwell cofnodi achosion cam-drin gan yr heddlu, mae'r pandemig wedi'i gwneud hi'n anoddach i ddioddefwyr ddianc rhag eu tramgwyddwyr.
Mae’r Women's Budget Group yn tynnu sylw at 'ddibyniaeth sefydliadol' menywod mudol, y mae llawer ohonynt yn dibynnu ar bartner am eu statws mewnfudo, ac yn methu â chael gafael ar fudd-daliadau neu gymorth arall oherwydd nad oes gan Lywodraeth y DU ddim polisi hawl i ofyn am gymorth arian cyhoeddus. Yn gynnar yn ystod y pandemig, gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad i ddarparu cymorth tai i breswylwyr yr effeithir arnynt gan y polisi dim hawl i ofyn am gymorth, yn enwedig y rhai a oedd yn cael eu cam-drin, ond mae cwestiynau ynghylch ei barhad.
Cynyddodd y pandemig y risg o gam-drin domestig i fenywod anabl, a oedd eisoes yn fwy tebygol o'i brofi tra’u bod hefyd mewn rhagor o berygl o dlodi a diweithdra. Darganfu gwaith ymchwil bod 42 y cant o fenywod anabl yn wynebu tensiynau yn eu perthnasoedd, hyd yn oed wrth iddynt ei chael yn anoddach i ddianc o'u cartref oherwydd eu bod yn cysgodi rhag y feirws neu o dan gyfyngiadau corfforol eraill.
Beth yw goblygiadau hyn i gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru?
Mae data ar effeithiau tymor byr ac effeithiau hirdymor COVID-19 yn parhau i ddod i'r amlwg, ac ni all unrhyw grynodeb o effeithiau'r pandemig gynnwys popeth.
Yn y blynyddoedd nesaf, bydd ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddull gweithredu rhyngblethiadol o ran cydraddoldeb yn cael eu profi, a bydd pwysigrwydd tystiolaeth o ansawdd da yn ganolog i hyn.
Roedd Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd yn annog bod yn “rhaid targedu'r adferiad at y rheini sydd fwyaf ar eu colled, ac mae’n rhaid defnyddio'r cyfle hwn i unioni anghydraddoldebau presennol.”
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, wrth inni ddechrau deall effaith yr argyfwng COVID-19 ar gydraddoldeb rhywiol, mae dealltwriaeth rhyngblethiadol o risg, bregusrwydd, braint ac amddifadedd yn ein hatgoffa mai dim ond un o lawer o agweddau ar broblem anghydraddoldeb yw bod yn fenyw.
Erthygl gan Marine Furet a Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru