Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth ddydd Iau, 22 Mai, ac mae’n dathlu achlysur mabwysiadu'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ym 1992. Mae'r erthygl Gryno hon yn edrych ar gyflwr byd natur yng Nghymru a chynlluniau ar gyfer ei adfer.
Canfu’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur 2023, a luniwyd gan sefydliadau amgylcheddol, bod 18% o rywogaethau sy'n cael eu monitro o dan fygythiad difodiant yng Nghymru. Roedd ein papur ymchwil ar Fioamrywiaeth yn 2023 yn crynhoi sefyllfa bioamrywiaeth yng Nghymru a'r dull o'i warchod ar hyn o bryd.
Pleidleisiodd y Senedd dros ddatgan argyfwng natur yn 2021, gan alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu targedau adfer bioamrywiaeth sy'n rhwymo'n gyfreithiol, a chorff gwarchod amgylcheddol parhaol i gymryd lle’r drefn a oedd ar waith cyn i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Yn 2022, cytunodd llywodraethau'r byd ar y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF) ym Mhymthegfed Cynhadledd y Partïon i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (COP15). Mae'r GBF yn cynnwys 23 o dargedau a phedair nod ar gyfer bioamrywiaeth. Ei amcan yw “atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth” erbyn 2030, ac mae’n rhagweld byd sy’n “byw mewn cytgord â byd natur” erbyn 2050.
Roedd ein herthygl ar COP15 ar y pryd yn crynhoi canlyniadau’r Gynhadledd, gan gynnwys yr addewid '30 erbyn 30' i amddiffyn 30% o dir, dyfrffyrdd a moroedd er budd natur erbyn 2030. Gwnaethom hefyd adolygu’r cynnydd tuag at weithredu nodau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yng Nghymru, a rhagor o ddatblygiadau ar ôl diwedd COP16 yn 2024.
Mae Cymru yn cyfrannu at gyflwyniadau'r DU i gyflawni ei chyfrifoldebau bioamrywiaeth rhyngwladol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi wedi ymrwymo i weithredu'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Fodd bynnag, roedd Adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad ar fioamrywiaeth gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) y Senedd yn ddiweddar wedi amlygu diffyg gweithredu o ran uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran byd natur, ynghyd â bod angen rhagor o adnoddau i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Daeth i’r casgliad y byddai cyflawni’r ymrwymiad byd-eang “yn her eithriadol”.
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil yr amgylchedd newydd ym mis Mehefin. Yn seiliedig ar y Papur Gwyn y llynedd, mae'n debygol y bydd y Bil yn cyflwyno targedau statudol i wella bioamrywiaeth, egwyddorion amgylcheddol i ategu’r broses o wneud penderfyniadau, a sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol parhaol.
Mae gwledydd eraill y DU eisoes wedi sefydlu cyrff llywodraethu amgylcheddol, sydd â’r nod o ddwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif am y cynnydd a wneir o ran yr amgylchedd. Roedd ein papur ymchwil diweddar yn cymharu cyrff llywodraethu presennol â chynigion Llywodraeth Cymru.
Roedd y ddwy ran arall o'r Papur Gwyn yn cynnwys adrannau ar y fframwaith bioamrywiaeth ac ar yr egwyddorion amgylcheddol. Byddai fframwaith bioamrywiaeth statudol, gan gynnwys targedau penodol ar gyfer adfer a gwella, yn ceisio dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif o ran adfer natur. Byddai egwyddorion amgylcheddol cyffredinol yn ceisio bod yn sail i bob penderfyniad polisi yn y dyfodol. Mae ein papur ymchwil yn edrych ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y ddau, ac yn eu cymharu â gwledydd eraill y DU.
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei Bil yr Amgylchedd yr haf hwn. Byddwn yn darparu adnoddau i gynorthwyo gyda’r gwaith craffu, wrth i’r Bil fynd ar ei hynt drwy’r broses ddeddfwriaethol.
Erthygl gan Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru