- Sicrhau bod gofalwyr yn gwybod beth yw eu hawliau a beth y maent yn gymwys i’w gael
- Rhoi gwybod i ofalwyr ble y gallant gael cymorth a chefnogaeth
- Codi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr
Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010
Ar hyn o bryd mae gennym ddeddfwriaeth benodol, a ddaeth i rym yn 2012, ar gyfer gofalwyr yng Nghymru - mae Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) ac Ymddiriedolaethau Iechyd i arwain y gwaith partneriaeth gydag awdurdodau lleol, i baratoi, cyhoeddi a rhoi Strategaethau ar gyfer Gofalwyr ar waith yn eu hardal hwy. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn parhau am lawer o amser eto, oherwydd bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diddymu’r Mesur ar gyfer Gofalwyr (O.N. Nid yw’r diddymiad wedi’i ddeddfu eto). Cafwyd gwrthwynebiad i’r diddymu hwn, yn enwedig gan Gynghrair Cynhalwyr Cymru, ac yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil yn y Cynulliad, pasiwyd gwelliant i geisio efelychu rhai agweddau ar y Mesur: Mae adran 14(3) o’r Ddeddf bellach yn nodi dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol i adrodd wrth Weinidogion Cymru am unrhyw rannau o’u strategaethau iechyd a llesiant lleol sy’n ymwneud â gofalwyr. Fodd bynnag, bydd y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), (a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2014), os caiff ei weithredu fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn diddymu adran 14(3) o’r Ddeddf. Mae sefydliadau gofalwyr yn pryderu na fydd y ddyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Iechyd i arwain yn benodol o ran problemau gofalwyr ac i adrodd yn eu cylch, yn weithredol mwyach. Mae Cynghrair Gofalwyr Cymru yn gweld hwn fel gwall yn y broses ddeddfwriaethol, sy’n gynyddol yn gwanhau statws cyfreithiol y broses o gynllunio strategol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru. Mae’r Gynghrair yn credu mai’r ffordd fwyaf syml o ddatrys y mater hwn fyddai peidio â gorchymyn diddymu Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010. Mae’n nodi y gallai strategaethau gofalwyr lleol wedyn gael eu cynnwys yn y rhestr o faterion sy’n ofynnol i’w hystyried wrth gynnal asesiadau llesiant o dan adran 36 o’r Bil. Ysgrifennodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (sydd ar hyn o bryd yn craffu ar y Bil) yn ddiweddar, yn datgan nad yw’n credu y bydd y Bil yn arwain at unrhyw leihad yn y ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy’n ymwneud ag anghenion gofalwyr. Dywedodd ei fod yn credu fod y darpariaethau cynllunio ac adrodd yn y Bil yn darparu dulliau cynhwysfawr ar gyfer sicrhau bod anghenion grwpiau penodol o bobl yn cael eu hystyried. Yn ei adroddiad ar y Bil yng Nghyfnod 1, mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn datgan ei fod yn pryderu am ddiwygio deddfwriaeth ddiweddar, bron yn union wedi iddi ddod yn gyfraith, gan nodi newidiadau ar gyfer gofalwyr, fel enghraifft benodol. Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod hyn yn dangos diffyg dull gweithredu strategol o ran deddfwriaeth mewn meysydd polisi cymdeithasol allweddol, a bod perygl anfwriadol y caiff bylchau eu creu yn y ddarpariaeth. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu atodlen 4, a’r dull o gynllunio llesiant yn lleol, yn arbennig mewn perthynas â’r dull gweithredu ‘iechyd ym mhob polisi’ ac anghenion gofalwyr, plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod dull gweithredu digon cadarn o ran y materion hyn ar waith yn ystod y broses gynllunio.Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru ar ei newydd wedd
Ar ôl cynnal ymgynghoriad yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru ar ei newydd wedd yn 2013. Roedd y ddogfen ymgynghori yn cynnig, fel cam gweithredu, y byddai Llywodraeth Cymru yn ‘datblygu model o ofal amgen sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, er mwyn sicrhau bod pob gofalwr yn cael seibiant rheolaidd o ofalu’. Fodd bynnag, diwygiwyd geiriad y Strategaeth derfynol, ac yn awr mae’n nodi y bydd Llywodraeth Cymru ‘yn datblygu dealltwriaeth a rennir o ofal amgen, a sut y gellir defnyddio’r ddealltwriaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i ofalwyr a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt ...’ Mae rhai aelodau o Gynghrair Cynhalwyr Cymru wedi cwestiynu a oes cynnydd wedi’i wneud i alluogi gofalwyr ar draws Cymru i gael amser o’r gwaith o ofalu, yn enwedig yn sgîl canfyddiad y Cyfrifiad, a nododd fod 103,748 o bobl yng Nghymru yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos.