Diweddariad o’r farchnad lafur ym mis Mawrth 2024

Cyhoeddwyd 12/03/2024   |   Amser darllen munudau

Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?

Mae’r prif dueddiadau yn y farchnad lafur fel a ganlyn:

  • Mae nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na’r lefel cyn y pandemig ar 1.318 miliwn ym mis Chwefror 2024.
  • Ym mis Ionawr 2024, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 5.6 y cant yn uwch nag ar gyfer mis Ionawr 2023, tra bod chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 4.0 y cant yn y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024.
  • Roedd nifer y swyddi gwag yn y DU rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024 yn 908,000, sef gostyngiad o 43,000 o'r chwarter blaenorol (mis Medi i fis Tachwedd 2023).
  • Arhosodd chwyddiant CPI ar 4.0 y cant ym mis Ionawr, gan osgoi’r disgwyliadau o gynnydd.

Nifer y cyflogeion ar gyflogres

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig, ac mae wedi parhau i gynyddu yn y misoedd diwethaf.

Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Chwefror 2024

Graff yn dangos gostyngiad mawr mewn gweithwyr cyflogres yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021 i lai nag 1.23 miliwn. Dilynwyd hyn gan gynnydd i 1.318 miliwn erbyn Chwefror 2024

 

Ffynhonnell: ONS PAYE – seasonally adjusted

Enillion wythnosol cyfartalog

Mae’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn uwch na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.

Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU

Graff yn dangos chwyddiant y DU yn uwch na'r enillion wythnosol cyfartalog (cyfartaledd 3 mis) yn 2022-23. Ym mis Ionawr 2024, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 5.6% yn uwch nag ar gyfer Ionawr 2023 tra bod chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 4.0% rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024

 

Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG

Swyddi gwag

Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024 adroddwyd bod 908,000 o swyddi gwag yn y DU, gostyngiad 43,000 o’r ffigur rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2023. Gostyngodd nifer y swyddi gwag ar y chwarter am y 20fed cyfnod yn olynol rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024, i lawr 4.5 y cant ers y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2023, gyda swyddi gwag yn gostwng mewn 14 o'r 18 sector diwydiant.

Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Chwefror 2022 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein a ddad-ddyblygwyd (Chwefror 2020 = 100)

Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 134 erbyn mis Chwefror 2022 a gostwng i 87 erbyn mis Mawrth 2024.

 

Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Hawlwyr budd-daliadau

Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.

Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Ers mis Gorffennaf 2022 mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi aros rhwng 60,000 a 64,000 ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra ym mis Chwefror 2024 6% yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; Pum mlynedd hyd at fis Chwefror 2024

Cynyddodd nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra o 58,130 ym mis Mawrth 2020 i 120,097 ym mis Awst 2020. Yna gostyngodd i 61,644 ym mis Chwefror 2024.

 

Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Arolwg o'r llafurlu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gweithio i drawsnewid yr LFS i wella’r cyfraddau ymateb ac ansawdd amcangyfrifon drwy newid dyluniad yr arolwg, cynyddu maint y sampl a defnyddio dulliau casglu data newydd. Bydd ffigurau o’r LFS wedi’i drawsnewid yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. Mewn blog, mae Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryderon ynghylch defnyddio ffigurau presennol yr LFS:

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae ffigurau’r LFS yn parhau i fod yn gyfnewidiol i Gymru, gan roi golwg ansicr o’r farchnad lafur pan edrychir arnynt ar wahân. Felly, mae’n bwysig ystyried gwybodaeth o ystod o ffynonellau. Mae’r LFS yn cynrychioli’r brif ffynhonnell ddata, ond cyn y fersiwn wedi’i drawsnewid y gwanwyn nesaf, argymhellir y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill.


Erthygl gan Joe Wilkes, Helen Jones a Ahmed Ahmed Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru