Diweddariad mis Tachwedd 2022 ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 15/11/2022   |   Amser darllen munudau

Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?

Dyma’r tueddiadau allweddol yn y farchnad lafur:

  • Mae lefelau cyflogaeth a swyddi gwag yn uchel, tra bo diweithdra ar lefelau hanesyddol isel.
  • Mae nifer y bobl nad ydynt yn economaidd weithgar yn cynyddu.
  • Dywedodd y SYG fod y gymhareb pobl ddi-waith a swyddi gwag yn cyrraedd y lefel isaf erioed, gan danlinellu'r problemau llogi y mae llawer o gyflogwyr mewn rhai sectorau’n eu hwynebu.

Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn fwy na thwf cyflog sy’n achosi i wir werth cyflogau ostwng.  Mae arwyddion bod lefelau swyddi gwag yn dechrau gostwng a bydd disgwyl i hyn barhau gyda thwf economaidd yn marweiddio a disgwyl i gyfraddau llog godi.

Nifer y cyflogeion ar gyflogres

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig ac wedi parhau i gynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.

Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Hydref 2022

Graff yn dangos gostyngiad mawr yn nifer y cyflogeion ar gyflogres yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 i dan 1.23 miliwn. Cafwyd cynnydd wedi hyn i 1.30 miliwn erbyn mis Hydref 2022.

Ffynhonnell:ONS PAYE – seasonally adjusted

Enillion wythnosol cyfartalog

Mae cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn is na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.

Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU

Graff yn dangos chwyddiant y DU yn fwy na'r enillion wythnosol cyfartalog (cyfartaledd 3 mis) yn 2022. Ym mis Medi 2022, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 6.0 y cant yn uwch nag ar gyfer mis Medi 2021 tra bo chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 10.1 y cant.

 

Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG

Swyddi gwag

Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Awst a mis Hydref 2022, cofnodwyd bod 1,225,000 o swyddi gwag yn y DU, sef gostyngiad 46,000 o’r cyfnod rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2022. Rhwng Gorffennaf a Medi 2022 mae’r data hwn yn dangos bod 1.0 o bobl ddi-waith fesul swydd wag, sydd yr un fath â’r chwarter blaenorol ac sy’n dangos marchnad lafur dynn.

Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Tachwedd 2021 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein (Chwefror 2020 = 100)

Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 137 erbyn mis Tachwedd 2021 a gostyngodd i 113 erbyn mis Tachwedd 2022.

Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Hawlwyr budd-daliadau

Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.

Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Mae'r ddau fis diwethaf wedi dangos cynnydd yn olynol gyda'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau ym mis Hydref 2022 9 y cant yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; Tair blynedd hyd at fis Hydref 2022

Cynyddodd nifer y rhai sy'n hawlio budd-daliadau o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020. Gostyngodd wedyn i 63,115 ym mis Gorffennaf 2022 ac mae wedi codi i 63,454 ym mis Hydref 2022.

Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Arolwg o'r llafurlu

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o tua 80,000 o oedolion. Mae'n gofyn ystod o gwestiynau ar gyflogaeth ac, yn draddodiadol, mae'r canlyniadau wedi’u defnyddio fel prif ddangosyddion y farchnad lafur.

Mae'r amcangyfrifon yn cyfeirio at y cyfnod tri mis blaenorol. Oherwydd yr oedi, mae datganiad diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd 2022 yn rhoi gwybodaeth o fis Gorffennaf 2022 i fis Medi 2022.

Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022, 24.9 y cant oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd i bobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, sy'n uwch na 24.4 y cant yn y chwarter blaenorol (mis Ebrill i fis Mehefin 2022). Cynnydd yw hyn o 11,000 o bobl i 476,000.

Prif ystadegau’r arolwg o’r llafurlu ar gyfer Cymru, mis Gorffennaf i fis Medi 2022

Mewn gwaith

16-64 oed:

72.3%

- - - - - - - - - - -

16+ oed:

1,448,000

▼ 15,000

 

Di-waith

16+ oed:

3.7%

- - - - - - - - - - -

16+ oed:

55,000

▼ 3,000

 

Anweithgarwch economaidd

16-64 oed:

24.9%

- - - - - - - - - - -

16-64 oed:

476,000

▲ 11,000

 

Mae'r newidiadau o'r chwarter blaenorol, sef mis Ebrill i fis Mehefin 2022

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae’r arolwg o'r llafurlu yn dangos bod y lefelau diweithdra diweddar yng Nghymru yn agos at y lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn debyg i'r duedd ar gyfer y DU. O’i chymharu ar draws gwledydd y DU, mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is na Lloegr ac yn uwch na Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Canran y bobl 16 oed a hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; pum mlynedd hyd at fis Gorffennaf - mis Medi 2022

Graff yn dangos gostyngiad cyffredinol yng nghyfradd ddiweithdra Cymru o dros 4.0 y cant yn 2017 i dan 3 y cant ddechrau 2020. Yn dilyn hyn, daeth i frig bron 5 y cant yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Dilynodd cyfradd ddiweithdra'r DU batrwm tebyg. Y ffigyrau ar gyfer y cyfnod diweddaraf (mis Goffennaf 2022 i fis Medi 2022) yw Gogledd Iwerddon 3.0 y cant, Yr Alban 3.5 y cant, Lloegr 3.6 y cant, Cymru 3.7 y cant a'r DU 3.6 y cant.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu sydd ar gael yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mehefin 2022. Oherwydd maint cyfyngedig y sampl, nid oes llawer o hyder ar y niferoedd hyn. Fodd bynnag, mae cyfraddau diweithdra’n sylweddol uwch yn y grŵp oedran 16-24 na'r grwpiau oedran 25-49 a 50-64.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Mehefin 2022

16-24 oed: Gwrywod 12.0 y cant, benywod 7.2 y cant. 25-49 oed: Gwrywod 2.6 y cant, benywod 2.9 y cant. 50-64 oed: Gwrywod 2.6 y cant, benywod 2.1 y cant. Mae cyfryngau hyder ymhlith gwrywod a benywod yn gorgyffwrdd ym mhob grŵp oedran.

Ffynhonnell:Nomis

Diffiniadau’r arolwg o'r llafurlu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio ei bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r arolwg o’r llafurlu wedi’u hailbwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (Cyllid a Thollau EF), i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ailbwysoli’n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel a ganlyn:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai di-waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith am dâl. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru