Diweddariad mis Hydref 2022 ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 17/10/2022   |   Amser darllen munudau

Gyda chostau byw a ffactorau economaidd eraill dan y chwyddwydr, mae gwybodaeth am gyflogaeth yn amhrisiadwy. Mae'r erthygl hon yn crynhoi ystod o ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Beth y mae'r ffigyrau diweddaraf yn ei ddangos?

Dyma’r tueddiadau allweddol yn y farchnad lafur:

  • Mae lefelau cyflogaeth a swyddi gwag yn uchel, tra bo diweithdra ar lefelau hanesyddol isel.
  • Mae nifer y bobl nad ydynt yn economaidd weithgar yn cynyddu.
  • Dywedodd y SYG fod y gymhareb pobl ddi-waith a swyddi gwag yn cyrraedd y lefel isaf erioed, gan danlinellu'r problemau llogi y mae llawer o gyflogwyr mewn rhai sectorau’n eu hwynebu.

Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn fwy na thwf cyflog sy’n achosi i wir werth cyflogau ostwng.  Mae arwyddion bod lefelau swyddi gwag yn dechrau gostwng a bydd disgwyl i hyn barhau gyda thwf economaidd yn marweiddio a disgwyl i gyfraddau llog godi.

Nifer y cyflogeion ar gyflogres

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi i lunio amcangyfrifon amserol o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun talu wrth ennill (TWE). Mae nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na'r lefel cyn y pandemig ac wedi parhau i gynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.

Data TWE wedi'u haddasu'n dymhorol; pum mlynedd hyd at fis Medi 2022

Graff yn dangos gostyngiad mawr yn nifer y cyflogeion ar gyflogres yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 i dan 1.23 miliwn. Cafwyd cynnydd wedi hyn i 1.3 miliwn erbyn mis Medi 2022.

Ffynhonnell:ONS PAYE – seasonally adjusted

Enillion wythnosol cyfartalog

Mae cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn enillion wythnosol cyfartalog ar draws y DU yn is na’r gyfradd chwyddiant. Cyhoeddir data enillion Cymru bob blwyddyn yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Ond nid yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer Cymru ar gael.

Newid o flwyddyn i flwyddyn yn enillion wythnosol cyfartalog a chwyddiant y DU

Graff yn dangos chwyddiant y DU yn fwy na'r enillion wythnosol cyfartalog (cyfartaledd 3 mis) yn 2022. Ym mis Awst 2022, roedd yr enillion wythnosol cyfartalog 6.0 y cant yn uwch nag ar gyfer mis Awst 2021 tra bo chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 9.9 y cant.

 

Ffynhonnell:Earnings and working hours and inflation and price indices, SYG

Swyddi gwag

Ar gyfer y DU, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrif o nifer y swyddi gwag ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Swyddi Gwag lle y mae'r SYG yn arolygu cyflogwyr ar draws pob sector o'r economi. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022, cofnodwyd bod 1,246,000 o swyddi gwag yn y DU, sef gostyngiad 46,000 o’r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022. Rhwng mis Mehefin a mis Awst 2022, dangosodd y data hyn fod 0.9 o bobl ddi-waith fesul swydd wag, sef y nifer isaf erioed.

Nid yw data'r Arolwg Swyddi Gwag ar gael ar gyfer Cymru, ond mae'r SYG yn cyhoeddi mynegeion arbrofol o hysbysebion swyddi ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sawl miliwn o gofnodion hysbysebion swyddi bob mis o bob rhan o'r DU, wedi'u dadansoddi yn ôl categori swyddi a gwledydd y DU. Daeth yr ymchwydd mewn swyddi gwag ar ôl y pandemig i’r brig ym mis Tachwedd 2021 ac mae wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Mynegai nifer amcangyfrifedig yr hysbysebion swyddi ar-lein (Chwefror 2020 = 100)

Graff yn dangos bod y mynegai wedi gostwng o 100 ym mis Chwefror 2020 i 34 ym mis Mai 2020. Cynyddodd y mynegai i 137 erbyn mis Tachwedd 2021 a gostyngodd i 115 erbyn mis Hydref 2022.

Ffynhonnell:Online job advert estimates - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Hawlwyr budd-daliadau

Wrth i fwy o bobl symud o fudd-daliadau gwaddol i Gredyd Cynhwysol, mae'r ffordd o fesur nifer yr hawlwyr a diweithdra wedi newid. Mae'r prif ddata arbrofol a gyhoeddir gan y SYG yn ymwneud â nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol er mwyn ceisio gwaith a bod ar gael i weithio.

Roedd y nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu a mwy ar ddechrau'r pandemig. Gostyngodd y niferoedd yn gyson rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2022. Mae'r ddau fis diwethaf wedi dangos cynnydd yn olynol gyda'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau ym mis Medi 2022 11 y cant yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau ar gyfer Cymru; pum mlynedd hyd at fis Medi 2022

Cynyddodd nifer y rhai sy'n hawlio budd-daliadau o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020. Gostyngodd wedyn i 63,115 ym mis Gorffennaf 2022 ac mae wedi codi i 64,629 ym mis Medi 2022.

Ffynhonnell: NOMIS, ONS Claimant Count – seasonally adjusted

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir mai ystadegau arbrofol yw’r ffigurau hyn. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr chwilio am waith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Arolwg o'r llafurlu

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o tua 80,000 o oedolion. Mae'n gofyn ystod o gwestiynau ar gyflogaeth ac, yn draddodiadol, mae'r canlyniadau wedi’u defnyddio fel prif ddangosyddion y farchnad lafur.

Mae'r amcangyfrifon yn cyfeirio at y cyfnod tri mis blaenorol. Oherwydd yr oedi, mae datganiad diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd ar 11 Hydref 2022 yn rhoi gwybodaeth o fis Mehefin 2022 i fis Awst 2022.

Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst 2022, 25.3 y cant oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd i bobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, sy'n uwch na 23.4 y cant yn y chwarter blaenorol (mis Mawrth i fis Mai 2022). Cynnydd yw hyn o 38,000 o bobl i 484,000.

Prif ystadegau’r arolwg o’r llafurlu ar gyfer Cymru, mis Mehefin i fis Awst 2022

Mewn gwaith

16-64 oed:

72.1%

- - - - - - - - - - -

16+ oed:

1,447,000

▼ 25,000

 

Di-waith

16+ oed:

3.3%

- - - - - - - - - - -

16+ oed:

50,000

▼ 8,000

 

Anweithgarwch economaidd

16-64 oed:

25.3%

- - - - - - - - - - -

16-64 oed:

484,000

▲ 38,000

 

Mae'r newidiadau o'r chwarter blaenorol, sef mis Mawrth i fis Mai 2022

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae’r arolwg o'r llafurlu yn dangos bod y lefelau diweithdra diweddar yng Nghymru yn agos at y lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn debyg i'r duedd ar gyfer y DU. O’i chymharu ar draws gwledydd y DU, mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is na Lloegr ac yn uwch na Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Canran y bobl 16 oed a hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; pum mlynedd hyd at fis Mehefin - mis Awst 2022

Graff yn dangos gostyngiad cyffredinol yng nghyfradd ddiweithdra Cymru o dros 4.5 y cant yn 2017 i dan 3 y cant ddechrau 2020. Yn dilyn hyn, daeth i frig bron 5 y cant yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Dilynodd cyfradd ddiweithdra'r DU batrwm tebyg. Y ffigyrau ar gyfer y cyfnod diweddaraf (mis Mehefin 2022 i fis Awst 2022) yw Gogledd Iwerddon 3.0 y cant, Yr Alban 3.3 y cant, Cymru 3.3 y cant, Lloegr 3.5 y cant a'r DU 3.5 y cant.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: October 2022

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu sydd ar gael yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mehefin 2022. Oherwydd maint cyfyngedig y sampl, nid oes llawer o hyder ar y niferoedd hyn. Fodd bynnag, mae cyfraddau diweithdra’n sylweddol uwch yn y grŵp oedran 16-24 na'r grwpiau oedran 25-49 a 50-64.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Mehefin 2022

16-24 oed: Gwrywod 12.0 y cant, benywod 7.2 y cant. 25-49 oed: Gwrywod 2.6 y cant, benywod 2.9 y cant. 50-64 oed: Gwrywod 2.6 y cant, benywod 2.1 y cant. Mae cyfryngau hyder ymhlith gwrywod a benywod yn gorgyffwrdd ym mhob grŵp oedran.

Ffynhonnell:Nomis

Diffiniadau’r arolwg o'r llafurlu

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio ei bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r arolwg o’r llafurlu wedi’u hailbwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (Cyllid a Thollau EF), i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ailbwysoli’n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel a ganlyn:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai di-waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith am dâl. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru