Cyhoeddwyd 23/02/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
23 Chwefror 2016
Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ystod y
ddadl ar Gyllideb Ddrafft 2016-17 ar 9 Chwefror 2016, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Jane Hutt AC)
ddyraniad ychwanegol o £2.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy.
Caiff y dyraniad o £2.5 miliwn ei ddyrannu fel a ganlynol:
- Powys – £1.95 miliwn
- Ceredigion – £0.44 miliwn
- Sir Fynwy – £0.11 miliwn
Y tri awdurdod lleol sy'n derbyn cyfran o'r dyraniad ychwanegol sy'n wynebu'r gostyngiad canran mwyaf o ran Cyllid Allanol Cyfun (AEF) yn
Setliad Llywodraeth Leol dros dro Cymru a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2015. Cyllid Allanol Cyfun yw'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i lywodraeth leol, sef cyfuniad o'r Grant Cymorth Refeniw ac ailddosbarthu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.
Amlinellodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (Leighton Andrews AC)
y dosbarthiad AEF dros dro diweddaraf ar 10 Chwefror 2016, sy'n
nodi'r dyraniadau ar gyfer pob cyngor a'r newid canran AEF mewn perthynas â setliad 15-16. Cyfanswm y newid AEF yw gostyngiad o
£54.3 miliwn o'i gymharu â £56.8 miliwn yn y
setliad dros dro gwreiddiol.
Y
gostyngiad AEF ar gyfartaledd fydd 1.3% o'i gymharu ag 1.4%, a chynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy fydd yn wynebu'r gostyngiad mwyaf o 3%. O dan y setliad dros dro gwreiddiol, Powys oedd yn wynebu'r gostyngiad mwyaf, sef 4.1%.
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar 1 Mawrth, ac yna bydd y Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad ei gymeradwyo.
Ceir crynodeb yn y siart sydd ynghlwm o'r newid canran AEF yn y setliad llywodraeth leol dros dro diweddaraf.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg