Diogelwch mewn ysbytai - hysbysiad hwylus i'r data

Cyhoeddwyd 14/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Hydref 2013 Fel rhan o ymdrech i ddarparu gwybodaeth fwy tryloyw am ddiogelwch cleifion a safon y gofal yn ysbytai'r GIG, ar 30 Medi 2013, lansiodd Llywodraeth Cymru wefan newydd, sef Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol i.  Ar hyn o bryd, mae'r safle'n darparu data am Fyrddau Iechyd unigol sy'n cynnwys:
  • cyfraddau marwolaethau mewn ysbytai, gan gynnwys Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI), a marwolaethau'n dilyn trawiad ar y galon, strôc ac ar ôl torri clun;
  • heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai;
  • nifer y nyrsys ar gyfer pob gwely sydd ar gael.
Ar y safle, mae modd cymharu data'r Byrddau Iechyd, er y byddai mwy o gyd-destun yn ddefnyddiol mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mae gwybodaeth am nifer y nyrsys ar gyfer pob gwely sydd ar gael yn dangos sut y mae cymhareb y naill Fwrdd Iechyd yn cymharu â'r llall, ond nid yw'n dangos beth yw'r 'targed' na beth yw'r gymhareb a argymhellir. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu'r safle i gynnwys rhagor o fanylion am ysbytai unigol ac am feddygfeydd unigol. Caiff rhywfaint o'r wybodaeth - yn ymwneud â heintiau a marwolaethau - eu cyhoeddi eisoes ar gyfer ysbytai unigol yng Nghymru.  Ers mis Gorffennaf 2013 ymlaen, mae gwybodaeth am nifer a chyfraddau'r heintiau cysylltiedig â gofal iechyd yn cael ei chyhoeddi ar wefannau'r Byrddau Iechyd. Penderfynwyd gwneud hyn yn dilyn cyhoeddi data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) ym mis Mawrth eleni. Defnyddir RAMI ar hyn o bryd i fonitro cyfraddau marwolaethau mewn ysbytai yng Nghymru. Y bwriad, fodd bynnag, yw i Fyrddau Iechyd unigol ei ddefnyddio i fonitro cynnydd dros gyfnod, yn hytrach na'i ddefnyddio i gymharu data (gall gwahaniaeth yn nhrefniadaeth gwasanaethau a safon y data, er enghraifft, arwain at amrywiadau eang yn sgôr RAMI safleoedd ysbytai gwahanol). Mae dulliau gwahanol o fesur marwolaethau mewn ysbytai  –  Cymhareb Marwolaethau Safonedig mewn Ysbytai (HSMR) a'r Dangosydd Marwolaethau Cryno ar gyfer Ysbytai Unigol (SHMI) – yn cael eu defnyddio yn Lloegr, gan ei gwneud yn anoddach fyth cymharu perfformiad trawsffiniol. Mae esboniad manylach o ddangosyddion marwolaethau a'u cyfyngiadau i'w weld mewn erthygl gan Lywodraeth Cymru am ystadegau. Erthygl gan Philippa Watkins