Person mewn gefynnau â’i ddwylo y tu ôl i’w gefn

Person mewn gefynnau â’i ddwylo y tu ôl i’w gefn

Diogelu yn hytrach na chosbi? Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/10/2025

O ran polisi, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull penodol o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid – dull sy'n blaenoriaethu atal, adsefydlu, a hawliau plant dros fesurau cosbol. Am fwy na degawd, mae’r dull hwn wedi pwysleisio pwysigrwydd cefnogi plant sydd mewn gwrthdaro â’r gyfraith, gan gydnabod bod llawer ohonynt wedi cael eu dylanwadu gan drawma, esgeulustod ac anfantais systemig.

Mae'n bwysig nodi bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl o dan y setliad datganoli presennol. Felly, er bod Cymru’n gallu dylanwadu ar gyfiawnder ieuenctid drwy feysydd datganoledig fel addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae’r pwerau craidd ym maes cyfiawnder – gan gynnwys dedfrydu a charcharu – yn parhau i orwedd gyda Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, drwy fentrau fel y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid, a thrwy fabwysiadu ymarfer sy’n ystyriol o drawma, mae Cymru wedi ceisio ail-ddehongli troseddu ieuenctid fel mater lles cymaint ag ydyw’n fater cyfreithiol. Mae hyd yn oed yr iaith wedi newid: ledled Cymru, mae Timau Troseddau Ieuenctid (YOTs) wedi cael eu hail-frandio’n Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid (YJSs) — cam symbolaidd ac ymarferol tuag at fodel adsefydlu.

Mae'r erthygl hon yn archwilio sut mae'r dull hwnnw wedi esblygu ac yn ystyried sut y gallai patrymau sy'n dod i'r amlwg ym maes troseddau ieuenctid herio neu atgyfnerthu ei gyfeiriad yn y dyfodol.

Hawliau a Gwydnwch

Dros y degawd diwethaf, mae Llywodraethau Cymru wedi seilio llawer o bolisïau plant ar fframwaith sy'n seiliedig ar hawliau, sydd ei hun yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r dull hwnnw wedi ymestyn i faes cyfiawnder ieuenctid drwy'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru, sy’n fframwaith a ddatblygwyd ar y cyd â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae'r Glasbrint yn ymrwymo i ddull sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o drawma, gan gydnabod sut mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn dylanwadu ar ymddygiad. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel a ganlyn:

Traumatic events, particularly those in early childhood, that significantly affect the health and well-being of people. These experiences range from suffering verbal, mental, sexual and physical abuse, to being raised in a household where domestic violence, alcohol abuse, parental separation or drug abuse is present.
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn wahanol i'r dull a welir yn aml mewn rhannau o Loegr, sy’n fwy seiliedig ar gosbi a gorfodi, mae'r Glasbrint yn rhoi mwy o bwyslais ar ofal sy'n ystyriol o drawma, hawliau plant, a chydweithio aml-asiantaeth. Er bod y ddwy genedl yn gweithredu o dan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwyslais ar ymyriadau sy'n seiliedig ar lesiant, er bod egwyddorion tebyg bellach yn cael eu mabwysiadu fwyfwy ledled Lloegr. 

Camfanteisio a Throseddu Cyfundrefnol

Mae adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, sef Plant sydd ar yr Ymylon, yn tynnu sylw at sut mae plant ar ymylon systemau—plant sy’n mynd ar goll o ofal, plant sy’n cael eu heithrio o addysg, neu blant sy’n byw mewn tlodi—yn arbennig o agored i niwed o ran bod yn destun camfanteisio troseddol. Mae'n disgrifio sut mae Camfanteisio’n Droseddol ar Blant (CCE) yn aml yn cynnwys ymdrechion gan grwpiau troseddau cyfundrefnol i feithrin perthynas amhriodol, gan gynnwys manipwleiddio plant er mwyn eu darbwyllo i gario cyffuriau, arfau, neu nwyddau sydd wedi'u dwyn. Gall y plant hyn gael eu gorfodi drwy gaethiwed dyled, bygythiadau, neu fanipwleiddio emosiynol, ac yn aml cânt eu targedu oherwydd eu bod yn agored i niwed, er enghraifft oherwydd eu bod wedi profi trais domestig neu wedi gweld eu rhieni’n camddefnyddio sylweddau yn ystod plentyndod. Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod unrhyw blentyn yn gallu bod yn destun camfanteisio, ond mae’n nodi mai’r rhai sy'n wynebu’r perygl mwyaf yw’r rhai sydd o dan anfantais systemig.

Anghenion Cyfathrebu a Bregusrwydd

Mae plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (SLCN) wedi'u gorgynrychioli i raddau sylweddol yn y system cyfiawnder ieuenctid. Yn ôl un o adroddiadau Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, sef 60% – Rhoi Llais Iddyn Nhw, mae gan tua 60% o blant yn y system cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, o'i gymharu â dim ond 10% o'r boblogaeth gyffredinol.

Gall yr anghenion hyn gynnwys nam ar y clyw, dyslecsia, neu anawsterau cyfathrebu cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth. Os nad yw’r anghenion hyn yn cael eu hadnabod yn gynnar ac os nad oes cymorth priodol yn cael ei ddarparu, gall plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu brofi trafferth wrth geisio deall prosesau cyfreithiol, mynegi eu profiadau, neu ymgysylltu'n ystyrlon â gwasanaethau adsefydlu.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod y diffyg cymorth hwn yn tanseilio mynediad teg at gyfiawnder, ac yn galw am ymgorffori therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol rheng flaen — yn enwedig y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion — yn cael eu hyfforddi i adnabod ac ymateb i heriau cyfathrebu yn gynnar, cyn bod plant yn cael eu tynnu i mewn i'r system gyfiawnder.

Cynnydd ar lawr gwlad

Cyhoeddir y rhan fwyaf o ddata cyfiawnder ieuenctid ar sail Cymru a Lloegr. Lle bo modd, mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at dueddiadau sy’n benodol i Gymru, ond mae rhai ffigurau'n adlewyrchu'r awdurdodaeth ehangach. Mae dangosfwrdd rhyngweithiol Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid yn ffynhonnell ddata ddefnyddiol.

Er bod Cymru wedi mabwysiadu model penodol sy'n canolbwyntio ar les, mae’r duedd ar i lawr a welir yn nifer y rhai sy’n cael eu cadw mewn dalfeydd ieuenctid a nifer y rhai sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf yn adlewyrchu’r patrymau ehangach a welir ledled Cymru a Lloegr. Mae’r data yn dangos y canlynol:

  • Llai o blant yn dod i mewn i'r system am y tro cyntaf, yn sgil mwy o ymdrechion ym maes dargyfeirio ac atal.
  • Llai o ddibyniaeth ar ddedfrydau o garchar, gyda phwyslais cryfach ar ymyriadau cymunedol ac adsefydlu.

Mae adroddiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2023–24 yn dangos bod nifer y bobl a ddaeth i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng i’r lefel isaf erioed ym mis Rhagfyr 2023, sef llai nag 8,300. Roedd y ffigur hwn 3% yn is na’r ffigur ar gyfer y flwyddyn flaenorol – tuedd sydd wedi bod yn gostwng yn gyson ers 2011. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf o flwyddyn i flwyddyn ymhlith plant Duon, sef gostyngiad o 6%.

Yn y cyfamser, mae nifer cyfartalog y plant sy’n cael eu cadw mewn dalfeydd yn parhau i fod ar lefel hanesyddol isel. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, roedd 430 o blant, ar gyfartaledd, yn cael eu cadw mewn dalfeydd ar unrhyw adeg ledled Cymru a Lloegr. Mae’r ffigur hwn yn ostyngiad o 3% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dyma’r nifer isaf a gofnodwyd erioed.

Yng Nghymru yn benodol, mae'r symudiad tuag at ddargyfeirio a darparu cymorth cymunedol wedi arwain at ailgydbwyso’r niferoedd yng nghartref plant diogel Hillside. Mae nifer y lleoliadau sy’n ymwneud â lles (pan fo plant yn cael eu rhoi mewn llety diogel nid oherwydd ymddygiadau troseddol, ond oherwydd pryderon ynghylch eu diogelwch neu eu llesiant) bellach yn fwy na nifer y lleoliadau sy’n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid.

Gwneir lleoliadau sy’n ymwneud â lles o dan Ddeddf Plant 1989 yn hytrach na deddfwriaeth ynghylch cyfiawnder ieuenctid, gyda’r bwriad o amddiffyn plant sydd mewn perygl o niweidio eu hunain, ffoi, neu fod yn destun camfanteisio. Cartref Hillside yw'r unig gartref plant diogel yng Nghymru.

Newid proffiliau troseddau

Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae heriau newydd yn dod i’r amlwg.

Ar ôl blynyddoedd o grebachu, mae cyfraddau aildroseddu ieuenctid ledled Cymru a Lloegr wedi cynyddu, gan gyrraedd 32.5% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Dyma’r gyfradd uchaf a gofnodwyd yn y degawd diwethaf. Cyflawnodd plant a oedd wedi aildroseddu 4.34 o droseddau newydd, ar gyfartaledd, sef y gyfradd amlder uchaf yn y 10 mlynedd diwethaf. Roedd y ffigur hwn 7% yn uwch na'r ffigur ar gyfer y flwyddyn flaenorol a 34% yn uwch na’r ffigur ddegawd yn ôl.

Mae nifer y bobl ifanc sydd ar remánd (pan gedwir person ifanc yn y ddalfa wrth iddynt aros am eu hachos llys neu ddedfryd) hefyd yn gyfradd ystyfnig o uchel ymhlith y boblogaeth a gedwir mewn dalfeydd ieuenctid, er nad yw llawer o’r plant sydd ar remánd yn cael dedfryd o gyfnod mewn dalfa yn y pendraw. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, ni chafodd bron i ddwy ran o dair (62%) o blant a oedd ar remánd mewn llety cadw ieuenctid ddedfryd o gyfnod mewn dalfa wedi hynny.

Mae proffiliau troseddau yn newid hefyd. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, cynyddodd nifer y troseddau profedig a gyflawnwyd gan blant am yr ail flwyddyn yn olynol, gan gynyddu 4% i oddeutu 35,600. Mae troseddau treisgar bellach yn cyfrif am gyfran fwy o'r troseddau profedig hyn. Cododd nifer yr achosion o drais yn erbyn y person 5%, ac roedd hyn yn cyfrif am 34% o'r holl droseddau profedig.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf sylweddol ym maes troseddau rhywiol, sef cynnydd o 47% i oddeutu 1,400 o droseddau profedig. Dyma’r nifer uchaf a gofnodwyd ers 2018. Bu cynnydd hefyd yn y grwpiau troseddau meddiangar: dwyn a thrin nwyddau, lladrata, a bwrgleriaeth.

Yn y cyfamser, cafwyd dros 3,200 o droseddau gan blant a oedd yn ymwneud â chyllyll neu arfau ymosodol ac a arweiniodd at rybudd neu ddedfryd. Roedd hyn yn ostyngiad o 6% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac roedd y ffigur hefyd yn cynrychioli’r chweched gostyngiad yn olynol o flwyddyn i flwyddyn, er ei fod yn parhau i fod 20% yn uwch na’r ffigur a welwyd ddegawd yn ôl.

Troseddau profedig yng Nghymru

Yn ôl dangosfwrdd rhyngweithiol Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid, mae Cymru yn parhau i adlewyrchu llawer o'r tueddiadau ehangach a welir ledled Cymru a Lloegr, ond gyda rhai patrymau sy’n benodol iddi.

Mae nifer y troseddau profedig a gyflawnir gan blant yng Nghymru wedi aros yn gymharol sefydlog, er bod amrywiadau rhanbarthol o ran y mathau o droseddau a gyflawnir a’r canlyniadau. Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn dweud bod pwyslais parhaus ar ddargyfeirio ac ymyrraeth gynnar, gyda chyfradd is o bobl yn cael eu dedfrydu i gyfnod mewn dalfa o'i gymharu â Lloegr.

Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, ochr yn ochr â rhanddeiliaid fel Comisiynydd Plant Cymru a Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, wedi mynegi pryderon ynghylch y cynnydd mewn troseddau difrifol a gyflawnir a’r ffaith bod plant ag anghenion cymhleth yn cael eu gorgynrychioli.

Camau ar gyfer y dyfodol

Mae'r tueddiadau hyn yn codi cwestiynau anodd. Wrth i Gymru barhau i archwilio’r cam o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, mae'r system yn wynebu prawf hollbwysig: a all model sy’n canolbwyntio ar atal troseddu lefel isel addasu i ffurfiau mwy difrifol a chymhleth o niwed, a hynny heb droi yn ôl at y defnydd o fesurau cosbol?

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres sy'n archwilio agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan gynnwys y setliad datganoli presennol, gweithio rhynglywodraethol, y gwasanaeth prawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona.

Gallwch ddarllen ein herthygl gyntaf yma:Bron yn llawn: Pam mae Cymru’n ehangu capasiti carchardai nad oes eu hangen, o bosibl?

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru