Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol – a sicrhau bod yr egwyddorion hynny’n cael eu yn cael eu rhoi ar waith – yng Nghymru, a dydd Mawrth bydd y Senedd yn trafod ei adroddiad effaith blynyddol ar gyfer 2020/21.
“Os yw pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd, rydyn ni i gyd yn ffynnu.”
Mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cael ei arwain gan adolygiad o berfformiad Cymru o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Fe wnaeth yr adroddiad mwyaf diweddar, sef yr adroddiad ’A yw Cymru'n Decach?' yn 2018 argymhellodd y dylid rhoi’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar waith, a thynnodd sylw at barhad anghydraddoldeb hiliol. Roedd yr adroddiad yn darparu sylfaen dystiolaeth a oedd yn sail i dri cyrchnod strategol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
- i sicrhau na gaiff cyfleoedd bywyd pobl eu dal yn ôl gan rwystrau yn eu ffordd
- i sicrhau bod seiliau cryf gennym y gellir arnynt adeiladu cymdeithas fwy cyfartal sydd yn parchu hawliau
- i amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus
Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal
Mae Covid-19 a'r mesurau a roddwyd ar waith i reoli ei ledaeniad wedi cael effaith ar bawb yng Nghymru, ond mae rhai pobl wedi profi mwy o effaith nag eraill. Roedd sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu iechyd y cyhoedd, gwneud penderfyniadau nad oeddent yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau a pheidio â gwaethygu anghydraddoldebau presennol yn hynod o anodd.
Gall Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall canlyniadau penderfyniadau ac osgoi canlyniadau anfwriadol neu wahaniaethu. O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mae'n ofyniad statudol i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi y bu achosion yn ystod y pandemig lle gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau heb gynnal Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus na chynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Mae’n dadlau bod hynny wedi creu ansicrwydd o ran “a oedd safonau cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar bolisi a deddfwriaeth COVID-19.” Yn dilyn galwadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gynnal y Ddyletswydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob set o reoliadau COVID-19.
Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch effeithiolrwydd presennol Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a'u rôl o ran sicrhau cymdeithas fwy cyfartal. Er enghraifft, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi cytundeb cyffredinol bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb “ yn cael eu hystyried yn aml fel offer biwrocrataidd ticio blwch yn Llywodraeth Cymru.” Fodd bynnag, roedd eu hastudiaeth yn cydnabod y potensial i Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb i chwarae rôl fwy “sylweddol” yn y broses bolisi a chyfrannu at Gymru fwy cyfartal. Er mwyn deall yn well sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, mae Archwilio Cymru wrthi ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad i “sut beth yw EIA da.”
Sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl yn cael eu llesteirio gan rwystrau yn eu ffordd
Bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl ledled Cymru, ond yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru sy’n debygol o gael eu taro galetaf. Cafodd y Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol ei rhoi ar waith yng Nghymru yn 2021 a’i nod yw gwella canlyniadau i bobl ar incwm isel. Mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus perthnasol ystyried sut y gallant wella canlyniadau economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.
Yn ei rôl fel rheolydd Deddf Cydraddoldeb 2010 mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hwaliau Dynol y pwerau i hyrwyddo a darparu cyngor ac arweiniad, a chyhoeddi ymchwil ar roi’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol ar waith. Fodd bynnag, mae ei allu gymryd camau gorfodi yn erbyn corff cyhoeddus yn gyfyngedig, gan nad yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio statws economaidd-gymdeithasol fel nodwedd warchodedig.
Lle nad yw corff cyhoeddus yn cydymffurfio â’r ddyletswydd, fe fydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, fodd bynnag, yn gallu herio hynny drwy adolygiad barnwrol, neu gallai gefnogi unigolyn sydd am gymryd camau.
Clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dystiolaeth gan yr awduron yr 'adroddiad ‘Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb’ y gallai fod yn anodd mynd ar drywydd adolygiad barnwrol. Gwnaethant esbonio, oherwydd y costau o dan sylw, toriadau i gymorth cyfreithiol a diffyg ymwybyddiaeth o'u hawliau mae pobl yng Nghymru yn llai tebygol o geisio adolygiad barnwrol na phobl ar draws yr holl ranbarthau gwahanol yn Lloegr.
Gwnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynnal ei adolygiad ei hyn o'r ddyletswydd ym mis Mawrth 2021 a nododd nifer o faterion o ran ei rhoi ar waith, gan gynnwys diffyg eglurder cyrff cyhoeddus ynghylch sut i roi’r ddyletswydd ar waith.
Llywio ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran hil
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – ynghyd â llawer o sefydliadau, grwpiau cymunedol ac unigolion eraill – wedi bod yn rhan o'r gwaith o gynhyrchu fersiwn drafft o gynllun Llywodraeth Cymru, Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Gwnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol roi tystiolaeth i grŵp cynghori Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Llywodraeth Cymru ar COVID-19, rhoi sesiwn friffio i Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi blaenoriaethau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol o ran hil yng Nghymru, ac roedd hefyd yn aelod o’r Grŵp Llywio at ddibenion datblygiad y Cynllun.
Disgwylir fersiwn terfynol o'r Cynllun cyn hir ac at hynny, bydd y Comisiwn yn adrodd ar ei ymchwiliad i brofiadau gweithwyr sy’n lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi â chyflogau is yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig.
Amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus
Yn ddiweddar, mae ambell Aelod o’r Senedd wedi mynegi pryderon am gyfeiriad Llywodraeth y DU ar hawliau dynol, a dadleuodd y gallai arwain at erydu hawliau pobl sy’n byw yng Nghymru. Er nad yw hawliau dynol wedi’u datganoli, maent wedi’u gwreiddio ar draws ystod eang o ddeddfwriaeth Gymreig ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau i wella a chryfhau hawliau pobl sy'n byw yng Nghymru.
Elfen bwysig o waith y Comisiwn yw dwyn llywodraethau i gyfrif o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol. Mae traciwr hawliau dynol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu offeryn ar-lein sy’n dadansoddi’r cynnydd a wnaed gan lywodraethau Cymru a’r DU tuag at gyflawni eu rhwymedigaethau hawliau dynol ar draws ystod o feysydd polisi.
Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos ei bod wedi dod yn anodd herio agenda ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar hawliau dynol. Cododd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol faterion ynghylch hawliau dynol o ran rhoi Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd a’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau ar waith, ac eto daeth y naill a’r llall i fod yn Ddeddfau yn 2022. Codwyd pryderon ganddynt yn ystod yr ymgynghoriad ar ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, eto clywsom yn y Araith y Frenhines fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ei ddisodli gyda Bil Iawnderau.
Sut i ddilyn y ddadl
Bydd Aelodau'r Senedd yn trafod adroddiad blynyddol 2020/21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022. Gallwch ei wylio ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru