Dinasoedd, trefi a phentrefi: gallant ond fod yn lleoedd “gwell fyth”

Cyhoeddwyd 27/09/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r nawfed erthygl yn ein cyfres ddeg rhan sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yma, rydym yn archwilio’r amcan llesiant o ran “Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.”

Mae 13 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan hwn, sy’n berthnasol i’r Cabinet cyfan, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae'r amcan eang hwn yn cynnwys ystod o ymrwymiadau penodol sy'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd polisi. Datgarboneiddio cartrefi, y cyflenwad tai, digartrefedd, ail gartrefi, llety gwyliau, terfynau cyflymder, parcio ar balmentydd, gweithio mewn partneriaeth ac atebolrwydd democrataidd rhanbarthol: maent i gyd wedi’u cynnwys yma, ynghyd ag agweddau ar gaffael yn y sector cyhoeddus a’r angen am strategaeth ar gyfer y sector pren.

Felly, yn hytrach na mynd i’r afael â’r cwestiwn ynghylch a yw’r amcan cyffredinol yn cael ei fodloni, mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â llond llaw o’r ymrwymiadau a’r gweithgareddau penodol sy’n gorwedd oddi tano.

Ail gartrefi a llety gwyliau

Fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i fwrw ymlaen â chamau i “osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi, dod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin a thrwyddedu llety gwyliau”. Yn unol â hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu er mwyn pennu meini prawf gosod uwch ar gyfer eiddo hunanddarpar sy’n gymwys i gael eu cynnwys ar restrau ardrethi annomestig. Hefyd, ers mis Ebrill 2023, mae gan awdurdodau lleol bŵer dewisol sy’n eu galluogi i godi premiymau treth gyngor uwch o hyd at 300 y cant ar anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Mae’r Dreth Trafodiadau Tir (LTT) yn cael ei godi ar bryniannau eiddo neu dir yng Nghymru, ac mae rhai trafodiadau preswyl yn ddarostyngedig i gyfraddau uwch o’r dreth hon. Mae’r rhain yn cynnwys prynu eiddo prynu-i-osod, prynu ail gartref neu lety gwyliau, prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu un sy’n bodoli eisoes, a sefyllfaoedd lle mae cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ystadegau ynghylch y dreth trafodiadau tir ar lefel awdurdod lleol, gan gymharu’r trafodion cyfraddau uwch a welwyd yn 2022-23, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, â’r hyn a welwyd yn y flwyddyn flaenorol. Roedd yr awdurdodau lleol a welodd y newidiadau canrannol mwyaf fel a ganlyn:

  • Gwynedd (gostyngiad o 5 pwynt canran);
  • Sir Benfro a Cheredigion (gostyngiad o 4 pwynt canran), ac o fewn hynny, ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a welodd gostyngiad o 12 pwynt canran; ac
  • Ynys Môn (gostyngiad o 3 phwynt canran).

Mae dadansoddiad Awdurdod Cyllid Cymru yn dod i’r casgliad a ganlyn:

Bu gostyngiad mewn gweithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau lleol gorllewinol neu ogleddol. Gallai’r rhesymau posibl am hyn gynnwys effaith amodau economaidd ehangach ar drafodiadau neu bolisïau ail gartrefi sy’n dechrau effeithio ar drafodiadau.

Yn ddiweddar, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyflwyno cwestiwn newydd ar y ffurflen ar gyfer y dreth trafodiadau tir, sy’n gofyn am y bwriad y tu ôl i bryniannau eiddo preswyl ar y cyfraddau treth uwch, gan gynnwys prynu ail gartrefi neu eiddo prynu-i-osod. Mae’n bosibl y bydd hyn yn caniatáu i effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar ail gartrefi gael ei holrhain yn fwy cywir yn y dyfodol.

Trwyddedu llety gwyliau

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad y gaeaf diwethaf ar gynllun trwyddedu statudol ar gyfer yr holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. Cyhoeddodd grynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law – mwy na 1,500 ohonynt – ym mis Gorffennaf.

Roedd y themâu mwyaf cyffredin a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion fel a ganlyn:

  • y farn y byddai'r cynllun trwyddedu statudol arfaethedig yn creu baich gweinyddol ac ariannol sylweddol;
  • yr awgrym bod y farchnad llety ymwelwyr yn hynod gystadleuol ac felly’n gweithredu eisoes mewn modd effeithlon; ac
  • anghytuno cyffredinol ag unrhyw fath o drefn drwyddedu statudol, ond heb unrhyw esboniad pellach am y farn hon.

Fodd bynnag, mae crynodeb Llywodraeth Cymru o’r ymatebion hyn hefyd yn nodi:

Ar draws y rhan fwyaf o’r cwestiynau, roedd graddau’r cytuno a’r anghytuno wedi’u rhannu’n gyson rhwng y ddemograffeg. Roedd sefydliadau twristiaeth mawr ac awdurdodau lleol yn fwy tebygol o gytuno â’r cynigion, ac roedd darparwyr llety ymwelwyr a phreswylwyr yn anghytuno gan amlaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

“Bydd penderfyniadau terfynol ar sut mae'r cynllun yn cael ei redeg yn cael eu gwneud yn dilyn ystyriaeth lawn o ymatebion i'r ymgynghoriad.”

Nododd hefyd fod “rhai pryderon wedi eu codi ynghylch y pwysau gweinyddol ac ariannol y gallai'r cynllun ei roi ar fusnesau ac awdurdodau lleol”, ac y byddai angen i’r cynllun fod yn “gymesur”.

Trafnidiaeth

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i leihau'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya yn mynd yn ei flaen. Daeth y newid i rym ar 17 Medi eleni. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio i roi’r polisi ar waith – polisi sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru – gan gynnwys nodi’r eithriadau lle bydd terfyn cyflymder o 30mya yn parhau i fodoli.

Er bod terfynau a pharthau 20mya eisoes wedi cael eu defnyddio’n eang ar draws y DU ar sail ad hoc, Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn derfynau diofyn. Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud bod y newid yn rhan annatod o gyflawni'r targedau newid moddol sydd i’w gweld yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gwella diogelwch ar y ffyrdd. Trafodwyd y mater eto yn y Senedd yn ddiweddar, gyda’r Dirprwy Weinidog yn gwneud datganiad ar 12 Medi a dadl yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol.

Mynegwyd gwrthwynebiad llafar i'r polisi gan rai – gan gynnwys deiseb a gyflwynwyd i’r Senedd ac a ddenodd tua 22,000 o lofnodion. Er bod 53 y cant o ymatebwyr i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu’r polisi, cynhaliodd Llywodraeth Cymru arolwg ynghylch agweddau'r cyhoedd yn 2020 a ganfu fod cefnogaeth gref i’r cynllun (81 y cant), yn enwedig ymhlith rhieni. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cydnabod yn y cyfryngau fod cefnogaeth, a ddangosir gan arolygon, wedi dirywio wrth i’r terfyn newydd gael ei gyflwyno ond dywed ei fod yn disgwyl iddi godi wrth i’r cyhoedd ddod i arfer â’r newid.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn sy’n newid y terfyn cyflymder, amcangyfrifir y bydd y gost o weithredu’r newid yn £32.5 miliwn. Mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y byddai'r newid hwn yn arbed £100 miliwn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Yn groes i hynny, mae'r adroddiad blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu yn dawel ynghylch y cynnydd a wnaed o ran y cynigion i wahardd parcio ar balmentydd. Mae'r cynigion hyn wedi'u gohirio yn dilyn llythyr gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’r Prif Weinidog, a oedd yn tynnu sylw at nifer fawr o newidiadau polisi trafnidiaeth y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol eu rhoi ar waith. Yn wreiddiol, roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyn cyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd 2023. Fodd bynnag, ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad yn dweud y byddai’r ymgynghoriad yn cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf mewn ymateb i’r pwysau sydd ar lywodraeth leol.

Datgarboneiddio cartrefi

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddatgarboneiddio “rhagor o gartrefi drwy ôl-osod, gan ddarparu swyddi o safon, hyfforddiant ac arloesedd a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.” Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith wedi dangos diddordeb byw yn y maes hwn yn ystod y Chweched Senedd, gan graffu ar y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio stoc tai Cymru.

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod cynnydd da wedi’i wneud o fewn y sector tai cymdeithasol, yn enwedig drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a’r Rhaglen Tai Arloesol. Serch hynny, canfu’r Pwyllgor fod gan Lywodraeth Cymru lawer o waith i’w wneud o hyd i gefnogi’r broses o ddatgarboneiddio cartrefi perchen-feddianwyr a’r sector rhentu preifat yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor hefyd fod y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran cyflawni llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan y Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru wedi bod yn araf.

Mae adroddiad cynnydd diweddaraf y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn dangos bod allyriadau sy’n deillio o adeiladau preswyl yng Nghymru wedi cynyddu yn 2020. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen am “strategaeth gredadwy ar gyfer datgarboneiddio cartrefi perchen-feddianwyr a thai rhent preifat presennol, a dealltwriaeth glir o faint yr her hon”. Mae prisiau ynni yn parhau i fod yn uchel, ac yn ôl amcangyfrifon, mae tua 45 y cant o gartrefi Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Felly, bydd llygaid pawb ar y broses o ddatblygu iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd, a sut y gall hyn helpu i fynd i’r afael â’r her ddeuol o dlodi tanwydd a datgarboneiddio.

Y strategaeth ar gyfer pren

Yn gynnar yn 2021, cynhaliodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ‘archwiliad dwfn’ i chwalu’r rhwystrau i’r broses o blannu coed yng Nghymru (mae cyfraddau plannu coed yng Nghymru wedi bod yn isel am ddegawdau). Roedd yr argymhellion a ddeilliodd o’r archwiliad dwfn hwn yn cynnwys strategaeth i gydlynu cyflenwadau pren ac adeiladu. Ym mis Gorffennaf 2021, dywedodd:

…mae Cymru'n gallu tyfu pren o ansawdd uchel ac mae cyfle i gynyddu faint o bren o Gymru a ddefnyddir mewn meysydd uwch eu gwerth…Bydd trafodaethau’r ‘archwiliad dwfn’ hwn yn fan cychwyn ar gyfer datblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren i Gymru.

Ym mis Mawrth 2023, gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ofyn i Lywodraeth Cymru pam nad oedd y strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren wedi'i chyflwyno eto. Ymatebodd Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

Mae panel wedi cael ei sefydlu i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r argymhellion. Mae gwaith ar y Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren yn mynd rhagddo, gyda'r nod o'i ddatblygu erbyn diwedd 2023.

Gwnaeth adroddiad cynnydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar leihau allyriadau yng Nghymru (mis Mehefin 2023) alw hefyd am gyhoeddi’r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren:

Dylai’r ddogfen hon osod targed uchelgeisiol ar gyfer defnydd cynyddol o bren a dyfwyd yng Nghymru mewn adeiladu a chyflwyno polisïau sy’n annog y defnydd o bren wrth adeiladu adeiladau yng Nghymru.

Mae'r Atodiad i’r Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu yn datgan bod “cynnydd wedi’i wneud o ran cyflawni strategaeth diwydiant pren yng Nghymru” ond nid yw’n rhoi unrhyw arwydd ynghylch a fydd y strategaeth honno’n cael ei chyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau


Erthygl gan Ben Stokes, Andrew Minnis, Chloe Corbyn ac Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru