Yr wythnos nesaf, bydd yr Aelodau'n trafod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amglychedd a Seilwaith a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025 yn dilyn ei waith craffu ar Trafnidiaeth Cymru (TrC). Gwnaeth y Pwyllgor 20 argymhelliad, a chafodd pob un ei dderbyn neu ei dderbyn mewn egwyddor gan TrC.
Wrth ymateb i'r Pwyllgor, dywedodd TrC ei bod yn nes nag erioed at gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth sy’n wirioneddol integredig yng Nghymru.
Perfformiad y rheilffyrdd
Nododd y Pwyllgor fod “cyfeiriad cyffredinol perfformiad TrC o ran y rheilffyrdd yn gadarnhaol”. Er hynny, dywedodd ei fod yn disgwyl “gweld gwelliant parhaus, yn enwedig o ystyried lefel y buddsoddiad cyhoeddus yn y gwasanaeth”.
Mae TrC yn cyhoeddi data amrywiol gan gynnwys ar gyfer 'amser mae teithwyr yn ei golli'. Mae ‘amser mae teithwyr yn ei golli’ yn mesur canran y gwasanaethau sy'n cyrraedd o fewn 3 munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd, gan ddefnyddio pwysoliad i leoliadau yn seiliedig ar nifer y teithwyr. Mae oedi mewn lleoliadau prysur yn cael mwy o effaith ar yr ‘amser mae teithwyr yn ei golli’. Er bod y perfformiad yn gyffredinol yn ymddangos fel pe bai’n gwella, mae'n gyson well ar Linellau Craidd y Cymoedd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, o gymharu â rhwydwaith ehangach Cymru a'r Gororau.
Ffigur 1 - Amser mae Teithwyr yn ei Golli (gwasanaethau sy'n cyrraedd o fewn 3 munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd, gan ddefnyddio pwysoliad i leoliadau yn seiliedig ar nifer y teithwyr)
Ffynhonnell: Trafnidiaeth Cymru
Sylwer – Mae pob blwyddyn ariannol yn cynnwys 13 'cyfnod rheilffordd'. Mae'r rhain i gyd yn 28 diwrnod ac eithrio cyfnod 1 (sy’n dechrau ar 1 Ebrill) a chyfnod 13 (sy’n dod i ben ar 31 Mawrth).
Yn ystod sesiwn graffu’r Pwyllgor, dywedodd James Price, Prif Weithredwr TrC fod y gwahaniaeth mewn perfformiad i’w briodoli’n rhannol i ddigwyddiadau tywydd eithafol.
Mae Ffigur 2 yn dangos dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata gan y rheoleiddiwr rheilffyrdd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) ar y rhesymau dros ganslo trenau yn 2024. Mae hyn yn dangos bod canran uwch o wasanaethau Rheilffyrdd TrC yn cael eu canslo am resymau’n ymwneud â digwyddiadau allanol a oedd yn effeithio ar seilwaith o gymharu â chyfartaleddau Prydain Fawr, Cymru a Lloegr a'r Alban.
Ffigur 2 - Canslo gwasanaethau yn ôl rheswm, 2024
Ffynhonnell: Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
Sylwer - Nid yw’r siart hon yn cyfrif am nifer bach o drenau sydd wedi’u canslo am resymau nad ydynt yn dod o dan y pedwar categori cyfrifoldeb a gyflwynir.
Yn ei adroddiad, tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod llifogydd yn dal i fod yn broblem sylweddol i wasanaethau rheilffordd Cymru a galwodd ar TrC i weithio gyda thirfeddianwyr a Network Rail i ddatblygu strategaethau gwell i liniaru llifogydd yn yr ardaloedd hyn.
Roedd canran uwch o wasanaethau Rheilffyrdd TrC hefyd yn cael eu canslo am resymau’n ymwneud â’r gweithredwr ei hun fel y dangosir yn Ffigur 2.
Mae dadansoddiad o ddata y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar ganslo gwasanaethau yn ôl gorsaf yn dangos, rhwng mis Awst 2024 a mis Awst 2025, mai gorsafoedd yng Nghymru oedd â'r gyfradd uchaf o wasanaethau wedi’u canslo ymhlith gwledydd Prydain Fawr.
Mae TrC yn cyhoeddi data ar gyfer ‘canslo gwasanaethau ar y diwrnod’. Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn cyhoeddi data ar ganslo gwasanaethau sydd hefyd yn ystyried newidiadau i wasanaethau sydd wedi'u cynnwys mewn amserlen ddiwygiedig – ac felly efallai na fyddant yn ymddangos yn sgorau canslo’r gweithredwyr.
Mae’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn llunio sgôr canslo wedi'i haddasu sy'n cynnwys gwasanaethau sydd wedi'u canslo ymlaen llaw. Yn gyffredinol, mae sgôr canslo wedi’i haddasu TrC wedi bod yn uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr, er iddi syrthio ychydig yn is na’r cyfartaledd yn y ddau gyfnod diweddaraf o ran perfformiad y rheilffyrdd (20 Gorffennaf – 16 Awst, a 17 Awst – 13 Medi 2025).
Ffigur 3 - Data sgôr canslo wedi'i haddasu, cyfartaledd rheilffyrdd TrC yn erbyn Cymru a Lloegr
Ffynhonnell: Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
Sylwer – Mae data cyfnod 6 2025-26 yn rhai dros dro
Mae perfformiad gwael wedi'i briodoli yn y gorffennol i faterion yn ymwneud â’r cerbydau, gan gynnwys rheoli'r fflyd yn sgil ‘digwyddiadau thermol’ (h.y. tanau a effeithiodd ar drenau dosbarth 175 ac a arweiniodd at roi hysbysiad gwella i TrC gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd).
Cododd problemau â’r cerbydau eto yn ystod sesiwn graffu'r Pwyllgor. Roedd tystiolaeth TrC yn nodi problemau oherwydd oedi wrth gyflenwi cerbydau newydd gan weithgynhyrchwyr. Fodd bynnag, awgrymodd James Price nad oedd hynny’n arwain at ganslo gwasanaethau i’r graddau a welwyd yn y gorffennol. Dywedodd y Pwyllgor fod hyn yn “destun pryder mawr” iddo ac anogodd TrC i ddefnyddio “pob opsiwn sydd ar gael i sicrhau bod y rhan olaf hon o’r contract yn cael ei chyflawni’n brydlon”.
Ym mis Medi, adroddodd TrC ei bod wedi cyflawni’r gwelliant mwyaf o ran prydlondeb o blith yr holl weithredwyr trenau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2025, ar sail data a gasglwyd gan ddefnyddio'r dull 'prydlon i 3'. Mae hyn yn mesur canran yr arosfannau gorsaf lle cyrhaeddodd trenau naill ai'n gynnar neu o fewn 3 munud i'r amser a drefnwyd.
Ffigur 4 - Prydlon i 3
Ffynhonnell: Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
Sylwer – Mae data cyfnod 6 2025-26 yn rhai dros dro
O'r cyfnod perfformiad rheilffyrdd diweddaraf ymlaen, mae TrC wedi dechrau cyhoeddi data 'prydlon i 3' ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd a rhwydwaith ehangach Cymru a'r Gororau, sy'n dangos bod gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd yn fwy prydlon na'r rhwydwaith ehangach (gwahaniaeth o 16.6%).
Yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor, awgrymodd James Price ei bod yn anodd cymharu perfformiad gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd â pherfformiad llinellau gwledig lle mae’r gwasanaethau’n rhedeg yn llai aml. Mae'r Pwyllgor wedi argymell yn y gorffennol y dylai TrC gyhoeddi data ar lefel llwybrau unigol – pwynt a dderbyniwyd mewn egwyddor gan TrC, ac y mae Llywodraeth Cymru a Chadeirydd newydd Bwrdd TrC wedi’i gefnogi.
Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor unwaith eto ei fod am weld data perfformiad wedi'u teilwra yn cael eu cyhoeddi.
Er bod data ar brydlondeb a chanslo gwasanaethau yn dal i roi darlun cymysg, mae tueddiadau mwy cadarnhaol o ran bodlonrwydd cwsmeriaid â gwasanaethau rheilffordd.
Daeth TrC yn olaf yn y gorffennol (o'r holl weithredwyr a oedd yn rhan o’r arolwg) o ran bodlonrwydd cyffredinol teithwyr yn arolwg Transport Focus, y corff gwarchod teithwyr annibynnol, o ddefnyddwyr rheilffyrdd.
Ym mis Ebrill 2023, galwodd Transport Focus ar TrC i ddarparu gwasanaeth rheilffordd mwy dibynadwy ar fyrder ar ôl misoedd o aflonyddwch i deithwyr. Ysgrifennodd at TrC i ofyn iddi lunio cynllun gweithredu ar gyfer gwella materion fel darparu gwybodaeth a thrin cwynion.
Mae canlyniadau arolygon diweddar wedi dangos bod bodlonrwydd teithwyr wedi gwella, yn enwedig o ran darparu gwybodaeth, er bod bodlonrwydd o ran gwerth am arian wedi gostwng.
Ffigur 5 - Bodlonrwydd cyffredinol teithwyr Trafnidiaeth Cymru a bodlonrwydd o ran prydlondeb/dibynadwyedd ac amlder gwasanaethau
Ffynhonnell: Arolwg defnyddwyr rheilffyrdd Transport Focus
Ffigur 6 - Bodlonrwydd teithwyr Trafnidiaeth Cymru o ran gwerth am arian, glendid a'r wybodaeth a ddarperir yn ystod y daith.
Ffynhonnell: Arolwg defnyddwyr rheilffyrdd Transport Focus
Mae dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata bodlonrwydd cwsmeriaid TrC ei hun hefyd yn dangos bod lefelau bodlonrwydd wedi gwella'n gyffredinol o 2024 ymlaen.
Bysiau
Bydd gan TrC rôl fawr i’w chwarae o ran gwasanaethau bysiau yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i Gymru symud tuag at fasnachfreinio’r bysiau.
Gan hynny, mae'r Pwyllgor yn pryderu bod Cymru wedi gweld yr adferiad arafaf ar ôl Covid ym Mhrydain Fawr o ran nifer y teithwyr ar fysiau. Mae data Adran Drafnidiaeth y DU yn dangos bod nifer y teithwyr yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 yn ddim ond 78.3% o'r nifer yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020, o gymharu â 92.5% yn yr Alban, 89.5% yn Lloegr ac 89.5% ym Mhrydain Fawr gyfan.
Ers i’r Pwyllgor graffu ar waith TrC, mae’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), a fydd, os daw’n ddeddf, yn arwain at symud tuag at fasnachfreinio, wedi'i gyflwyno yn y Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil ym mis Gorffennaf ac, er ei fod yn cefnogi'r egwyddorion cyffredinol, cododd nifer o faterion. Disgwylir i drafodion Cyfnod 2, pan fydd y Bil yn cael ei ddiwygio, gael eu cynnal ar 22 Hydref.
TrC fydd yn bennaf cyfrifol am gyflawni’r Bil a diwygio gwasanaethau bysiau. Dywedodd TrC wrth y Pwyllgor:
As we prepare for bus franchising, we will be undertaking joint research and analysis with the Welsh Government which will help us further understand the factors contributing to a slower recovery of bus passenger numbers in Wales.
Teithio llesol
Croesawodd y Pwyllgor rôl gynyddol TrC o ran teithio llesol, ond dywedodd fod rhaid i hynny beidio â lleihau capasiti awdurdodau lleol. Nododd hefyd ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ar deithio llesol ym mis Medi 2024, a ddaeth i’r casgliad fod “Llywodraeth Cymru’n dal i fod ymhell o gyflawni’r newid sylweddol mewn teithio llesol y bwriadwyd ei ysgogi trwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013”.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor o’r blaen ei bod yn wael iawn o ran dangos tystiolaeth o gyfraddau teithio llesol ac mae nifer o ganfyddiadau Archwilio Cymru yn ymwneud â diffyg data a threfniadau monitro/adrodd cadarn. Mewn tystiolaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yr arolwg newydd, “Arolwg Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru”, yn helpu i fynd i’r afael â hyn. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Adroddiad blynyddol cerdded, olwynio a beicio 2024-25, yn awgrymu y bydd canlyniadau cychwynnol yr arolwg hwn ar gael yng ngwanwyn 2026.
Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.