Deddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael Rhwng y DU a'r UE

Cyhoeddwyd 03/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 24 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar Ddeddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE.

Bydd y Cytundeb Ymadael yn nodi telerau ymadawiad y DU â'r UE, os bydd y ddwy ochr yn dod i gytundeb ffurfiol cyn y diwrnod ymadael ar 29 Mawrth 2019. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) ('y Bil') i weithredu'r fargen olaf o ran cyfraith ddomestig cyn y diwrnod ymadael ar 29 Mawrth 2019.

Bydd cynnwys terfynol y Bil yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau ond mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn nodi ei disgwyliadau cynnar ar gyfer y Bil. Mae'n canolbwyntio ar dair agwedd ar y Cytundeb Ymadael Drafft y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 19 Mawrth 2018: sef, hawliau dinasyddion, y cyfnod gweithredu a'r setliad ariannol a drafodwyd.

Hawliau dinasyddion

Daeth y DU a'r UE i gytundeb ar hawliau dinasyddion ym mis Rhagfyr 2017. Mae'r Papur Gwyn yn nodi'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i weithredu'r cytundeb ar hawliau dinasyddion mewn cyfraith ddomestig.

Mae'r Cytundeb Ymadael Drafft yn darparu y gall holl wladolion y DU sy'n byw'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth erbyn diwedd y cyfnod pontio (31 Rhagfyr 2020) aros, fel y gall holl ddinasyddion yr UE sy’n byw’n gyfreithlon yn y DU. Mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd y Bil yn sicrhau bod hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw’n gyfreithlon yn y DU yn cael eu gwarchod. Yna, mater i Aelod-wladwriaethau unigol yr Undeb Ewropeaidd fydd gweithredu trefniadau tebyg i warchod hawliau dinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE ar hyn o bryd.

Ymhellach, mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd y Bil, er mwyn rhoi effaith i’r ymrwymiadau a nodir yn y Cytundeb Ymadael Drafft, yn gwneud darpariaeth fel bod cymwysterau'r UE sy’n perthyn i ddinasyddion yr UE wedi cael cydnabyddiaeth i’r cymwysterau hynny o dan ddeddfwriaeth y DU cyn diwedd y cyfnod gweithredu, ac y byddant yn parhau i allu dibynnu ar y penderfyniad hwnnw yn y DU. Mater i Aelod-wladwriaethau unigol fydd gweithredu trefniadau fel eu bod yn cydnabod cymwysterau dinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE.

Bydd y Bil hefyd yn sefydlu awdurdod annibynnol i fonitro’r modd y mae’r DU yn gweithredu’r cytundeb hawliau dinasyddion ac yn gweithredu pan fydd methiant i wneud hynny. Pan fo swyddogaethau'r Awdurdod Monitro Annibynnol yn gorgyffwrdd â chymhwysedd datganoledig, mae’r Papur Gwyn yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig.

Cyfnod gweithredu

Mae'r DU a'r UE wedi cytuno y bydd cyfnod gweithredu o'r diwrnod ymadael hyd at 31 Rhagfyr 2020 pan ddaw fframwaith y DU gyda'r UE yn y dyfodol i rym. Mae'r Papur Gwyn yn nodi'r darpariaethau deddfwriaethol a fydd yn ofynnol i roi effaith i’r cyfnod gweithredu yng nghyfraith y DU.

Llun: Fflag yr UE

Yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd y rheolau cyffredin ar draws y DU a'r UE yn parhau ar waith a bydd cyfraith yr UE yn parhau’n gymwys yn y DU. O ganlyniad, mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd angen i'r Bil ddiwygio Deddf yr UE (Ymadael) 2018 ('y Ddeddf Ymadael'). Mae'r Ddeddf Ymadael yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel na fydd bellach yn rhoi effaith i gyfraith yr UE yng nghyfraith y DU. Fodd bynnag, mae'r Cytundeb Ymadael Drafft yn darparu y dylai cyfraith yr UE barhau’n gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod gweithredu. Felly, mae'r Papur Gwyn yn cynnig y dylai'r Bil ddiwygio'r Ddeddf Ymadael fel bod effaith Deddf y Cymunedau Ewropeaidd yn cael ei harbed ac na chaiff ei diddymu tan ddiwedd y cyfnod gweithredu.

O ganlyniad i arbed effaith Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd rôl Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ('CJEU') hefyd yn cael ei chadw yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn diwygio'r Ddeddf Ymadael fel na fydd darpariaethau yn y ddeddfwriaeth sy'n terfynu awdurdodaeth y CJEU yn y DU yn dod i rym tan ddiwedd y cyfnod gweithredu.

Ar ben hynny, o ganlyniad i berthynas barhaus y DU â chyfraith yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, ni fydd angen rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf Ymadael tan 31 Rhagfyr 2020. O ganlyniad, mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd y Bil yn diwygio'r Ddeddf Ymadael, fel bod y broses o drosi cyfraith yr UE yn 'gyfraith yr UE a ddargedwir' yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod gweithredu. Hefyd, bydd y Ddeddf Ymadael yn cael ei diwygio gan y Bil, fel y gellir defnyddio’r pŵer i wneud cywiriadau i gorff cyfraith yr UE a drosglwyddir i gyfraith y DU am hyd at ddwy flynedd ar ôl diwedd y cyfnod gweithredu. Mae'r pŵer i gywiro diffygion ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i gymal machlud dwy flynedd a fydd yn dechrau ar y diwrnod ymadael, sy'n golygu y byddai'r pŵer yn dod i ben ar 29 Mawrth 2019. Yn ôl y Papur Gwyn:

The existing sunset would, however, provide Ministers only three months to correct any deficiencies in retained EU law that became apparent after that conversion of EU law has taken place. This would include any changes required to EU legislation which were only introduced shortly before the end of the implementation period. This arrangement would also reduce the time available for scrutiny by Parliament of any changes. (para 72)

Byddai hyn hefyd yn gymwys i bwerau Gweinidogion Cymru i wneud cywiriadau o dan adran 11 o’r Ddeddf Ymadael ac Atodlen 2 iddi.

Y setliad ariannol a drafodwyd

Mae'r Cytundeb Ymadael Drafft yn cynnwys cytundeb ar gydrannau'r setliad ariannol, y fethodoleg ar gyfer cyfrifo cyfran y DU a'r amserlen dalu. Mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth y DU i wneud taliadau sy'n ddyledus o dan y setliad ariannol a bodloni ei rhwymedigaethau rhyngwladol fel y nodir yn y Cytundeb Ymadael.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y gallai'r Bil gynnwys gofyniad statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar daliadau dros y flwyddyn ddiwethaf ac ar ragolygon o ran taliadau a derbyniadau i'r Undeb Ewropeaidd ac oddi yno, at ddiben cryfhau rôl Senedd y DU wrth graffu ar y taliadau a wneir i’r UE fel rhan o’r Cytundeb Ymadael.

Cymeradwyo a gweithredu'r Cytundeb Ymadael a fframwaith y berthynas yn y dyfodol

Mae'r Papur Gwyn yn nodi y caiff y Bil ei gyflwyno ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben ac ar ôl i Senedd y DU gymeradwyo'r fargen olaf o dan y broses a nodir yn y Ddeddf Ymadael. Rhaid pasio'r Bil cyn i'r DU ymadael â'r UE ar 29 Mawrth 2019 er mwyn i'r Cytundeb Ymadael gael effaith mewn cyfraith ddomestig.

Mae cyflwyno'r Bil hefyd yn dibynnu ar y DU yn ymadael â’r UE gyda bargen. Os na fydd cytundeb neu nad yw Senedd y DU a Senedd Ewrop yn ei gadarnhau mewn pryd, ac na sicrheir estyniad i Erthygl 50, ni fyddai cytundeb i’w weithredu yng nghyfraith y DU. Mae'r Papur Gwyn, fodd bynnag, yn nodi bod Llywodraeth y DU yn hyderus ei bod er budd y ddwy ochr i gytuno ar fargen, ac felly mae'n rhagweld y bydd y trafodaethau yn dod i ben yn llwyddiannus.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio'n effeithiol gyda'r gweinyddiaethau datganoledig wrth ddatblygu'r Bil, a bydd yn gofyn am gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn ôl y gofyn.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru