Menyn ar blât

Menyn ar blât

Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020: pa wahaniaeth y mae'n ei wneud?

Cyhoeddwyd 24/03/2022   |   Amser darllen munudau

Pasiodd Senedd y DU Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ym mis Rhagfyr 2020, heb gydsyniad y Senedd.

Mae Rhannau 1-3 o’r Ddeddf yn gosod “egwyddorion newydd ar gyfer mynediad i’r farchnad” yn y gyfraith. Mae’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn creu’r rhagdybiaeth y dylai nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol (yn gyffredinol) y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o’r DU allu cael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall, waeth beth fo’r gyfraith yn y rhan arall honno o’r DU yn ei dweud.

Ar y pryd, dywedodd pwyllgorau'r Senedd y gallai’r egwyddorion leihau effaith ymarferol deddfau a wneir yng Nghymru.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn y Ddeddf wedi bod yn gweithio hyd yn hyn a’u goblygiadau o ran datblygu cyfraith Cymru.

Nid yw her gyfreithiol Llywodraeth Cymru i’r Ddeddf wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn

Ym mis Chwefror, gwrthododd y Llys Apêl yr achos a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn herio Deddf Marchnad Fewnol y DU.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn “statud cyfansoddiadol”, ac mai dim ond drwy wneud newidiadau pendant iddi y gall Senedd y DU ddiwygio statud o’r fath.

Roedd yn dadlau bod y Ddeddf y Farchnad Fewnol yn lleihau pwerau’r sefydliadau datganoledig nid yn benodol ond drwy oblygiad, ac felly’n torri’r egwyddor hon.

Cadarnhaodd y Llys Apêl benderfyniad cynharach yr Uchel Lys fod yr achos wedi’i ddwyn yn gynamserol, gan ddweud y gall y Llys wneud penderfyniad dim ond pan fydd Bil Senedd penodol y dywedir y gallai’r Ddeddf leihau ei effaith bosibl.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio caniatâd i apelio at y Goruchaf Lys. Nid yw'n sicr y bydd apêl yn cael ei chaniatáu.

Mae’r Ddeddf eisoes yn effeithio ar ddatblygiad cyfraith Cymru

Mae’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn y Ddeddf yn golygu bod modd gwerthu nwyddau neu wasanaethau y caniateir eu gwerthu, neu eu mewnforio i unrhyw ran o’r DU, yng Nghymru, waeth a yw’r nwyddau neu’r gwasanaethau hynny’n cydymffurfio â chyfraith Cymru (gyda rhai eithriadau). Mae gan hyn oblygiadau ymarferol o ran datblygiad cyfraith Cymru.

Gall rheolau newydd ar fasnach mewn brasterau taenadwy (fel menyn a margarîn) gynnig astudiaeth achos i ni ynghylch sut bydd yr egwyddorion mynediad i’r farchnad yn gweithio.

Cydnabyddiaeth gilyddol yng nghyd-destun yr UE

Pan oedd y DU yn aelod-wladwriaeth, roedd cyfraith yr UE yn darparu ar gyfer cydnabyddiaeth gilyddol o gynhyrchion bwyd rhwng y DU, yr UE a gwledydd yr AEE, lle nad oedd cyfraith bwyd wedi’i chysoni neu wedi’i chysoni’n rhannol yn unig.

Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, ychwanegwyd cymalau cydnabyddiaeth gilyddol at gyfraith Cymru. Yn achos brasterau taenadwy, mae’r cymalau cydnabyddiaeth gilyddol yn parhau i olygu:

  • gellir gwerthu brasterau taenadwy sy’n dod i Gymru o Wlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy yng Nghymru, hyd yn oed os nad ydynt yn cydymffurfio â rhai o gyfreithiau bwyd Cymru; a
  • gall brasterau taenadwy sy’n cael eu mewnforio i ran arall o’r DU o Wlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy, ac yna y deuir â nhw i Gymru, eu gwerthu yng Nghymru yn yr un modd.

Fodd bynnag, nawr bod y DU wedi ymadael â’r UE, gallai gwledydd eraill ledled y byd ddewis herio’r safbwynt hwn o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, gan ddadlau bod y cymalau’n rhoi triniaeth ffafriol i wledydd yr AEE. O’r herwydd, nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried bod y cymalau cydnabyddiaeth gilyddol yn briodol.

Mae Llywodraeth Cymru felly’n dileu’r cymalau cydnabyddiaeth gilyddol drwy Reoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022, gydag effaith o 1 Hydref. Gwnaed newidiadau cyfatebol yn Lloegr a’r Alban. O dan Brotocol Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ni all Gogledd Iwerddon wneud y newidiadau hyn a rhaid iddi barhau i alinio â chyfraith yr UE.

Egwyddorion mynediad i’r farchnad

Bydd rheoliadau newydd Cymru yn dileu’r cymalau cydnabyddiaeth gilyddol, Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i frasterau taenadwy y deuir â nhw i Gymru o Wlad yr Iâ, Lichtenstein neu Norwy gydymffurfio â chyfraith Cymru.

Bydd y rheoliadau hefyd yn dileu’r cymalau cydnabyddiaeth gilyddol ar gyfer brasterau taenadwy sy’n cael eu mewnforio i ran arall o’r DU o Wlad yr Iâ, Lichtenstein neu Norwy ac wedyn y deuir â nhw i Gymru.

Gellid cymryd bod hyn yn golygu y bydd yn rhaid i frasterau taenadwy o'r fath gydymffurfio â chyfraith Cymru. Fodd bynnag, bydd egwyddorion mynediad i'r farchnad yn y Ddeddf Marchnad Fewnol yn gymwys. Felly pe bai braster taenadwy o'r fath yn dod i mewn i Loegr (dyweder), ac y gellid ei werthu dan gyfraith Lloegr, yna gellid gwerthu'r braster taenadwy hwnnw yng Nghymru, hyd yn oed pe na bai’n cydymffurfio â chyfraith Cymru.

Mae Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig wedi cytuno ar broses ar gyfer cytuno ar eithriadau o'r Ddeddf

Mae adrannau 10 a 18 o’r Ddeddf yn caniatáu i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau i greu eithriadau o’r egwyddorion mynediad i’r farchnad. Gall hyn fod i roi effaith i gytundeb sy'n ffurfio rhan o fframwaith cyffredin, ond nid oes rhaid iddo fod.

Ym mis Rhagfyr 2021, cytunodd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ar broses ar gyfer ystyried eithriadau o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU mewn meysydd fframwaith cyffredin. Mae hyn yn dweud:

  • dylai'r llywodraeth sy'n ceisio'r eithriad nodi'r cwmpas a'r rhesymau drosto;
  • dylai’r llywodraethau ystyried yr eithriad arfaethedig ar y cyd drwy’r broses benderfynu a nodir yn y fframwaith cyffredin, gan asesu’r dystiolaeth ar gyfer yr eithriad a’i effaith bosibl;
  • pan fydd y llywodraethau’n gwneud penderfyniad ar eithriad, dylent gofnodi eu safbwyntiau terfynol ac a ddaethpwyd i gytundeb; ac
  • os yw’r llywodraethau’n cytuno i greu eithriad, dylai Gweinidog perthnasol y DU wneud rheoliadau i’r perwyl hwnnw.
  • Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn ceisio eithriad o'r Ddeddf ar gyfer deddfwriaeth newydd i'r Alban ar blastigau untro, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod trafodaethau’n mynd yn eu blaen ar draws Whitehall ynghylch y cais hwnnw.

Nid yw'n glir a fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r broses hon ei hun, na sut y bydd yn gwneud hyn. Mewn gohebiaeth â Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd ym mis Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ei dull o geisio eithriadau yn amrywio ac y byddai’n hysbysu’r Senedd pe bai’n ceisio eithriad.

Trefniadau newydd yn dod i’r amlwg ar gyfer goruchwylio marchnad fewnol y DU

Sefydlodd y Ddeddf Swyddfa'r Farchnad Fewnol newydd fel rhan o’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i fonitro a rhoi cyngor ar farchnad fewnol y DU a sut mae’r Ddeddf yn gweithio. Yn wahanol i’r Comisiwn Ewropeaidd ym marchnad sengl yr UE, ni roddwyd unrhyw bwerau i Swyddfa’r Farchnad Fewnol orfodi penderfyniadau. Roedd y Ddeddf hefyd yn dawel ynghylch sut y dylai’r DU a’r llywodraethau datganoledig gydweithio i reoli’r farchnad fewnol.

Ar 22 Mawrth, cyhoeddodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol adroddiad cychwynnol ar gyflwr marchnad fewnol y DU. Mewn trosolwg o’r newidiadau i reoleiddio ers diwedd y cyfnod pontio, ni chanfu’r OIM unrhyw dystiolaeth o ymwahanu sylweddol ar bolisi newydd rhwng gwahanol wledydd y DU ers diwedd y cyfnod pontio Brexit, ond casglodd enghreifftiau o feysydd lle gallai ymwahanu ddatblygu yn y dyfodol.

Fel rhan o gasgliadau’r Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol, mae’r DU a’r llywodraethau datganoledig bellach wedi cytuno i roi trosolwg i’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol newydd ar y rhaglen fframweithiau cyffredin a chyfrifoldeb i ystyried materion sy’n cael effaith ar safonau rheoleiddio ledled y DU ar gyfer masnach fewnol.

Nid yw’n glir eto sut y bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn cyflawni’r gwaith hwn, ond gallai gynnwys trosolwg ar sut mae’r Ddeddf yn gweithio, y broses ar gyfer cytuno ar eithriadau o’r Ddeddf, a gwaith adrodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol.

Yn y cyfamser, bydd angen i Lywodraeth Cymru a’r Senedd barhau i ystyried goblygiadau’r Ddeddf wrth iddynt wneud deddfau newydd ar gyfer Cymru.

Erthygl gan Lucy Valsamidis a Gareth Howells, Ymchwil y Senedd a’r Gwasanaethau Cyfreithiol, Senedd Cymru