Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Flwyddyn yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 08/09/2023   |   Amser darllen munud

Cafodd Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”) gydsyniad brenhinol flwyddyn yn ôl. Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd y mae’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cael ei ariannu a’i reoleiddio. Mae mis Medi yn fis pwysig gyda’r Prif Weithredwr ac Aelodau eraill o’r Bwrdd yn dechrau eu swyddi cyn i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ddod yn weithredol ym mis Ebrill 2024.

Mae’r erthygl hon yn egluro’r hyn y mae’r Ddeddf yn ei wneud a’i thaith drwy’r Senedd. Mae hefyd yn amlinellu'r hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf a'r hyn y dylem ei ddisgwyl nesaf wrth i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil gael ei sefydlu.

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Mae’r Ddeddf yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn creu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn). Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Comisiwn yn “stiward cenedlaethol … ar gyfer y sector trydyddol ac ymchwil”, ac y bydd yn gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio’r holl addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gynnwys:

  • Addysg uwch;
  • Addysg bellach;
  • Chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol;
  • Prentisiaethau;
  • Dysgu oedolion yn y gymuned; ac
  • Ymchwil ac arloesi.

Ar hyn o bryd, CCAUC yn unig sy’n gyfrifol am addysg uwch a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weddill y meysydd o fewn y sector.

Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi 11 o ddyletswyddau strategol ar gyfer y Comisiwn:

  1. Hybu dysgu gydol oes
  2. Hybu cyfle cyfartal
  3. Annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol
  4. Hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol
  5. Hybu gwaith ymchwil ac arloesi
  6. Hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil
  7. Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol
  8. Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
  9. Hybu cenhadaeth ddinesig
  10. Hybu golwg fyd-eang
  11. Hybu cydlafurio rhwyng darparwyr ac Undebau Llafur

Disgwylir y bydd cyllideb y Comisiwn tua £800 miliwn, sef “un o'r cyllidebau uchaf i’w dyrannu i gorff hyd braich yng Nghymru”.

Gwaith craffu’r Senedd ar y ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ym mis Tachwedd 2021. Yng Nghyfnod 1 o’r broses ddeddfwriaethol, bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y Bil. Gwnaeth y Bil basio Cyfnod 1 ym mis Mawrth 2022, pan gytunodd y Senedd ar ei egwyddorion cyffredinol.

Cynhaliwyd Cyfnod 2 ym mis Mai 2022, gyda chyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ystyried a phleidleisio ar welliannau a gyflwynwyd gan Aelodau’r Pwyllgor a’r Gweinidog. Mae ein crynodeb o Gyfnod 2 yn egluro’r newidiadau a wnaed i’r Bil yn y Pwyllgor, a’r 200 o welliannau a gyflwynwyd a’r 50 ohonynt a gafodd eu derbyn.

Roedd cyfnod diwygio pellach (Cyfnod 3) ar 21 Mehefin 2022. Yn y cyfnod hwn, bu’r Senedd yn ystyried a phleidleisio ar welliannau yr oedd holl Aelodau o’r Senedd yn gallu eu cyflwyno.

Ar 28 Mehefin 2022, pleidleisiodd y Senedd ar p’un a ddylid pasio’r Bil yng Nghyfnod 4. Pleidleisiodd 50 o Aelodau o’r Senedd o blaid ac nid oedd unrhyw bleidleisiau yn erbyn nac yn ymatal. Ar 8 Medi 2022, cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Penodi Aelodau’r Bwrdd

Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd gan y Comisiwn Fwrdd a Gweithrediaeth a fydd yn cynnwys 17 aelod gan gynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd, Prif Weithredwr a hyd at 14 aelod ychwanegol. Bydd gan y Bwrdd hefyd aelodau cyswllt yn cynrychioli’r gweithlu addysg a dysgwyr. Dywed Llywodraeth Cymru bod hyn yn galluogi “dysgwyr i gael cyfle i ddylanwadu ar y Bwrdd a rhoi cyngor iddo”. Bydd aelodau cyswllt yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru ac ni fydd ganddynt hawliau pleidleisio.

Gwrandawiadau cyn penodi

Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl IFanc ac Addysg wrandawiadau cyn penodi gyda’r ymgeiswyr a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rolau Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn; yr Athro Fonesig Julie Lydon a'r Athro David Sweeney, yn y drefn honno.

Ar gyfer rolau’r Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd, nid oedd y Pwyllgor yn gweld “unrhyw reswm pam na ddylid cymeradwyo penodi’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru”. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor bod “y ddau ymgeisydd sy'n cael eu ffafrio ar gyfer pob swydd yn dod yn bennaf o gefndir Addysg Uwch” a nododd ei “siom nad yw cymysgedd cefndiroedd y ddau benodiad yn rhoi effaith i ehangder y sector”.

Yn dilyn proses recriwtio agored ar gyfer y rôl, nid oedd panel yn gallu argymell ymgeisydd i’w benodi felly penderfynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg benodi ymgeisydd yn uniongyrchol. Ym mis Mai 2023, cynhaliodd y Pwyllgor wrandawiad cyn penodi ar gyfer yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Prif Weithredwr y Comisiwn, sef Simon Pirotte.

Eto, yn ôl y Pwyllgor, “ni welwn unrhyw reswm pam na ddylid cymeradwyo penodi’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru” ar gyfer rôl Prif Weithredwr y Comisiwn. Fodd bynnag, mynegodd y Pwyllgor ei fod yn “siomedig dros ben gyda’r broses a ddilynwyd ar gyfer y penodiad hwn”, ond gwnaeth yn glir “nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu ar yr ymgeisydd a ffefrir, a’i addasrwydd ar gyfer ei rôl”.

Cyhoeddiadau’r haf

Ym mis Mehefin, agorodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y rhestrau arfaethedig o gyrff sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau dysgwyr a gaiff enwebu aelodau cyswllt i Fwrdd y Comisiwn. Bydd o leiaf ddau aelod cyswllt sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol ac o leiaf un aelod cyswllt sy'n cynrychioli dysgwyr mewn addysg drydyddol.

Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ym mis Awst ynghylch penodi saith Aelod Bwrdd arferol; dechreuodd pump yn eu rolau ar 4 Medi a bydd y ddau arall yn gwneud hynny ym mis Ebrill gan eu bod ar hyn o bryd yn aelodau o CCAUC. Dywedodd y Gweinidog hefyd ei fod wedi penderfynu ailhysbysebu’r swyddi yn ddiweddarach eleni. Dywedodd y bydd yn “rhagweithiol wrth annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndir ethnig lleiafrifol” i “sicrhau bod y Comisiwn yn gallu elwa ar safbwyntiau o’n holl gymunedau yng Nghymru”.

Ym mis Awst, gwnaeth y Gweinidog ail Orchymyn Cychwyn, a ddaeth â nifer o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym i alluogi’r Comisiwn i “ymgymryd â gweithgareddau paratoadol dros yr hydref a'r gaeaf”.

Beth sydd nesaf?

Disgwylir y bydd y Comisiwn yn cael ei sefydlu y mis hwn, gyda Simon Pirotte yn ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ac aelodau cyffredin y bwrdd yn ymgymryd â'u rôl nhw. Cyfeirir at y cyfnod o fis Medi 2023 tan fis Ebrill 2024 fel y ‘cyfnod sefydlu’.

Yn ystod y cyfnod sefydlu bydd y Comisiwn yn gallu arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â phontio gwaith llywodraethu ac arsylwi gan CCAUC, megis penodi staff a chreu pwyllgorau. Ar y cam hwn, bydd CCAUC yn parhau i fod yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio addysg uwch a bydd Llywodraeth Cymru yn cadw cyfrifoldeb am addysg bellach a chweched dosbarth, prentisiaethau, a dysgu oedolion.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru lansio nifer o ymgynghoriadau dros yr hydref ac ar ddechrau 2024. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori ar: y gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol; cyllid ar gyfer addysg bellach; a’r ddyletswydd dysgu gydol oes.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi datganiad o flaenoriaethau cyn diwedd y flwyddyn hon, y mae’r Gweinidog yn dweud y bydd yn siapio cyfnod cyntaf y Comisiwn o weithgarwch.

Bydd y saith mis nesaf yn gyfnod pwysig o ran sefydlu’r Comisiwn gan arwain at ddod yn weithredol ym mis Ebrill 2024 a diddymu CCAUC. Bydd y Senedd yn parhau i fonitro a chraffu'n agos ar y gwaith o sefydlu’r Comisiwn.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru