Ddwy flynedd ar ôl adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol rhwng llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig ('yr adolygiad'), mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai cymysg fu’r cysylltiadau.
Yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r UE a'r cynnydd yn nifer biliau'r DU sy'n gwneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig, mae gweithgarwch rhynglywodraethol bellach wedi dod yn "bwysicach fyth". Yn ein herthygl y llynedd, gwnaethom ystyried y cynnydd a wnaed flwyddyn ar ôl yr adolygiad, felly a yw deuddeg mis arall wedi gwneud unrhyw wahaniaeth?
Bydd yr erthygl hon yn ystyried amlder ac ansawdd cyfarfodydd o dan y strwythurau newydd a pha mor dryloyw ydynt. Mae'n edrych ar asesiad Llywodraeth Cymru o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r broses newydd o ddatrys anghydfodau.
Mae’r strwythur tair haen a gyhoeddwyd yn 2022 yn cynnwys:
- Grwpiau Rhyngweinidogol sy'n canolbwyntio ar bolisi;
- Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol i ddarparu rôl oruchwylio ar y Grwpiau Rhyngweinidogol ac i drafod materion trawsbynciol, a Phwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid i drafod materion ariannol trawsbynciol;
- Cyngor Prif Weinidog y DU a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig.
Gwnaeth yr adolygiad sefydlu mecanwaith newydd ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau, yn sgil beirniadaeth o'r broses flaenorol.
I gael dadansoddiad pellach o'r strwythurau hyn a'r broses newydd ar gyfer datrys anghydfodau, gweler ein herthygl gynharach.
Pa mor aml oedd y strwythurau newydd yn cael eu defnyddio yn 2023?
Mae'r graffig canlynol yn dangos pryd a pha mor aml y cynhaliwyd cyfarfodydd o fewn y strwythurau newydd yn 2023.
Ffigur 1: Cyfarfodydd yn y strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol newydd yn 2023
Ffynonellau: Llywodraeth y DU, Intergovernmental Relations; Llywodraeth Cymru, Hysbysiadau; a Senedd Cymru, Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Cyrchwyd 25 Ionawr 2024.
O gymharu â 2022, bu cynnydd yn nifer y cyfarfodydd yn 2023, o 23 i 35.
Cyfarfu'r Grwpiau Rhyngweinidogol 'Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd', a'r 'Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig' bum gwaith yn 2023. Gwnaeth pedwar Grŵp gyfarfod yn 2023, na gynhaliwyd cyfarfodydd ar eu cyfer yn 2022: Cyfiawnder; Diogelwch a Mudo; Gwaith a Phensiynau (er bod y rhan fwyaf o Grwpiau Rhyngweinidogol yn cynnwys cynrychiolwyr o holl lywodraethau'r DU, mae'r Grŵp hwn yn ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau); a Materion Trafnidiaeth.
Nid yw Cyngor Prif Weinidog y DU a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig wedi cwrdd ers ei gyfarfod agoriadol ym mis Tachwedd 2022. Nid yw nifer o Grwpiau Rhyngweinidogol a gynigiwyd yn yr adolygiad wedi cael eu sefydlu eto, gan gynnwys Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ei hadroddiad ar gysylltiadau rhynglywodraethol rhwng 2021 a 2023, nododd Llywodraeth Cymru fod dau gyfarfod Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael eu trefnu, ond eu bod wedi'u canslo oherwydd nad oedd Gweinidogion Llywodraeth y DU ar gael.
Hefyd, nid oes llawer o wybodaeth ynghylch a fydd Grŵp Rhyngweinidogol ar wyddoniaeth yn cael ei sefydlu, neu a fydd y gwaith ymgysylltu yn parhau y tu hwnt i'r strwythurau.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i roi mis o rybudd i’r Senedd ar gyfer cyfarfodydd rhynglywodraethol (cyn belled ag y bo'n ymarferol) a chrynodebau ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd. Gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nodi yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 ei fod wedi cael digon o rybudd ymlaen llaw ar gyfer 23 o gyfarfodydd allan o 30.
Mae anghysondebau hefyd o ran manylion y crynodebau ysgrifenedig a ddarperir i'r Senedd i'w chynorthwyo wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae rhai pwyntiau trafod y Grwpiau yn fyr iawn tra bod eraill yn fwy manwl. Mae’r cyfathrebiadau gan Lywodraeth y DU hefyd yn amrywio o ran ansawdd a weithiau gall gymryd misoedd i'w cyhoeddi.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweld y cysylltiadau?
Fel rhan o'i chytundeb gyda'r Senedd, mae Llywodraeth Cymru yn adrodd ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn rheolaidd. Yn ei adroddiad diweddar, dywedodd bod yr haf a dechrau'r hydref yn 2022 yn “gyfnod o ymgysylltu sal gan Lywodraeth y DU”.
Mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu nad yw penodi Prif Weinidog y DU newydd ym mis Hydref 2022 wedi arwain at welliant sylweddol. Wrth siarad ym mis Medi 2023, dywedodd fod y cysylltiadau yn well o ran eu tôn, ond ar y cyfan, nad oedd yn siŵr bod pethau'n wahanol iawn.
Nododd Llywodraeth Cymru brofiadau cadarnhaol o gysylltiadau rhynglywodraethol. Dywedodd bod y gwaith ar y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd “yn feincnod ar gyfer sut gall Llywodraeth Cymru weithredu mewn partneriaeth sy’n gyfartal â Llywodraeth y DU.”
Fodd bynnag, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi mynegi rhwystredigaeth ynghylch y diffyg presenoldeb gan Ysgrifenyddion Gwladol perthnasol mewn cyfarfodydd Grwpiau Rhyngweinidogol.
Gwnaeth y Prif Weinidog awgrymu nad yw’r adolygiad wedi arwain at rhythm dibynadwy, rheolaidd mewn cysylltiadau. Dywedodd ymhellach nad oes gan Lywodraeth y DU lawer o egni na diddordeb ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol.
Gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, ddweud bod dwy ochr i hyn a bod ganddo berthynas waith broffesiynol hollol dda gyda Gweinidogion Cymru mewn materion sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.
Sbarduno’r broses ddatrys anghydfod
Mae diffyg eglurder ynghylch a yw'r broses newydd o ddatrys anghydfodau wedi cael ei defnyddio.
Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AS, nodi ym mis Rhagfyr 2023 nad yw wedi cael ei sbarduno eto. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2024, dywedodd yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Farwnes Penn, fod y broses wedi cael ei defnyddio unwaith, mewn anghydfod rhwng Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU ar daliadau pensiwn i bobl ag anafiadau sy'n gysylltiedig â’r Helyntion.
Gwnaeth y Prif Weinidog awgrymu bod yr adolygiad yn ymwneud ag osgoi anghydfod, ac y dylai'r mecanwaith newydd allu delio â gwahaniaethau mewn safbwyntiau rhwng y llywodraethau. Wrth fynegi awydd i osgoi anghydfodau, gwnaeth adroddiad Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhynglywodraethol ddweud ei bod yn “barod i uwchgyfeirio lle bo hynny’n briodol.”
Nododd y Prif Weinidog bwysigrwydd bod ar y sylfaen orau bosibl cyn sbarduno'r broses, gan ychwanegu nad yw wedi cael ei berswadio eto bod yr achos gorau wedi'i nodi. Ym mis Gorffennaf 2023, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y broses yn annhebygol o fod yn briodol ar gyfer herio darnau unigol o ddeddfwriaeth oherwydd yr amserlenni tebygol dan sylw. Yn hytrach, awgrymodd y gellid ei defnyddio i godi materion mwy cyffredinol, megis diystyru Confensiwn Sewel yn aml.
Bu oedi hefyd o ran sefydlu'r Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynlywodraethol, a fydd yn ymdrin ag anghydfodau. Ym mis Medi 2023, gwnaeth y Prif Weinidog groesawu penodiad pennaeth yr Ysgrifenyddiaeth, gan nodi bod disgwyl penodiadau pellach yn fuan. Ym mis Ionawr 2024, amlinellodd y Farwnes Penner er bod llywodraethau'r DU a'r Alban wedi neilltuo aelodau o staff i'r Ysgrifenyddiaeth, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny eto. Dywedodd hefyd y byddai penderfyniadau ar benodiadau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cael eu gwneud ar ôl iddi gael ei hadfer.
2024: Newidiadau i ddod?
Ar y cyfan, yn 2023 bu cynnydd yn nifer y cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal o fewn y strwythurau newydd, ond mae diffyg eglurder o ran i ba raddau y mae elfennau fel y broses datrys anghydfodau ac ysgrifenyddiaeth annibynnol yn cael eu hymsefydlu.
Gyda Phrif Weinidog newydd yn cael ei benodi i’r swydd erbyn y Pasg, ac etholiad cyffredinol yn cael ei alw rywbryd yn ystod y 12 mis nesaf, efallai y bydd y strwythurau rhynglywodraethol yn parhau i gael eu profi drwy gyfnod o newid gwleidyddol posibl.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru