Mae canran y disgyblion yng Nghymru sy’n colli ysgol yn dal i fod bron dwbl y lefel yr oedd cyn pandemig COVID-19. Mae’n ymddangos bod cau ysgolion a gwaddol parhaus ehangach y pandemig yn cael effaith hirdymor ar faint o blant a phobl ifanc sy’n mynd i’r ysgol. Nid yw’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru wedi gwrthdroi'r duedd eto.
Yn dilyn ein diweddariad yn 2023, rydym yn ailedrych ar gyfraddau absenoldeb ers y pandemig a rhesymau posibl pam eu bod mor uchel o hyd.
Pam ei fod mor bwysig?
Mae mynd i’r ysgol yn rheolaidd yn cael effaith gref ar sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu a beth maen nhw’n ei gyflawni. Ar adeg pan fo ysgolion yn gweithredu diwygiadau sylweddol, mae'n amlwg bod safonau ysgol ar yr agenda wleidyddol. Mae lles dysgwyr hefyd yn ffactor pwysig, a’r bwriad yw bod dull ysgol gyfan i les meddyliol ac emosiynol yn cael ei ddefnyddio fel sail i gefnogi disgyblion.
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi craffu ac adrodd ar bresenoldeb disgyblion. Yn 2022 canfuwyd bod ystod eang o ffactorau cymhleth, yn aml yn gysylltiedig â’i gilydd, yn cyfrannu at absenoldeb parhaus. Roedd rhai o’r rhain yn rhagddyddio COVID-19, ond daeth dylanwadau newydd yn sgil y pandemig hefyd.
Pa ddata?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar bresenoldeb ac absenoldeb. Mae’r erthygl hon yn defnyddio data absenoldeb o ysgolion uwchradd a data absenoldeb o ysgolion cynradd. Mae hefyd yn defnyddio crynodeb o absenoldeb yn yr ysgol cyn ac yn ystod COVID-19 a data cysylltiedig.
Y pandemig a thu hwnt
Pan darodd y pandemig ym mis Mawrth 2020, gwnaeth Llywodraeth Cymru atal ei gwaith o gasglu a chyhoeddi data presenoldeb blynyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd.
Newidiodd Llywodraeth Cymru i gasglu data absenoldeb wythnosol yn ystod y ddwy flynedd 2020/21 a 2021/22 (a ddiffinnir at ddibenion ystadegol fel ‘cyfnod y pandemig‘). Bwriad y dull newydd hwn yn bennaf oedd llywio’r ymateb parhaus i’r pandemig a monitro ei effaith.
Erbyn mis Hydref 2022, roedd y data wythnosol hwn yn nodi bod absenoldebau ysgol wedi bron dyblu o lefelau cyn y pandemig, o golli 5.7% o sesiynau ysgol o gasglu data blynyddol yn 2018/19 i ddata casglu wythnosol o 9.4% yn 2020/21, a 10.2% yn 2021/22.
Efallai na fydd hyn yn syndod o ystyried yr aflonyddwch a achosir yn sgil cau ysgolion, salwch a phryderon parhaus ynghylch COVID-19. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, mae cwestiynau’n cael eu gofyn pam nad yw lefelau absenoldeb wedi dychwelyd i ‘normal’:
- 2018/19: 5.7% o sesiynau ysgol wedi’u colli
- 2019/20, 2020/21, 2021/22: dim data presenoldeb blynyddol y gellir ei gymharu’n uniongyrchol oherwydd y dulliau casglu data wythnosol amgen yn ystod cyfnod y pandemig.
- 2022/23: Cafodd 12.5% o sesiynau ysgol eu colli mewn ysgolion uwchradd ac 8.5% mewn ysgolion cynradd.
- 2023/24: 12% o sesiynau uwchradd wedi’u colli, a disgwylir i ddata ar gyfer ysgolion cynradd gael eu cyhoeddi ar 12 Rhagfyr
Absenoldeb parhaus
Barn Estyn yw bod “cyfraddau presenoldeb ledled Cymru yn parhau i beri pryder ac mae cyfraddau absenoldebau parhaus wedi cynyddu’n sylweddol”.
Newidiwyd y diffiniad o 'absenoldeb parhaus' yn 2023, gan leihau’r trothwy a ystyrir fel absenoldeb parhaus o 20% i 10% o sesiynau a gollwyd gan ddisgybl, gyda'r nod o annog ‘ymyrraeth gynharach’.
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos:
- Arhosodd canran y disgyblion oed ysgol uwchradd oedd yn absennol yn barhaus rhwng 19.0% a 15.9% rhwng 2013/14 a 2018/19.
- Yn dilyn pandemig COVID-19, mae absenoldeb parhaus wedi mwy na dyblu rhwng 2018/19 a 2023/24 ac mae’r ganran bellach yn 37.1%, i lawr o 40.1% yn 2022/23.
A yw rhai grwpiau yn colli mwy o ysgol nag eraill?
Cynradd ac uwchradd: Mae disgyblion oed uwchradd yn colli mwy o ysgol yn barhaus na disgyblion iau. Yn 2022/23, roedd 8.5% o sesiynau ysgol gynradd wedi’u colli o gymharu â 12.5% mewn ysgolion uwchradd. Mae data absenoldeb parhaus yn dangos patrwm tebyg gyda chyfraddau o 28.9% ar gyfer ysgolion cynradd a 40.1% mewn ysgolion uwchradd.
Oedran: Mae cyfraddau absenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn cynyddu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn ac mae’r bwlch presenoldeb ym mlwyddyn 11 wedi ehangu ers y pandemig. Yn 2022/23 cynyddodd cyfraddau absenoldeb ymhlith pob grŵp blwyddyn, o 9.4% ym Mlwyddyn 7 i 15.5% ym Mlwyddyn 11. Mae’r darlun yn wahanol mewn ysgolion cynradd lle mae cyfraddau absenoldeb ychydig yn uwch ym Mlwyddyn 1 na grwpiau blwyddyn eraill.
Prydau ysgol am ddim: Mae disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn colli mwy o ysgol na’u cyfoedion. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod disgyblion ysgol uwchradd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn absennol ar gyfer 20.1% o’r holl sesiynau ysgol yn 2023/24 bron i ddwbl y 10.5% o’r holl sesiynau yn 2018/19. Yn 2023/24 roedd 49% o’r absenoldebau hyn heb eu hawdurdodi.
Anghenion Dysgu Ychwanegol: Mae gan ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gyfraddau absenoldeb uwch. Mewn ysgolion uwchradd, yn 2023/24 cafodd 17.2% o sesiynau ysgol eu colli gan ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (darpariaeth AAA/ADY) o gymharu â 11.2% heb ddarpariaeth AAA/ADY.
Rhesymau dros fod yn absennol
Mae peidio â mynychu ysgol yn aml yn ddangosydd o ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys anghenion heb eu diwallu. Cafodd anghenion iechyd meddwl, anabledd, bwlio, teithio gan ddysgwyr, salwch rhieni a rhai polisïau ysgol megis mynediad at gyfleusterau toiledau eu crybwyll gan rieni mewn adroddiad gan Parentkind a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Nododd adroddiad Estyn yn 2024 ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd nifer o “rwystrau pwysig” y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â phresenoldeb gwael:
- canfyddiadau rhieni o bwysigrwydd presenoldeb da;
- gallu ysgolion i ymateb o ystyried y cynnydd yn nifer y disgyblion a dargedir;
- amseriad tymhorau a gwyliau ysgol;
- costau cynyddol sy’n gysylltiedig â chludiant ysgol;
- diffyg cyllid pwrpasol, hirdymor gan Lywodraeth Cymru i wella presenoldeb; ac
- amrywiad yn effaith y cymorth y mae ysgolion yn eu cael, er enghraifft gan Dimau Lles Addysg.
Dull Llywodraeth Cymru
Mae'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer presenoldeb ysgol yn sail i ystod o fesurau eraill gan Lywodraeth Cymru megis y Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan. Yn 2023:
- Sefydlodd y Gweinidog ar y pryd Dasglu Presenoldeb Cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad strategol a gosod blaenoriaethau. Mae ganddo raglen waith gan gynnwys dadansoddiad pellach o ddata ac ystadegau i nodi patrymau a thueddiadau daearyddol ar gyfer gwelliant. Mae £2.5m ar gael i gefnogi prosiectau sy’n codi o’i waith.
- Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ganllawiau Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi wedi’u hanelu at ‘wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr’.
Mae Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, wedi cydnabod rhai o’r ffactorau sy’n gwaethygu presenoldeb yn yr ysgol.
- Ym mis Mai 2024, cyfeiriodd Lynne Neagle at deuluoedd disgyblion ag ADY nad ydynt bellach yn anfon eu plant i'r ysgol oherwydd nad ydynt yn credu bod yr ysgol yn gallu diwallu eu hanghenion.
- Yna, ym mis Mehefin, tra’n cyhoeddi na fyddai unrhyw newidiadau i’r flwyddyn ysgol, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at faint y broblem, gan ddweud:
- ‘Mae'r cyfraddau absenoldeb parhaus ar gyfer plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd yn 50 y cant a mwy. Mae hynny'n ffigwr rhyfeddol, a dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef’.
Wythnos nesaf, yn y Cyfarfod Llawn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi datganiad ar wella safonau addysgol yng Nghymru. Efallai y byddwn wedyn yn darganfod i ba raddau y mae cael disgyblion yn ôl i’r ystafell ddosbarth yn rhan o’r agenda honno.
Erthygl gan Sarah Hayward, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Sarah Hayward gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.