Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus yng Nghymru - beth nesaf?

Cyhoeddwyd 21/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 27 Mehefin bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar Ddatgarboneiddio'r Sector Cyhoeddus. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ddiwedd mis Mai, roedd y sector cyhoeddus yn gyfrifol am 0.71% o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru yn 2014. Roedd busnesau’n gyfrifol am 64.67%, cludiant am 12.77%, amaethyddiaeth am 12.77%, y sector preswyl am 7.83% a gwastraff am 2.13%. Mae allyriadau o'r sector cyhoeddus wedi bod yn gostwng yn raddol, ac ar hyn o bryd maent yn is nag y buont ers pennu’r llinell sylfaen yn 1990. Mae Llywodraeth Cymru yn priodoli’r gostyngiad hwn i’r camau a gymerwyd i wella effeithlonrwydd ynni, ac i’r defnydd cynyddol o nwy naturiol yn lle tanwydd sydd ag ôl troed carbon uchel (fel glo ac olew).

Er bod y sector cyhoeddus yn gyfrifol am y gyfran leiaf o allyriadau, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (UKCCC) wedi tynnu sylw at y ffaith bod gan y sector rôl hanfodol i'w chwarae o ran dangos arweiniad ym maes newid hinsawdd. Yn ogystal â lleihau allyriadau o adeiladau yn y sector cyhoeddus, mae gan y sector cyhoeddus lawer mwy o gyfleoedd i ddylanwadu ar leihau allyriadau; drwy arferion caffael, drwy ddangos arweinyddiaeth, a drwy ddarparu gwasanaethau.

Mae'r UKCCC wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ynghylch allyriadau yng Nghymru. Bydd y cyngor, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar Ddatgarboneiddio a'r Cabinet, yn cael ei ddefnyddio i lywio cyfeiriad polisi cyn toriad yr haf 2017.

Y polisi a’r cynnydd a wnaed

Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru (2010) yw’r ddogfen y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i geisio sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gweithredu’n gyflymach i ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'n tynnu sylw at bum maes allweddol:

  • Annog cyrff drwy’r sector cyhoeddus cyfan i newid eu hymddygiad;
  • Ymwreiddio ystyriaethau newid hinsawdd mewn Strategaethau Cymunedol drwy baratoi canllawiau a rhannu arfer da;
  • Lleihau ôl troed carbon ystâd Llywodraeth Cymru;
  • Lleihau ôl troed carbon y gwasanaethau addysg ac iechyd; a
  • Sicrhau bod adeiladau’r sector cyhoeddus yn cyrraedd safonau uchel o ran perfformiad ynni.

Mae'r strategaeth hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld y sector cyhoeddus yn arwain y ffordd ym maes lleihau allyriadau erbyn 2020, ac yn lleihau’r ynni a ddefnyddir yn y sector a’r allyriadau y mae’n eu cynhyrchu.

ffotograff du a gwyn o Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Ym mis Mai 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy a Newid Hinsawdd 2015. Mae'r atodiad technegol cysylltiedig yn cynnwys cyfres o ddangosyddion yn ôl sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, ac mae’r rhain wedi'u grwpio o dan y polisïau a nodir yn y Strategaeth Newid Hinsawdd. Cafodd perfformiad ei fesur yn ôl y dangosyddion gan ddefnyddio system goleuadau traffig. Er bod allyriadau cyffredinol yn y sector cyhoeddus yn gostwng, roedd y dangosyddion yn amlygu nifer o feysydd i'w gwella, sef:

  • y defnydd o danwydd yn y sector cyhoeddus, lle mae allyriadau’n dal yn is na’r llinell sylfaen, ond yn sefydlog;
  • allyriadau nwyon tŷ gwydr y GIG, lle nad oedd digon o ddata; ac
  • allyriadau'r sector addysg (sydd wedi’i gynnwys yng nghynllun Effeithlonrwydd Ynni CRC), lle gwelwyd dirywiad clir.

Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y darpariaethau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar gyfer y newid yn yr hinsawdd. Mewn perthynas â'r sector cyhoeddus dywedodd:

Yn ogystal â rhoi pwyslais ar ddefnyddio ynni yn effeithlon yn y sector preswyl, rwyf hefyd yn buddsoddi yn y sector cyhoeddus, gan gydnabod bod ganddo swyddogaeth hollbwysig yn datgarboneiddio trwy arweinyddiaeth, trwy weithredu ac fel galluogwyr newid. Mae'r cymorth technegol, masnachol ac ariannol sydd wedi'i sefydlu drwy Twf Gwyrdd Cymru yn help i gefnogi'r broses o ddatgarboneiddio ystad adeiladau y sectorau cyhoeddus ac mae cynllun gwariant cyfalaf o oddeutu £500 miliwn [...]
Gwnaethpwyd dros £24 miliwn o fuddsoddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi arwain at arbedion cost rhagamcanol heb ostyngiad o £72 miliwn a gostyngiadau mewn allyriadau CO2 o dros 280,000 tunnell.
Fel Llywodraeth, rydym wedi tynnu sylw yn y gorffennol at yr angen am dryloywder ynghylch ein hallyriadau i ddeall ble y mae angen gweithredu.

Mae’r gwaith o geisio lleihau allyriadau carbon yn yr ystâd gyhoeddus yn cynnwys Prosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW). Mae'r prosiect yn gwerthuso ystâd gyfan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n sylweddol iawn, gan amcangyfrif ei allyriadau a’r carbon a gaiff ei storio mewn cynefinoedd i werthuso statws carbon net y sefydliad. Nod y prosiect yw dangos bod NRW yn gosod esiampl o ran y modd y mae’n rheoli carbon, a rhannu arfer gorau drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal â’r gwaith gwerthuso, bydd yn:

  • Ymchwilio i ddulliau uchelgeisiol ac arloesol o leihau effaith carbon NRW, rhoi prosiectau ar waith sy’n defnyddio’r dulliau hyn a sicrhau eu bod wedi ymwreiddio drwy’r NRW cyfan;
  • Cynllunio sut y gellir rhoi’r dulliau hyn ar waith yn gynt yn y dyfodol i helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Yn ei ddogfen Diweddariad Prosiect Hydref 2016 (PDF, 731KB), dywedodd NRW mai’r trydan y mae’n ei ddefnyddio’n fewnol a’r tanwydd y mae’n ei ddefnyddio ar gyfer ei gerbydau ynghyd â’r trefniadau i gaffael nwyddau a gwasanaethau’n allanol oedd y meysydd allweddol ar gyfer lleihau ei effaith nwyon tŷ gwydr.

Erthygl gan Chloe Corbyn a Sean Evans, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Allyriadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru 1990-2014

Llun o Flickr gan E-magine Art. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus yng Nghymru - beth nesaf? (PDF, 235KB)