Er gwaethaf ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder, mae cynnydd wedi bod yn araf ers i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gyhoeddi ei adroddiad dros chwe blynedd yn ôl.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad “nad yw'r system [gyfiawnder] bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru” ac argymhellodd ddatganoli pwerau cyfiawnder yn llawn a chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.
Wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor y Senedd hon, mae'r erthygl hon yn trafod pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni yn y maes hwn.
Comisiwn Thomas
Cafodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (“Comisiwn Thomas”) ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017 ac fe’i cadeiriwyd gan yr Arglwydd Thomas o Cwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.
Yn ei adroddiad, gwnaeth y Comisiwn 78 o argymhellion gan gynnwys datganoli cyfiawnder yn ddeddfwriaethol i'r Senedd, datganoli swyddogaethau cyfiawnder gweithredol i Lywodraeth Cymru, a chydnabyddiaeth ffurfiol bod cyfraith Cymru yn wahanol i gyfraith Lloegr.
Pe bai argymhellion y Comisiwn yn cael eu gweithredu'n llawn, byddai'n golygu y byddai’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bethau fel plismona, carchardai a'r llysoedd.
Dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datganoli cyfiawnder
Ers adroddiad y Comisiwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson dros ddatganoli cyfiawnder yn llawn. Roedd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru yn 2021 a Rhaglen Lywodraethu 2021-26.
Nododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad Comisiwn Thomas yn 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' (2022), ochr yn ochr â rhaglen waith i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn y meysydd y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gyfrifol amdanynt. Ym mis Ebrill 2023, penodwyd y Fonesig Vera Baird KC, cyn Gomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, yn Gynghorydd Arbenigol Annibynnol ar ddatganoli cyfiawnder.
Yn ei hadroddiad cynnydd (2024) ar y rhaglen waith ar gyfiawnder, dywedodd Llywodraeth Cymru:
Mae datganoli cyfiawnder yn rhan hollbwysig o’r diwygiadau angenrheidiol sydd angen eu gweithredu os ydym am sicrhau system gyfreithiol a chyfiawnder fodern, blaengar ac effeithiol, ar gyfer pobl Cymru ac yn atebol i bobl Cymru.
Cadarnhawyd hyn gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Awst 2025:
Rydym yn parhau i gefnogi datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Fel y nodwyd yn ein cyhoeddiad yn 2022, Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, mae angen dull graddol i gyflawni newid o'r raddfa hon.
Rôl Llywodraeth y DU a'i hymrwymiadau presennol
Er gwaethaf safbwynt Llywodraeth Cymru, mae cynnydd o ran datganoli yn galw am gefnogaeth Llywodraeth y DU. Llywodraeth y DU fyddai’n cynnig y ddeddfwriaeth angenrheidiol i alluogi datganoli unrhyw bwerau.
Roedd Llywodraeth flaenorol y DU yn gwrthwynebu unrhyw ddatganoli cyfiawnder. Fodd bynnag, daethpwyd i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn 2022 i weithio gyda'i gilydd ar 14 o argymhellion Comisiwn Thomas. Fodd bynnag, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud bod ‘cynnydd cyfyngedig wedi’i wneud’, a hynny ond mewn meysydd yr oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eisoes wedi ymrwymo iddynt.
Arweiniodd y newid llywodraeth yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2024 y DU at gwestiynau newydd ynghylch a fyddai cynnydd yn cael ei wneud. Ymrwymodd maniffesto 2024 Plaid Lafur y DU i archwilio datganoli gwasanaethau prawf ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid. Ym mis Mehefin 2025, cyfarfu’r Dirprwy Brif Weinidog â'r Arglwydd Ganghellor i drafod yr ymrwymiadau hyn, gan ei alw’n “gam sylweddol” tuag at gryfhau cydweithio.
Ymgeiswyr cynnar ar gyfer datganoli: cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf
Mae cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf yn cael eu hystyried fel ymgeiswyr cynnar ar gyfer datganoli graddol oherwydd eu cysylltiadau â gwasanaethau datganoledig fel iechyd a thai.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai datganiadau cadarnhaol ynglŷn â’r meysydd hyn. Ni wnaeth hyn atal y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol rhag rhybuddio ym mis Gorffennaf 2025 y gallai Llywodraeth y DU “dorri ei haddewidion” ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf yng Nghymru.
Cyfiawnder ieuenctid: gwaith archwilio yn parhau
Er bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl o dan y setliad datganoli presennol, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu dylanwadu ar bolisi cyfiawnder ieuenctid drwy feysydd datganoledig fel addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae’r dull gweithredu gwahanol hwn o'i gymharu â Lloegr yn cynnwys mentrau fel y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a mabwysiadu arferion sy’n ystyriol o drawma. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu adolygiad anffurfiol o'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a sefydlu Grŵp Cynghori Academaidd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi cytuno â Llywodraeth y DU i swyddogion yn y ddwy lywodraeth weithio gyda’i gilydd i “ymchwilio i’r opsiynau” lle y gellid “ailosod” cyfrifoldebau yn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae hyn yn cynnwys:
- Goruchwyliaeth strategol
- Trefniadau partneriaeth a llywodraethu
- Ariannu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid; ac
- Ystyried ffurfioli'r trefniadau llywodraethiant ar gyfer ymgysylltu rhwng y ddwy lywodraeth.
Gwasanaethau prawf: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei ddatblygu
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro dros ddatganoli pwerau dros y gwasanaeth prawf, a fyddai'n caniatáu i bolisi gael ei alinio rhwng gwasanaethau eraill sy'n cefnogi unigolion sy'n cyflawni dedfrydau cymunedol. Yn 2024, gofynnodd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal gwaith ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli’r gwasanaeth prawf.
Dywedodd yr Arglwydd Timpson, y Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Prawf a Lleihau Aildroseddu, wrth Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ym mis Gorffennaf 2025, er nad oedd yn diystyru dim byd, nid yw datganoli gwasanaethau prawf i Gymru yn flaenoriaeth iddo tra bod y system gyfiawnder yn wynebu ‘pwysau enfawr’.
Cyn unrhyw ddatganoli posibl o wasanaethau prawf, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Prawf EM i fabwysiadu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar wasanaethau prawf. Mae dull tebyg eisoes ar waith ym Manceinion Fwyaf, lle gall yr Awdurdod gyd-gomisiynu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â phrawf, megis cymorth tai neu raglenni triniaeth cyffuriau. Cadarnhaodd Alex Davies-Jones AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Rhagfyr 2025 y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hon nid yn unig yn ‘replica’ o'r model ym Manceinion Fwyaf, ond yn hytrach y byddai’n ‘benodol i Gymru’.
Beth am weddill y system gyfiawnder?
Er bod rhywfaint o gynnydd cyfyngedig wedi'i wneud tuag at ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf yn y dyfodol, mae’n annhebygol y bydd unrhyw drosglwyddo pellach o bwerau dros faterion fel plismona neu’r llysoedd yn digwydd yn y dyfodol agos.
Arweiniodd y cyhoeddiad diweddar bod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn mynd i gael eu diddymu yng Nghymru a Lloegr at gwestiynau ynghylch a ddylid datganoli plismona i Gymru.
Wrth ateb cwestiwn amserol ar y mater ym mis Tachwedd 2025, cadarnhaodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, ei bod wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref mewn ymateb i'r cyhoeddiad i nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i ddatganoli plismona.
Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn nodi manteision a risgiau arfaethedig model plismona datganoledig i Gymru ond nid yw'n glir faint o gynnydd sydd wedi’i wneud yn y maes hwn.
Gydag amser yn prysur ddiflannu yn nhymor y Senedd hon, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar y materion hyn cyn etholiad mis Mai. Felly, mae'n debyg mai Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn penderfynu a yw am barhau i fynd ar drywydd datganoli cyfiawnder.
|
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres sy'n trafod agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, o'r setliad datganoli presennol a gweithio rhynglywodraethol, i’r gwasanaethau prawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona. |
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru