Datganiad Hydref 2023 y DU: beth mae'n ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 27/11/2023   |   Amser darllen munud

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys Ddatganiad yr Hydref ar 22 Tachwedd gan ddweud ei fod yn ddatganiad “ar gyfer twf”. Mae’r erthygl hon yn edrych ar rai o’r prif newidiadau a sut y gallent effeithio ar Gymru.

Beth yw'r rhagolygon economaidd?

Cyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ei rhagolygon ochr yn ochr â Datganiad yr Hydref. Tynnodd yr OBR sylw at y ffaith bod yr economi wedi cryfhau mwy na’r disgwyl ar ôl y pandemig a’r cynnydd enfawr mewn prisiau ynni.

Disgwylir i chwyddiant aros yn uchel am gyfnod hwy. Er bod chwyddiant wedi gostwng i lai na 5 y cant, ni ragwelir y bydd yn dychwelyd i'r targed o 2 y cant tan hanner cyntaf 2025 – dros flwyddyn yn hwyrach na'r hyn a nodwyd yn y rhagolygon fis Mawrth eleni.

Er bod chwyddiant uwch yn cynyddu refeniw treth , tanlinellodd yr OBR fod hynny hefyd yn cynyddu cost budd-daliadau lles. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn talu cyfraddau llog uwch ar ddyled.

Rhagwelir y bydd safonau byw, a gaiff eu mesur yn ôl incwm gwario gwirioneddol aelwydydd fesul person, 3.5 y cant yn is yn 2024-25 nag yr oeddent cyn y pandemig. Rhagwelir y bydd diweithdra yn codi i 1.6 miliwn o bobl erbyn ail chwarter 2025.

Beth yw'r prif newidiadau?

Mae rhai o'r prif gyhoeddiadau yn Natganiad yr Hydref yn cynnwys:

  • Torri’r brif gyfradd Yswiriant Gwladol y bydd gweithwyr yn ei thalu o 12% i 10%, o 6 Ionawr 2024.
  • I bobl hunangyflogedig, bydd cyfradd Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn gostwng o 9% i 8%. Bydd cyfraniadau wythnosol Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael eu diddymu i bob pwrpas, o fis Ebrill 2024.
  • Bydd y cyflog byw cenedlaethol yn codi o £10.42 i £11.44 yr awr, a bydd Credyd Cynhwysol a budd-daliadau oedran gweithio eraill yn codi 6.7% o fis Ebrill 2024.
  • Bydd cyfradd y Lwfans Tai Lleol yn codi i gynnwys rhenti yn y 30% isaf o fis Ebrill 2024.
  • Bydd pensiynau'r wladwriaeth yn cynyddu 8.5% ym mis Ebrill a bydd y 'clo triphlyg' (sy'n cynyddu pensiwn y wladwriaeth yn unol â chwyddiant, twf cyflog neu 2.5% - p’un bynnag yw’r uchaf) yn cael ei gadw.
  • Bydd dau barth buddsoddi newydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru: un yng Nghaerdydd/Casnewydd a’r llall yn Wrecsam/Sir y Fflint.
  • Caniatáu i fusnesau ddidynnu cost lawn budsoddiadau cyfalaf cymwys yn barhaol, gan ganiatáu busnesau i wrthbwyso’u buddsoddiad mewn peiriannau a chyfarpar yn erbyn eu bil treth.

Er bod y baich treth yn gostwng 0.5 y cant o ganlyniad i’r toriadau mewn treth personol a threth busnes, mae dadansoddiad yr OBR yn dangos bod disgwyl i faich treth cyffredinol y DU godi ym mhob un o’r pum mlynedd nesaf i’r lefel uchaf ers y rhyfel, sef 38 y cant o CMC.

Sut bydd hyn yn effeithio ar Gymru?

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae’r gostyngiad yn nhaliadau Yswiriant Gwladol yn cyfateb i doriad treth blynyddol o £324 ar gyfartaledd i 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael £305 miliwn yn ychwanegol o dan fformiwla Barnett. Mae hyn yn cynnwys £133 miliwn yng nghyllideb adnoddau 2023-24, a £167 miliwn ychwanegol mewn adnoddau a £5.8 miliwn mewn cyfalaf yn 2024-25.

Yn ei hymateb i Ddatganiad yr Hydref, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

… bydd gostyngiad o 0.1% mewn termau real yn setliad adnoddau Llywodraeth Cymru yn 2024-25 ac mae ein cyllideb gyfalaf 6% yn is mewn termau real. Yn gyffredinol, mae hynny yn ostyngiad mewn termau real o 1% flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein setliad.

Croesawodd y Gweinidog y cynnydd yn y Lwfans Tai Lleol ond dywedodd fod y ffaith na fydd y cynnydd yn dod i rym tan fis Ebrill 2024 yn “anffodus”.

Cyn Datganiad yr Hydref, gofynnodd y Gweinidog i Lywodraeth y DU roi cyfraniad o £20m tuag at y gost o ddiogelu tomenni glo a £270m o gyllid canlyniadol ar ôl ailddosbarthu HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig. Nid oedd y datganiad yn cyfeirio’n uniongyrchol at y naill na’r llalll.

Roedd y cyhoeddiadau a oedd yn ymwneud yn benodol â seilwaith Cymru yn cynnwys £1 biliwn i ariannu’r gwaith o drydaneiddio prif lein Gogledd Cymru a £5.2 miliwn o gyllid ar gyfer trafnidiaeth yn Sir Fynwy.

Mae'r ddau barth buddsoddi yng Nghaerdydd/Casnewydd a Wrecsam/Sir y Fflint yn werth £160 miliwn yr un. Yn gynharach ym mis Tachwedd, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi bod:

… Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol mawr ac mae ein parodrwydd i fwrw ymlaen â pharthau buddsoddi yng Nghymru yn seiliedig ar gynnig gan Drysorlys y DU sy'n talu costau disgwyliedig llawn ariannu pob parth buddsoddi.

Beth am yr effaith ar drethi datganoledig yng Nghymru?

Fel sy’n digwydd bob tro y bydd unrhyw gyhoeddiad mawr ynghylch cyllideb y DU, mae’r OBR wedi cyhoeddi rhagolygon ynghylch trethi datganoledig llawn ac elfennau datganoledig o dreth incwm.

Yn dilyn Datganiad yr Hydref, rhagwelir y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn cynyddu £189 miliwn yn 2024-25 o’i gymharu â’r rhagolwg ym mis Mawrth.

Rhagwelir y bydd derbyniadau treth trafodiadau tir yn gostwng £32 miliwn yn 2024-25 o’i gymharu â’r rhagolwg ym mis Mawrth.

Rhagwelir y bydd derbyniadau Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru hefyd yn gostwng £6 miliwn o 2024-25 ymlaen o’i gymharu â’r rhagolygon ym mis Mawrth,

Beth nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2024-25 ar 19 Rhagfyr 2023. Ar 22 Tachwedd, dywedodd y Gweinidog Cyllid:

Nid yw'r dewisiadau y mae’r Canghellor wedi’u gwneud yn Natganiad yr Hydref eleni yn gwneud ein dewisiadau ni yn ddim haws. Mae ein sefyllfa gyllidol yn dal i fod yn un hynod o anodd, ac mae penderfyniadau dwys yn wynebu Gweinidogion Cymru.

Bydd Ymchwil y Senedd yn diweddaru’r offeryn rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft 2024-25, a bydd hwn yn dangos cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru