Darlun o diabetes yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Tachwedd 2015 Erthygl gan Philippa Watkins a Helen Jones, y Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae 14 Tachwedd 2015 yn Ddiwrnod Diabetes y Byd. Mae oddeutu 180,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu trin ar hyn o bryd ar gyfer diabetes (dros 5% o gyfanswm y boblogaeth ac oddeutu 7% o’r boblogaeth sy’n oedolion). Amcangyfrifir bod 70,000 o bobl eraill yng Nghymru sydd â diabetes Math 2 ond eu bod naill ai ddim yn gwybod bod ganddynt y cyflwr neu nad ydynt wedi cael diagnosis. Mae 540,000 o bobl eraill yn wynebu risg uchel o ddatblygu’r cyflwr. Mae Diabetes Math 1 yn gyflwr awto-imiwn lle nad yw’r pancreas yn cynhyrchu dim inswlin. Fel arfer gwneir y diagnosis mewn plant ac oedolion ifanc. Mae Diabetes Math 2 yn llawer mwy cyffredin na Math 1, ac mae i gyfrif am oddeutu 90% o oedolion sydd â diabetes. Mae Math 2 yn aml yn gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw. Gordewdra yw’r ffactor risg mwyaf arwyddocaol, a gallai fod yn gyfrifol am 80-85% o’r risg o ddatblygu diabetes Math 2. Mae tystiolaeth gynyddol, a phryder, bod y cynnydd mewn gordewdra ymhlith plant wedi arwain at gynnydd yn yr achosion o ddiabetes Math 2 sy’n cael diagnosis mewn grwpiau oedran iau. Mae amddifadedd yn gysylltiad pendant â lefelau uwch o ordewdra, anweithgarwch corfforol, ysmygu a ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â risg pobl o ddiabetes, a’u gallu i reoli’r cyflwr ac i osgoi cymhlethdodau difrifol. Mae Diabetes yn costio oddeutu £500 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10% o gyllideb y GIG yng Nghymru. Mae 18% o welyau mewn ysbytai acíwt yng Nghymru yn cael eu cymryd gan bobl sydd â diabetes. Mae dros 90% o’r cleifion hyn â Diabetes Math 2. Deunydd darllen pellach: View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg