Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mehefin: Cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016

Cyhoeddwyd 10/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Mehefin 2015 Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_5580" align="alignnone" width="682"]Lle parcio ar gyfer person ag anabledd Llun o Wikimedia. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Mehefin ar gynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016. Mae'r Rheoliadau yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Bathodynnau Glas i gynnwys pobl â namau dros dro sy'n para llai na 12 mis, fel achosion cymhleth o dorri esgyrn y goes, strôc a thrawma asgwrn cefn. Cyflwynwyd y cynnig gan Mark Isherwood AC, sydd o'r farn y dylai'r cyfnod y gall rhywun gael bathodyn dros dro fod yn fwy hyblyg, yn hytrach na glynu wrth gyfnod caeth o 12 mis. Y Cynllun Bathodyn Glas Mae bathodyn parcio person anabl ("Bathodyn Glas" fel y'i gelwir) yn galluogi'r deiliad i elwa ar ystod o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag ffïoedd penodol sy'n berthnasol i fodurwyr eraill. Mae'r bathodynnau hyn yn cael eu dosbarthu gan awdurdodau lleol. Y Rheoliadau Mae Rheoliadau 2016 yn diwygio Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000, a hynny er mwyn ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Bathodyn Glas i gynnwys pobl sydd ag anabledd dros dro ond sylweddol, y mae disgwyl iddo gael effaith ar eu symudedd am ddeuddeng mis o leiaf. Mae dau newid ynghlwm wrth reoliadau 2016:
  • Mae Rheoliad 2(2) yn mewnosod disgrifiad newydd o bersonau anabl sy’n cynnwys personau sydd dros 2 flwydd oed ac sydd ag anabledd dros dro ond sylweddol. Rhaid bod y person yn analluog i gerdded, neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded oherwydd yr anabledd a rhaid bod disgwyl i’r anabledd bara am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf; ac
  • Mae rheoliad 2(3) yn darparu’r cyfnod y mae bathodynnau i gael eu rhoi i bersonau ag anableddau dros dro. Blwyddyn yw’r cyfnod rhoi.
Ymgynghoriad Ym mis Mai 2015, comisiynodd cyn Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu'r Cynllun Bathodyn Glas. Cyhoeddwyd ei adroddiad a'i argymhellion ym mis Tachwedd 2015. Ym mis Ionawr 2016, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys pobl â namau dros dro. Yn yr ymgynghoriad, amlinellwyd:
  • cynlluniau ar gyfer ymestyn meini prawf cymhwysedd y Cynllun i gynnwys pobl sydd â namau dros dro ac sydd angen triniaeth ac adfer sylweddol, sy'n effeithio ar eu symudedd; a
  • chynigion i wneud y prosesau gweinyddol yn fwy effeithlon mewn achosion ble mae'r ymgeisydd wedi cael asesiad manwl yn flaenorol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaeth y cyn Weinidog ddatganiad ar 31 Mawrth, gan dynnu sylw at y pwyntiau a ganlyn: 'Ni ellir cyflawni rhai o argymhellion y Grŵp [Gorchwyl a Gorffen ar y Cynllun Bathodyn Glas] yn syth, am fod angen gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn eu gweithredu. Fodd bynnag, rwy'n glir fy mod am weld gwelliant o ran y modd y mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol.' Mae Mark Isherwood AC wedi galw am Fathodynnau Glas dros dro yn y gorffennol. Yn fwy diweddar mae wedi galw am ddiwygio'r Cynllun.