Cyhoeddwyd 10/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munud
10 Mehefin 2015
Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_5580" align="alignnone" width="682"]
Llun o Wikimedia. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Mehefin ar gynnig i ddirymu
Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016.
Mae'r Rheoliadau yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Bathodynnau Glas i gynnwys pobl â namau dros dro sy'n para llai na 12 mis, fel achosion cymhleth o dorri esgyrn y goes, strôc a thrawma asgwrn cefn.
Cyflwynwyd y cynnig gan Mark Isherwood AC, sydd o'r farn y dylai'r cyfnod y gall rhywun gael bathodyn dros dro fod yn fwy hyblyg, yn hytrach na glynu wrth gyfnod caeth o 12 mis.
Y Cynllun Bathodyn Glas
Mae bathodyn parcio person anabl (
"Bathodyn Glas" fel y'i gelwir) yn galluogi'r deiliad i elwa ar ystod o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag ffïoedd penodol sy'n berthnasol i fodurwyr eraill. Mae'r bathodynnau hyn yn cael eu dosbarthu gan awdurdodau lleol.
Y Rheoliadau
Mae Rheoliadau 2016 yn diwygio
Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000, a hynny er mwyn ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Bathodyn Glas i gynnwys pobl sydd ag
anabledd dros dro ond sylweddol, y mae disgwyl iddo gael effaith ar eu symudedd am ddeuddeng mis o leiaf.
Mae dau newid ynghlwm wrth reoliadau 2016:
- Mae Rheoliad 2(2) yn mewnosod disgrifiad newydd o bersonau anabl sy’n cynnwys personau sydd dros 2 flwydd oed ac sydd ag anabledd dros dro ond sylweddol. Rhaid bod y person yn analluog i gerdded, neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded oherwydd yr anabledd a rhaid bod disgwyl i’r anabledd bara am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf; ac
- Mae rheoliad 2(3) yn darparu’r cyfnod y mae bathodynnau i gael eu rhoi i bersonau ag anableddau dros dro. Blwyddyn yw’r cyfnod rhoi.
Ymgynghoriad
Ym mis Mai 2015, comisiynodd cyn Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu'r Cynllun Bathodyn Glas. Cyhoeddwyd ei
adroddiad a'i argymhellion ym mis Tachwedd 2015.
Ym mis Ionawr 2016, cynhaliodd Llywodraeth Cymru
ymgynghoriad ar ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys pobl â namau dros dro. Yn yr ymgynghoriad, amlinellwyd:
- cynlluniau ar gyfer ymestyn meini prawf cymhwysedd y Cynllun i gynnwys pobl sydd â namau dros dro ac sydd angen triniaeth ac adfer sylweddol, sy'n effeithio ar eu symudedd; a
- chynigion i wneud y prosesau gweinyddol yn fwy effeithlon mewn achosion ble mae'r ymgeisydd wedi cael asesiad manwl yn flaenorol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaeth y cyn Weinidog
ddatganiad ar 31 Mawrth, gan dynnu sylw at y pwyntiau a ganlyn:
'Ni ellir cyflawni rhai o argymhellion y Grŵp [
Gorchwyl a Gorffen ar y Cynllun Bathodyn Glas] yn syth, am fod angen gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn eu gweithredu. Fodd bynnag, rwy'n glir fy mod am weld gwelliant o ran y modd y mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol.'
Mae Mark Isherwood AC wedi
galw am Fathodynnau Glas dros dro yn y gorffennol. Yn fwy diweddar
mae wedi galw am ddiwygio'r Cynllun.