Dadl ar gynnig deddfwriaethol gyda'r nod o ddiwygio a gwella cymorth i blant sy'n dioddef cam-drin rhywiol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mercher 3 Ebrill, bydd Bethan Sayed AC yn arwain dadl ar ei chynnig deddfwriaethol am fil i ddiwygio a gwella cymorth i blant sy'n dioddef cam-drin rhywiol yng Nghymru.

Diben y bil hwn fyddai:

  • cyflwyno'r Model Barnahus i gynnig cymorth therapiwtig i ddioddefwyr;
  • cydweithio â'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus i ymchwilio ym mhob achos o gam-drin plant yn rhywiol; a
  • cyflwyno newidiadau statudol i wella trefniadau llety brys a llety dros dro i blant sy'n cael eu cam-drin os na allant ddychwelyd i'w cartref neu os ydynt yn ddigartref.

Mae ei chynnig yn seiliedig ar bryderon a nodir mewn deiseb gan un o’i etholwyr sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan Bwyllgor Deisebau y Cynulliad.

Beth yw 'Barnahus'?

Ers 2016, treialwyd dau 'dŷ i blant' yn Llundain yn seiliedig ar fodel 'Barnahus' Gwlad yr Iâ. Argymhellwyd y dylid mabwysiadu'r model hwn mewn arolwg a gynhaliwyd yn 2005 gan GIG Lloegr o'r llwybr i blant a phobl ifanc yn Llundain yn dilyn cam-drin rhywiol. Mae'n disgrifio model Barnahus fel hyn:

In Iceland for example, when a child discloses sexual assault, an appointment is made at the Barnahus. An interview is conducted by a specially trained forensic interviewer (with a background in child psychology) in a child-friendly room which is video-linked to an observation room. The interview is witnessed by the child’s advocate, social worker, the defence and prosecution teams, with a Judge presiding. The Barnahus is effectively an outreach of the courtroom at that time and the recorded interviews usually suffice as the child’s full testimony for court. The interviews are reportedly more successful in obtaining information with increases in the number of prosecutions and convictions for CSA. Because the interviews are usually completed within one to two weeks of the initial allegation being made, this allows the child to start therapy quickly, either at the Barnahus or locally. The recorded interviews are also used to plan therapy and medical examinations / aftercare can also be provided at the Barnahus.

Mae’r datganiad i'r wasg hwn yn mynd yn ei flaen i ddisgrifio Barnahus drwy ddweud:

The model recognises the vulnerability of the child victim and the harm caused to the child by multiple interviews. The Barnahus in Iceland provides one place in which the child can have forensic interviews and make court statements, have medical examination and access therapeutic services, which are also available for the victim’s family. Since the Barnahus model was established in Iceland, the number of child victims of CSA coming forward for help has more than doubled per year, indictments have more than tripled, and convictions have more than doubled. The Barnahus model has since been exported to Norway, Greenland and Denmark, with pilots planned in Finland and Lithuania.

Tai Plant yn Llundain

Bydd dau dŷ cyntaf y DU i blant, wedi eu hariannu gan £7.2 miliwn a gafwyd gan Swyddfa'r Maer dros yr Heddlu a Throsedd (MOPAC) a GIG Lloegr (Llundain) o Gronfa Arloesi'r Swyddfa Gartref, yn cynnig cymorth ariannol, cymorth ymchwilio a chymorth emosiynol oll mewn un lle, gan gael gwared ar yr angen i ddioddefwyr ifanc fynd drwy'r orchest o orfod ailadrodd eu datganiad sawl gwaith i wahanol asiantaethau.

Mae'r datganiad i'r wasg yn mynd yn ei flaen i ddweud:

The new Child Houses, which will open next year, will build on the work of the CYP Haven. While the Haven offers an urgent 24/7 response, a predominantly clinical service and short term care and support, the Child Houses will provide a multi-agency, long-term support and advocacy service under one roof. Criminal justice aspects of aftercare will be embedded in the service, with evidence gathering interviews led by child psychologists on behalf of the police and social workers, and court evidence provided through video links to aid swifter justice.

[…]Based on the original Icelandic Barnahus model, which promotes a multiagency, interdisciplinary approach under one roof, the Houses will gather more effective evidence from interviews and offer faster progress in investigations and court cases.

Barn Comisiynydd Plant Lloegr

Yn 2016, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Lloegr, Anne Longfield adroddiad Report on Barnahus: improving the response to child sexual abuse in England. Ynddo, daeth i'r casgliad:

It is clear that the Barnahus represents a truly child-centred approach to child sexual abuse. Services are designed and administered in a manner consistent with the best possible criminal justice and therapeutic outcomes, and the results obtained are extremely impressive.

Experiences in Sweden, Norway and Denmark demonstrate that the model can be adapted and implemented within the legal framework of another country, without compromising the core principles which deliver such impressive results. It is now time for commissioners in England to look at how the model can be piloted here and adapted to our own legal system so as to help improve rates of prosecution and, ultimately, outcomes for children.

Ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru yn galw am fodel Barnahus yng Nghymru

Yn Rhagfyr 2018, ymatebodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, Huw Irranca-Davies AC i ohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau. Ynddo mae'n dweud bod casglu tystiolaeth i gefnogi'r broses erlyn yn golygu mai mater a gedwir yn ôl yw datblygu Tai Plant yn bennaf. Dywed y byddai'n ddoeth disgwyl am y gwerthusiad o Dai Plant yn Llundain. Mae ei ymateb i'r Pwyllgor yn cyfeirio hefyd at y trefniadau ariannu ar gyfer 'tai plant' a bod hynny'n debyg i'r trefniadau ariannu ar gyfer Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol.

Beth yw Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol?

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn wahanol i 'Dai Plant'. Maent yn gyfleusterau pob oedran lle mae nifer o weithwyr proffesiynol amrywiol, sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, wedi'u lleoli i gefnogi unigolion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Diben y Canolfannau yw darparu lleoliad unigol, diogel lle gall dioddefwyr ymosodiad rhywiol dderbyn gofal meddygol a chwnsela, yn ogystal â chynorthwyo ymchwiliadau’r Heddlu i droseddau honedig. Dylent gynnwys cyfleusterau sy'n addas ar gyfer safon uchel o archwiliad fforensig.

Barn Comisiynydd Plant Cymru

Mae'r Comisiynydd yn hwyluso ac yn cadeirio cyfarfod bord gron cenedlaethol am gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd yr Athro Sally Holland Adroddiad Blynyddol 2017-18 ac yn y datganiad i’r cyfryngau a gyhoeddwyd gyda’r adroddiad mae'n dweud:

Mae plant sydd wedi cael eu treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn wynebu amserau aros annerbyniol cyn cael help a chymorth.

Mae prif bryderon y Comisiynydd yn ymwneud â dau faes:

  • nid yw plant sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn cael mynediad i archwiliad meddygol fforensig yn ddigon cyflym ar ôl y digwyddiad trawmatig y maent wedi'i brofi, oherwydd prinder staff meddygol cymwys a phrofiadol addas, ac yn aml mae'n rhaid iddynt deithio pellter maith;
  • nid yw mynediad at gwnsela arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin rhywiol ar gael pan fo’i angen er mwyn i'r plant hynny ddechrau'r daith i adferiad.'

Aeth y Comisiynydd Plant ymlaen i argymell:

[…] y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod darpariaeth Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ar gyfer ardal pob bwrdd iechyd yn cynnwys mynediad 24/7 i rota o bediatregwyr ac archwilwyr meddygol fforensig sydd wedi’u hyfforddi’n addas, fel nad oes rhaid i unrhyw blentyn aros am oriau lawer neu hyd yn oed ddyddiau am archwiliad, a bod gwasanaethau cwnsela ac adferiad digonol ar gael i ddioddefwyr ledled Cymru.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi:

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno na ddylai unrhyw un, boed yn oedolyn neu’n blentyn, orfod aros am wasanaethau ar ôl unrhyw achos o drais rhywiol. Gofal ac anghenion y dioddefwr ddylai fod yr ystyriaeth bennaf ym mhob gwasanaeth.

Cafwyd problemau ynghylch darpariaeth gwasanaethau paediatrig yn y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae’r GIG yn arwain gwaith i ddatblygu model cynaliadwy a phriodol o wasanaethau ymosodiadau rhywiol ledled de, gorllewin Cymru a Phowys. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â’r Heddlu, asiantaethau diogelu, trydydd sector ac eraill ac yn cynnwys ystyried gwasanaethau plant. Bydd gwaith yn parhau gydol 2018 ac ymlaen i 2019. Yn y cyfamser, mae’r GIG yn gweithio gyda’i bartneriaid i sicrhau y gellir cynnig darpariaeth Archwilwyr Meddygol paediatrig a Fforensig ar gyfer plant yn amserol ac yn unol ag anghenion y person ifanc.

Y camau nesaf

Diben y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn yw rhoi cyfle i Aelodau unigol drafod syniadau posibl ar gyfer deddfwriaeth, a gweld beth yw lefel y gefnogaeth yn y Cynulliad y tu allan i'r broses ddeddfwriaethol ffurfiol. Ni fyddai'r cynnig, os câi ei gytuno, yn cael effaith sy'n rhwymo ac ni fyddai gofyniad i Lywodraeth Cymru, Aelod unigol, un o bwyllgorau'r Cynulliad, na Chomisiwn y Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth yn sgil derbyn y cynnig.

Ym mis Chwefror 2019, nododd Comisiynydd Plant Cymru ei barn ar y galwadau i ddatblygu model Barnahus yng Nghymru.

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi darparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor Deisebau am y mesurau cyfredol sydd ar waith i ddiogelu plant sy'n adrodd am gam-drin rhywiol ac sydd angen eu hamddiffyn rhag cam-drin rhywiol.

Mater i Aelodau'r Cynulliad fydd trafod rhinweddau model Barnahus yng Nghymru. Beth bynnag yw eu barn ar yr agwedd honno ar gynnig deddfwriaethol Bethan Sayed, bydd y ddadl hon yn gosod mesurau diogelu plant ar agenda'r Cynulliad unwaith yn rhagor.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru