Dadl ar adroddiad Pwyllgor ar y Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig

Cyhoeddwyd 26/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

26 Ebrill 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 3 Mai, bydd Aelodau’r Cynulliad yn dadlau ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig [PDF 955KB] a gyhoeddwyd ar 21 Chwefror 2017. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ganlyniadau addysgol y grwpiau hyn o ddysgwyr ac roedd yn trafod:
  • Sut y caiff defnydd awdurdodau lleol o arian i gefnogi dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig ei fonitro;
  • Effeithiolrwydd polisïau a strategaethau eraill i gefnogi'r grwpiau hyn; a
  • Materion allweddol sy'n codi yn sgil cyfuno'r grantiau a oedd yn arfer bod ar wahân yn un Grant Gwella Addysg.

Beth yw'r Grant Gwella Addysg?

Sefydlwyd y Grant Gwella Addysg ym mis Ebrill 2015 pan gyfunwyd 11 o grantiau a neilltuwyd a oedd yn cael eu rhoi yn flaenorol i awdurdodau lleol. Roedd y rhain yn cynnwys Grant i Blant Sipsiwn a Theithwyr, a'r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfuno'r grantiau hyn yn arwain at fwy o hyblygrwydd ac arbedion gweinyddol. Ar yr un pryd â chreu un grant yn 2015-16, lleihawyd cyfanswm cyllid Llywodraeth Cymru 8%. Yn y flwyddyn olaf, yn 2014-15, cyfanswm y grantiau blaenorol a gafodd eu cyfuno i ffurfio'r Grant Gwella Addysg oedd £153 miliwn. Bu gostyngiadau bob blwyddyn ac yn 2017-18, roedd y Grant Gwella Addysg werth £133 miliwn. Caiff y Grant Gwella Addysg ei weinyddu gan y pedwar consortiwm rhanbarthol, ac mae awdurdodau lleol yn rhannu eu gwasanaethau gwella ysgolion drwy'r rhain. Mae telerau ac amodau'r grant yn pennu cyfres o ofynion ar gyfer sut y dylid defnyddio'r arian. Mae'r rhain yn gymharol gyffredinol o ran eu natur ac yn cyd-fynd yn fras â blaenoriaethau cynllun gwella addysg Llywodraeth Cymru, Cymwys am Oes.

Beth wnaeth y Pwyllgor ddarganfod

Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor (PDF 955KB) 14 o argymhellion, y gwnaeth Llywodraeth Cymru wrthod un ohonynt a derbyn neu dderbyn mewn egwyddor y gweddill. Roedd prif bryderon y Pwyllgor yn ymwneud â gwaith monitro a gwerthuso effaith y Grant Gwella Addysg. Dywedodd y Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru gael ‘gafael llawer cadarnach’ ynghylch y ffordd y caiff y grant ei monitro a'i gwerthuso, gan ddod i'r casgliad:
Bu'r Grant Addysg Plant Teithwyr a Phlant Sipsiwn a'r Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig blaenorol yn destun systemau monitro ac atebolrwydd trylwyr yr ymddengys eu bod wedi diflannu i raddau helaeth ers cyflwyno'r GGA. Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet rôl y pedwar consortiwm rhanbarthol ac awdurdodau lleol eu hunain wrth fonitro'r deilliannau ac effaith (…) Fodd bynnag, derbyniodd y Pwyllgor ychydig iawn o dystiolaeth ynghylch sut y mae'r consortia a'r awdurdodau lleol yn ymgymryd â monitro o'r fath.
Nododd y Pwyllgor:
  • Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu sut y dylai consortia rhanbarthol ddyrannu cyllid at ddibenion gwahanol y Grant Gwella Addysg cyfunedig nac yn olrhain ei wariant;
  • Ychydig o ganllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru heblaw am yr amcanion lefel uchel ar gyfer defnyddio'r grant;
  • Rôl y consortia rhanbarthol yw monitro a gwerthuso defnydd y grant, er nid oedd llawer o arwydd bod hyn yn digwydd;
  • Ni fu llawer o gynnydd ar ‘fframwaith canlyniadau’ a fwriadwyd i lywio gwariant y grant;
  • Roedd beirniadaeth o lefel yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a wnaed ar yr adeg y penderfynwyd cyfuno'r grantiau.
Gwnaeth y Pwyllgor argymhelliad cyffredinol y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu beth yw'r model ariannu gorau ar gyfer cefnogi canlyniadau addysgol y grwpiau hyn o ddysgwyr. Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar y cwestiwn hwn ac yn asesu a fu cyflwyno'r Grant Gwella Addysg yn fuddiol erbyn diwedd 2020. Gwnaeth y Pwyllgor ystod o argymhellion wedi'u hanelu at wella gwaith monitro ac effaith y grant. Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb  (PDF 405KB) ei bod yn ymrwymedig i adolygu'r Grant Gwella Addysg yn ei drydedd flwyddyn ac y bydd yn rhoi fframwaith canlyniadau cryfach ar waith yn 2017-18. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal asesiad effaith diweddar a thrylwyr o'r penderfyniad i gyfuno'r grantiau. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan nodi nad yw o'r farn y byddai unrhyw fudd yn sgil edrych unwaith eto ar yr asesiadau effaith a wnaed yn flaenorol.

Cyrhaeddiad Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystadegau diweddar, Cyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion ar 31 Ionawr 2017, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor. Roedd yr ystadegau yn dangos mai plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr oedd â'r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru, er y bu gwelliannau. Yn ystod 2014-2016, cododd cyfran y disgyblion Sipsiwn/Sipsiwn Roma a gyrhaeddodd trothwy Lefel 2 yn gynhwysol (5 neu fwy TGAU graddau A*-C gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg) i 24.4%. Hefyd, cododd y gyfradd ar gyfer pob disgybl i 59.0%, sy'n golygu y bu gostyngiad yn y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion Sipsiwn/Sipsiwn Roma a'u cyfoedion, o 40.5 pwynt canran i 34.6. Roedd gostyngiad yn y bwlch gyda disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, o 12.3 pwynt canran yn 2013-2015 i 7.2 yn 2014-16. Mae dysgwyr du a lleiafrifoedd ethnig yn grŵp llai unffurf ac mae'r cyfraddau cyrhaeddiad yn amrywio'n sylweddol ar draws gwahanol grwpiau ethnig. Mae cyfraddau cyrhaeddiad ar gyfer y trothwy lefel 2 yn gynwysedig gan ddisgyblion o ethnigrwydd cymysg Gwyn a Du Caribïaidd (47.4%), Du Caribïaidd (40.0%) a Du Affricanaidd yn arbennig o isel yn 2014-16 na'r cyfartaledd ar gyfer pob disgybl (59.0%). Fodd bynnag, mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill yn perfformio'n well na'u cyfoedion. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Estyn gynnal adolygiad thematig o ddarpariaeth addysgol y grwpiau hyn o ddysgwyr. Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth y gellir ei wneud i wella canlyniadau addysgol y grwpiau penodol hyn o ddysgwyr y mae eu cyrhaeddiad yn is na'r cyfartaledd. Tra'n tynnu sylw at yr ystod o ganllawiau, adnoddau ac offer sydd ar waith i gefnogi'r grwpiau hyn o ddysgwyr, roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy. Cynhaliodd Estyn adolygiad byr hefyd o effaith y gwasanaethau a chymorth addysgol presennol ar ganlyniadau addysgol y dysgwyr hyn yn 2018-2019.

Ariannu a data

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth, ers 2009-2010, fod cyllid ar gyfer ymyriadau penodol i gefnogi canlyniadau addysgol dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr a dysgwyr lleiafrifoedd ethnig wedi lleihau, cymaint â 50% fesul disgybl. Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod tystiolaeth arall yn awgrymu nad yw hynny o reidrwydd yn wir. Awgrymodd consortia ac awdurdodau lleol fod anawsterau wedi bod yn cynllunio darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol yng nghanol ansicrwydd dros ariannu yn y dyfodol. Roedd tystiolaeth hefyd yn awgrymu mai un o'r effeithiau o gael gwared ar y grant penodol ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr oedd bod y data ar nifer y dysgwyr hyn yn llai cywir nawr. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i ddeall faint o arian sydd ar gael i gefnogi'r dysgwyr hyn a sut y gellir cofnodi data mwy dibynadwy a chywir ar nifer y disgyblion. Cytunodd Llywodraeth Cymru â'r argymhellion hyn mewn egwyddor

Cyfuno'r grantiau

Clywodd y Pwyllgor negeseuon cymysg ar y penderfyniad i gyfuno'r grantiau. Ar un llaw, ystyriwyd bod cael un ffrwd ariannu yn symlach ac yn llai biwrocrataidd ac yn fwy hyblyg, gyda chonsortia yn gallu defnyddio'r arian sy'n diwallu anghenion lleol yn fwyaf addas. Ond clywodd y Pwyllgor hefyd y gellir ystyried bod diffyg grantiau penodol wedi'u neilltuo yn rhoi llai o flaenoriaeth i grwpiau penodol o ddisgyblion. Nid oedd yn glir a fu effaith negyddol y gellir ei phriodoli'n uniongyrchol i gyfuno'r grantiau hyn. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn credu ei bod yn amlwg na allai Llywodraeth Cymru fod yn sicr mai dyma'r achos ac felly argymhellwyd fod y cyfuno yn cael ei adolygu'n ddiweddarach yn y Cynulliad hwn.

Y cyd-destun ehangach o wella canlyniadau i bob dysgwr

Clywodd y Pwyllgor mai polisi Llywodraeth Cymru oedd cefnogi gwelliant i'r grwpiau hyn o ddisgyblion fel rhan o'r gwelliant i bob dysgwr yng Nghymru. Mae gan y Pwyllgor amheuon am y dull hwn ac yn credu:
ei bod yn rhy uchelgeisiol ac afrealistig i ddisgwyl y bydd canolbwyntio ar bob disgybl, hyd yn oed yn gyffredinol ar y rheini o gefndiroedd difreintiedig fel y mesurir yn ôl pwy sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn rhaeadru yn ddigon pell i lawr i grwpiau penodol o ddysgwyr fel plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a phob un o'r gwahanol grwpiau ethnig yng Nghymru.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei ffocws a thargedu cyllid yn fwy penodol ar ddeilliannau addysgol dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a grwpiau lleiafrifoedd ethnig sydd â chyrhaeddiad is na'r cyfartaledd. Mae'n dweud na ddylai ymdrechion o'r fath ‘ddibynnu'n llwyr ar fentrau mwy cyffredinol i godi cyrhaeddiad pawb’.

Sut i ddilyn y drafodaeth

Bydd dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael ei chynnal am tua 3.00yh yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 3 Mai 2017. Gellir gwylio ar SeneddTV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod y Trafodion.
Erthygl gan Sian Hughes a Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Dadl ar adroddiad Pwyllgor ar y Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig (PDF, 253KB)