dafad

dafad

Cytundebau masnach y DU ag Awstralia a Seland Newydd: beth yw eu harwyddocâd i Gymru?

Cyhoeddwyd 23/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/08/2022   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn ei phenderfyniad i ymadael â’r UE, mae gan y DU y gallu i negodi a llofnodi ei chytundebau masnach ei hun. Mae Llywodraeth y DU wedi pennu targed yn y cyd-destun hwn, sef y bydd 80 y cant o fasnach ryngwladol y DU yn ddarostyngedig i gytundebau masnach rydd erbyn diwedd 2022. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn negodi â gwledydd eraill ledled y byd i’r perwyl hwn. 

Llofnododd y DU gytundeb masnach rydd ag Awstralia ym mis Rhagfyr 2021. Dau fis yn ddiweddarach, llofnododd gytundeb â Seland Newydd ym mis Chwefror 2022.  

Dyma’r cytundebau masnach rydd newydd cyntaf y mae’r DU wedi’u negodi a’u cwblhau o’r cychwyn cyntaf ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, yn sgil cytundebau masnach rydd newydd cyntaf y DU, pa wersi y gallwn eu dysgu ynghylch dull Llywodraeth y DU o ymdrin â pholisi masnach yn dilyn Brexit? Pa effaith fydd y cytundebau hyn yn ei chael ar Gymru, ei heconomi, a’r bobl sy’n byw yma?

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd?

Mae'r ddau gytundeb yn cwmpasu nifer o feysydd a geir yn aml mewn cytundebau masnach rydd, gan gynnwys masnach mewn nwyddau a gwasanaethau, rheolau tarddiad, rhwystrau technegol i fasnach a gweithgarwch caffael y llywodraeth.

Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â mesurau iechydol a ffytoiechydol (SPS) (hynny yw, diogelwch bwyd ac iechyd anifeiliaid a phlanhigion), a phenodau ar fusnesau bach a lles anifeiliaid. Mae’r penodau sy’n ymwneud â’r amgylchedd yn cadarnhau’r ymrwymiadau a wnaed o dan gytundebau amgylcheddol amlochrog, gan gynnwys Cytundeb Paris 2015.

Beth am dariffau?

Bydd y cytundebau, yn y pen draw, yn dileu tariffau ar holl allforion y DU sy’n gymwys fel eitemau sy’n tarddu o’r DU. Mae trefniadau trosiannol ar waith ar gyfer rhai nwyddau rhwng y DU ac Awstralia, lle y bydd tariffau’n cael eu lleihau’n raddol dros gyfnod o amser.

Bydd y rhan fwyaf o dariffau ar nwyddau sy’n tarddu o Awstralia sy’n cael eu hallforio i’r DU hefyd yn cael eu dileu (ac eithrio porc, y rhan fwyaf o gynhyrchion dofednod ac wyau, a reis grawn hir). Yn y cyfamser, bydd yr holl dariffau ar nwyddau sy’n tarddu o Seland Newydd sy’n cael eu hallforio i’r DU yn cael eu dileu.  Mae’r ddau gytundeb yn cynnwys dull graddol o ddileu tariffau ar rai nwyddau amaethyddol sy'n cael eu hallforio o Awstralia a Seland Newydd i'r DU – fel cynnyrch llaeth, cig eidion a chig defaid – er mwyn mynd i’r afael â sensitifrwydd cynnyrch penodol yn y DU.

Beth yw effeithiau tebygol y cytundebau?

Mae cytundebau masnach newydd yn aml yn arwain at 'enillwyr a chollwyr'. Mae Llywodraeth y DU wedi dadlau y gall negodi a llofnodi cytundebau masnach newydd sy’n lleihau rhwystrau masnach arwain at gyfleoedd newydd i fusnesau, gwella cynhyrchiant yn sgil mwy o gystadleuaeth, a chynnig mwy o ddewis a phrisiau is i ddefnyddwyr. Serch hynny, gall agor sectorau sensitif fel bwyd-amaeth niweidio busnesau yn sgil mwy o gystadleuaeth, yn enwedig os bydd gwahaniaeth yn safonau’r cynhyrchion.

Yn gyffredinol, mae effaith economaidd y ddau gytundeb yn gyfyngedig. Mae asesiad effaith Llywodraeth y DU ar gyfer y cytundeb ag Awstralia yn amcangyfrif y bydd y cytundeb yn cynyddu cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) y DU 0.08 y cant, neu £2.3 biliwn, erbyn 2035. Amcangyfrifir y bydd gwerth cyffredinol y cytundeb â Seland Newydd yn is, gyda GDP y DU yn cynyddu 0.03 y cant, neu £0.8 biliwn erbyn 2035.

Amcangyfrifir y bydd Cymru yn gweld newid o 0.09 y cant, neu tua £60 miliwn, yn ei Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) erbyn 2035 o ganlyniad i’r cytundeb ag Awstralia. Yn y cyfamser, disgwylir i’r cytundeb â Seland Newydd arwain at newid o 0.02 y cant, neu tua £16 miliwn, mewn GVA.

Disgwylir i’r ddau gytundeb gael effeithiau amrywiol ar draws sectorau gwahanol. Y sectorau yn y DU y disgwylir iddynt elwa fwyaf yw gweithgynhyrchu cerbydau modur a gweithgynhyrchu peiriannau ac offer. Mae asesiad Llywodraeth Cymru o'r cytundebau ag Awstralia a Seland Newydd yn nodi y bydd y cytundebau yn rhoi cyfleoedd i fusnesau Cymru mewn meysydd fel gwasanaethau a symudedd. Fodd bynnag, mae hefyd yn codi pryderon am yr effaith bosibl ar amaethyddiaeth yng Nghymru.

Nid yw asesiadau Llywodraeth y DU yn cynnwys amcangyfrifon fesul sector ar gyfer Cymru. Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi galw am sicrhau bod cytundebau masnach yn y dyfodol yn cynnwys asesiadau o’r effeithiau ar sectorau ac is-sectorau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, NFU Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi galw hefyd am asesiad effaith sy’n benodol i Gymru mewn perthynas â chytundebau masnach yn y dyfodol.

Pryderon am yr effaith ar amaethyddiaeth yng Nghymru

Mae Awstralia a Seland Newydd yn allforwyr mawr a chystadleuol ym maes nwyddau amaethyddol. Felly, nid yw'n syndod bod llawer o'r ddadl ynghylch y cytundebau hyn wedi canolbwyntio ar yr effaith bosibl ar y sector bwyd-amaeth. 

Ledled y DU, mae disgwyl i’r sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota weld gostyngiad o 0.7 y cant (£94 miliwn) mewn GVA yn sgil y cytundeb ag Awstralia, ac mae disgwyl i’r sector bwydydd wedi’u lled-brosesu weld gostyngiad o 2.65 y cant (£225 miliwn).

Disgwylir i’r cytundeb â Seland Newydd arwain at ostyngiad o 0.35 y cant (£48 miliwn) ac 1.16 y cant (£97 miliwn) mewn GVA ar gyfer y sectorau dan sylw.  Ar gyfer y sector amaethyddiaeth a’r sector bwydydd wedi'u lled-brosesu, disgwylir i'r effeithiau hyn gael eu gyrru gan fwy o gystadleuaeth ar ffurf mewnforion o Awstralia yn y sector cig eidion a’r sector cig defaid, ac o Seland Newydd yn y sector cig eidion.

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'r naill gytundeb na'r llall yn darparu unrhyw gyfleoedd sylweddol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru, a bod gwella mynediad i’r farchnad ar gyfer cynhyrchwyr o Awstralia a Seland Newydd yn peri nifer o bryderon. Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn darogan y bydd yr effaith negyddol a amcangyfrifir ar gyfer amaethyddiaeth yn taro Cymru mewn modd anghymesur o gymharu â rhannau eraill o’r DU, a hynny oherwydd ei dibyniaeth ar gig eidion a chig defaid.

Mae Llywodraeth y DU yn haeru y bydd y cytundebau ag Awstralia a Seland Newydd yn creu cyfleoedd newydd i allforwyr bwyd a diod, a bod mesurau penodol ar waith i ddiogelu ffermwyr mewn perthynas â’r ddau gytundeb. Mae hefyd yn dweud nad yw'n rhagweld cynnydd mawr mewn mewnforion cig defaid o Seland Newydd gan nad yw Seland Newydd yn defnyddio ei chwota WTO presennol ar gyfer allforio cig oen i'r DU. 

Beth nesaf?

Mae llofnodi’r cytundebau masnach gyda Seland Newydd ac Awstralia yn gam geowleidyddol arwyddocaol. Mae'n cefnogi uchelgais Llywodraeth y DU i sicrhau bod y DU yn ymuno â’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer ardal masnach rydd Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) – cytundeb masnach rydd rhwng 11 o wledydd o amgylch y Môr Tawel, gan gynnwys Awstralia a Seland Newydd. Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio dod â’r trafodaethau hyn i ben erbyn diwedd 2022.

Cyn y gall y naill gytundeb ddod i rym, rhaid i'r DU, Seland Newydd ac Awstralia gwblhau gweithdrefnau domestig amrywiol. Ar ochr y DU, mae’r cytundeb ag Awstralia wedi cwblhau ei daith drwy broses graffu Senedd y DU. Nid yw’r cytundeb â Seland Newydd wedi’i osod gerbron Senedd y DU eto er mwyn cychwyn y broses honno.

Mae'r Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) yn mynd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae'r Bil yn gweithredu rhwymedigaethau caffael y Llywodraeth sy'n deillio o'r cytundebau. Rhaid i’r Bil gael ei basio a rhaid iddo gael cydsyniad brenhinol cyn i’r cytundebau ddod i rym. Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil gerbron y Senedd ym mis Mai 2022.


Erthygl gan Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru