Cyrraedd pen y daith! A allwn ni ddatrys y prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm?

Cyhoeddwyd 21/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, a materion logistaidd cysylltiedig, wedi’i gwneud hi’n anodd i fusnesau Cymreig symud nwyddau. Mae hyn wedi arwain at silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd a phrinder tanwydd, ac wedi amharu ar fasnach drawsffiniol. Ond beth arweiniodd at yr hyn y mae'r diwydiant wedi'i alw'n ‘argyfwng prinder gyrwyr’? A beth sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn? 

Beth achosodd y prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm?  

Pan oedd yr argyfwng yn ei anterth, amcangyfrifwyd ein bod rhwng 60,000 a 100,000 o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn brin ledled y DU.

Bu prinder gyrwyr a gweithwyr logisteg yn y DU ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi dweud bod nifer o ffactorau wedi'u cyfuno i greu storm berffaith, gan arwain at fwy o alw am yrwyr ledled y DU.

Dywedodd Logistics UK, sef y corff sy’n cynrychioli’r diwydiant logisteg, fod effeithiau cyfunol Brexit a phandemig COVID-19 wedi troi’r prinder hwn yn argyfwng acíwt. Mae llawer o yrwyr o’r Undeb Ewropeiadd wedi dychwelyd i weithio yn eu gwledydd eu hunain a chafodd profion gyrwyr cerbydau nwyddau trwm eu rhoi ar stop yn ystod y pandemig oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol.

Mae gweithlu sy'n heneiddio, diffyg amrywiaeth a chanfyddiadau negyddol o amodau gwaith wedi cyfrannu at brinder gyrwyr hefyd.

Beth mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’i wneud?

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod llawer o’r arfau i fynd i'r afael â'r prinder gyrwyr, gan gynnwys trwyddedu gyrwyr, gwasanaethau cludo nwyddau ar y ffyrdd a mewnfudo, yn faterion sydd wedi’u cadw’n ôl.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod wedi cymryd ystod o gamau gweithredu gan gynnwys dyrannu £32.5 miliwn ar gyfer cyfleusterau ymyl ffordd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei siom bod y camau hyn wedi’u cymryd mewn perthynas â Lloegr yn unig.

Ac eto, mae sawl arf allweddol a allai fynd i’r afael â’r materion sydd wedi’u datganoli. Er enghraifft, gallai polisi rheoli’r priffyrdd a’r rhwydwaith fynd i'r afael â thagfeydd. Hefyd, gallai cynllunio ar gyfer defnydd tir a rheoliadau adeiladu ysgogi gwelliant yn nifer a safon yr arosfannau tryciau a chyfleusterau warws.

Mae sgiliau a hyfforddiant hefyd yn feysydd lle gall Llywodraeth Cymru ymyrryd. Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yr hyn a ganlyn wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ym mis Tachwedd 2021:

… what we are trying to do is look at how we can try to assist people to gain the training, to be able to go through and then achieve the licences to be able to address what is a shortage area in the economy.

Polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru yn 2008. Roedd y strategaeth hon yn nodi nifer o faterion ynghylch cludo nwyddau ar y ffyrdd, gan adlewyrchu'r materion a godwyd gan y sector fel achosion y prinder gyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys diffyg sgiliau, tagfeydd ar y ffyrdd, ffyrdd gwledig anaddas ac ansawdd cyfleusterau i yrwyr. Mae'r camau gweithredu a nodir yn y strategaeth yn gyson â'r camau sydd angen eu cymryd i fynd i'r afael â’r materion a’r pryderon presennol.

Nid yw’n glir i ba raddau y cafodd y strategaeth ei gweithredu. Yn ôl tystiolaeth ysgrifenedig y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, yn wahanol i Loegr nid oes gan Gymru restr genedlaethol o gyfleusterau parciau lorïau. Dywedodd yr Athro Andrew Potter o’r Sefydliad Siartredig wrth y Pwyllgor:

I think having a strategy helped to give a lot of focus to freight. I think it's given leverage to be able to do things, and it has given that awareness of what's there. Could it have done better? Well, I suppose with hindsight you can always judge that maybe there were different things that could have happened, but I think the fact that it existed and that at Welsh Government it still gets referred to shows that there is that awareness of freight.

Ar yr un pwynt, dywedodd Sally Gilson o'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd:

I suppose that we wouldn't perhaps be having the discussion that we're having right now if it had been completely successful.

Disgwylir i strategaeth cludo nwyddau 2008 gael ei disodli maes o law. Mae strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn cynnwys 'cynllun bach' ar gyfer cludo nwyddau a logisteg. Mae’r cynllun hwn yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a’r sector ar “Gynllun Logisteg a Chludo Nwyddau ar gyfer Cymru”. Mae'r cynllun bach hefyd yn cyfeirio at nifer o faterion perthnasol, fel cymorth i feithrin sgiliau, integreiddio nwyddau a logisteg i ddatblygiadau yn well, a symud nwyddau oddi ar y ffyrdd tuag at y rheilffyrdd a dŵr.

Beth ganfu’r Pwyllgor?

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm ym mis Ionawr. Gwnaeth 11 o argymhellion ar gyfer gwelliannau i gefnogi’r diwydiant. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr holl argymhellion. Roedd yr argymhellion yn amrywio o adolygu oriau gwaith gyrwyr, safon cyfleusterau a mannau gorffwys gyrwyr, a hyfforddiant a recriwtio yn y diwydiant.

Fel rhan o'i ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor gan yrwyr am eu profiadau o gyfleusterau gwael mewn mannau gorffwys a gorsafoedd gwasanaeth. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad a chreu rhestr genedlaethol o gyfleusterau gorffwys i yrwyr. Hefyd, galwodd ar y Llywodraeth i ddiweddaru polisïau cynllunio i sicrhau cyfleusterau o ansawdd uchel i yrwyr.

Yn ei hymateb i argymhellion y Pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru y bydd llawer o’r materion hyn yn cael sylw drwy’r Cynllun Logisteg a Chludo Nwyddau newydd ar gyfer Cymru, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn 2024.

Hefyd, galwodd y Pwyllgor am welliannau i’r diwydiant ac am i weithredwyr safleoedd gorffwys gyflwyno system safonau gwirfoddol sy’n dangos lefel cysur a diogelwch mannau gorffwys i yrwyr. 

Beth nesaf?

Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â’r diwydiant, weithredu i ymdrin â'r materion cymhleth niferus a arweiniodd at yr argyfwng prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.

Yn ôl Logistics UK, mae'n ymddangos bod niferoedd gyrwyr yn sefydlogi, gyda nifer y profion gyrru sy’n cael eu cynnal yn cynyddu ers llacio’r cyfyngiadau COVID. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn rhybuddio y gallai’r cynnydd byd-eang ym mhrisiau tanwydd ddwysáu’r problemau a wynebir gan y sector ymhellach.

Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar brinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm ar 23 Mawrth 2022. Gallwch ddilyn y ddadl ar Senedd.tv.

Erthygl gan Rhun Davies a Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru