- Coch: Bygythiad uniongyrchol i fywyd (rhywun mewn perygl agos o farwolaeth, fel trawiad ar y galon). Y targed yw i 65% o'r ymatebion brys gyrraedd o fewn 8 munud;
- Ambr: Difrifol ond dim bygythiad uniongyrchol i fywyd (cleifion sydd angen triniaeth yn y fan a’r lle ac a allai fod angen mynd i’r ysbyty);
- Gwyrdd: Dim brys (yn aml gellir rheoli’r mater gan wasanaethau iechyd eraill) ac asesiad clinigol dros y ffôn.
- Cafwyd 39,864 o alwadau brys, cyfartaledd o 1,286 y dydd, 4.3% i lawr o’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Rhagfyr 2016.
- O’r cyfanswm, roedd 1,980 (5.0%) yn goch, 26,456 (66.4%) yn felyn ac 11,428 (28.7%) yn wyrdd.
- Cyrhaeddodd 75.4% o ymatebion brys i alwadau coch o fewn 8 munud, sy’n uwch na’r targed o 65%, ond yn is na’r 75.8% a gofnodwyd ym mis Rhagfyr 2016.
- Roedd amrywiaeth yn y perfformiad, o 66.2% ym Mhowys i 79.5% yng Nghaerdydd a’r Fro.
Mae’n destun balchder i mi ein bod wedi cymryd cam ymlaen ar gyfer cleifion trwy gynnal cynllun peilot ar fodel ymateb clinigol gyda'r bwriad o flaenoriaethu cleifion y mae angen ymyriad clinigol brys arnynt. Bwriad y cynllun peilot yw galluogi clinigwyr ac adnoddau ambiwlans i gael eu dyrannu’n briodol ar sail angen clinigol.Cyfeiriwyd hefyd yn yr ymateb at y cynnydd a wnaed fis ar ôl mis mewn cymhariaeth â’r targedau, a chyhoeddi’r set gyntaf o Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans newydd ym mis Ionawr 2016. Nododd y Dirprwy Weinidog hefyd mewn gohebiaeth bellach i'r Pwyllgor:
Yn ystod cyfnod cynllun peilot y model ymateb clinigol, a fydd yn para blwyddyn, bydd data AQI yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o dueddiadau ac effaith amrywiadau tymhorol. Cyhoeddir y rhain ochr yn ochr â'r amseroedd ymateb 'Coch' a gyhoeddir yn fisol. Fel yr wyf wedi dweud eisoes, mae'r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth allweddol ynghylch gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn golygu bod ein dull gweithredu y mwyaf tryloyw yn y DU ac ymysg y mwyaf tryloyw ledled y byd.Adolygu’r model ymateb clinigol Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn Datganiad Ysgrifenedig ym mis Medi 2016 bod disgwyl i adroddiad gwerthuso terfynol y model ymateb clinigol gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 ac y byddai'n gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y cynllun peilot erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Nid oedd adroddiad interim ar y model a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ym mis Medi 2016 yn nodi unrhyw bryder sylweddol. Mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd wedi cael diweddariad am ddrafft terfynol yr adroddiad gwerthuso, sy'n nodi:
…the removal of time based targets for the majority of calls has allowed for more efficient dispatching of ambulance resources, increased opportunities for hear and treat; and supported timely responses to patients with the greatest clinical need.Roedd disgwyl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys gael gweld yr adroddiad gwerthuso terfynol ym mis Ionawr 2017 cyn ei gyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y mae disgwyl iddo wneud datganiad ynghylch y gwerthusiad i'r Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2017.
Llun gan Diluvienne o Flickr. Dan drwydded Creative Commons. Erthygl gan Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru