Cynllunio yng Nghymru - dod o hyd i wybodaeth

Cyhoeddwyd 10/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

03 Mawrth 2016 Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru UA CY A ydych chi'n ymdrin â materion cynllunio yng Nghymru ac am gael gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth am sut mae'r system gynllunio'n gweithio? Dylai'r cofnod hwn fod yn ddefnyddiol, gan ei fod yn rhoi cysylltiadau uniongyrchol i gyhoeddiadau'r Gwasanaeth Ymchwil am gynllunio, ac i rai o brif ddogfennau cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn dweud wrthych ble i gael ragor o wybodaeth. Cynulliad Cenedlaethol Cymru Hysbysiadau Hwylus ar Gynllunio gan y Gwasanaeth Ymchwil (mae'r rhain yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd): 1:       Polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru (PDF, 183KB) - Mai 2011 2:       Polisi cynllunio lleol yng Nghymru (PDF, 177KB) - Tachwedd 2013 3:       Datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt (PDF, 182KB) – Mai 2014 4:       Caniatâd cynllunio (PDF, 171KB) – Mai 2011 5:       Galw ceisiadau cynllunio i mewn (PDF, 158KB) – Mai 2011 6:       Apeliadau (PDF, 160KB) – Mai 2011 7:       Gorfodi (PDF, 160KB) – Mai 2011 8:       Offer telathrebu (PDF, 173KB) – Mai 2011 9:       Cynlluniau ynni adnewyddadwy graddfa fach (PDF, 199KB) – Hydref 2012 10:     Asesu Effeithiau Amgylcheddol (PDF, 177KB) – Rhagfyr 2012 11:     Asesiad Amgylcheddol Strategol (PDF, 166KB) – Rhagfyr 2012 12:     Ardoll Seilwaith Cymunedol (PDF, 246KB) – Mehefin 2015 13:     Cynllunio - cytundebau Adran 106 (PDF, 246KB) – Gorffennaf 2015 Papur gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cymharu’r systemau cynllunio ym mhedair gwlad y DU (PDF, 588KB) –  Ionawr 2016 Crynodeb o Fil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Bil Cynllunio (Cymru) (PDF, 220KB) – Rhagfyr 2014 Tudalennau deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 Hysbysiad Hwylus ar y Rheoliadau Adeiladu (PDF, 184KB) Ionawr 2012 Llywodraeth Cymru Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 7 - Gorffennaf 2014 Nodiadau Cyngor Technegol Polisi cynllunio mwynau Nodyn Cyngor Technegol Mwynau Gwybodaeth am Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 Gwybodaeth am weithdrefnau Llywodraeth Cymru o ran galw ceisiadau cynllunio i mewn a cheisiadau sydd i'w penderfynu gan y Gweinidog. Rholiadau Adeiladu ar gyfer Cymru. Un o asiantaethau gweithredol Llywodraeth Cymru yw'r Arolygiaeth Gynllunio. Ffynonellau eraill Mae 25 o Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio ac mae pob un yn gyfrifol am lunio Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ei ardal. Mae cysylltiadau i bob Awdurdod Cynllunio Lleol ar gael o'r map isod. Cliciwch ar enw'r awdurdod ar y map er mwyn agor y dudalen sydd ei hangen arnoch. Mae'r Porth Cynllunio yn cynnig gwybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru (dewiswch y safle Gymraeg ar frig ochr dde'r hafan ddalen). Sefydliad elusennol yw Cymorth Cynllunio Cymru sy'n helpu unigolion a chymunedau cymwys i gymryd rhan fwy effeithiol yn y system gynllunio. Mae'n cynnig gwasanaethau cynghori, gan gynnwys llinell gymorth. Mae ganddo nifer o gyhoeddiadau hefyd (ond nid yw rhai ohonynt wedi cael eu diweddaru ers tro). Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru yw'r corff sy'n cynrychioli cynllunwyr proffesiynol yng Nghymru. Comisiwn Dylunio Cymru sy'n hyrwyddo arferion cynllunio da yn yr amgylchedd adeiledig: o ran adeiladau, mannau a thir cyhoeddus. Manylion cyswllt Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru: Yr Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ E-bost planning.division@cymru.gsi.gov.uk Ffôn 0300 0603300 neu 0845 010 3300 Manylion cyswllt yr Arolygiaeth Gynllunio: Yr Arolygiaeth Gynllunio Adeiladau’r Goron Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Ffôn: 029 2082 3866 E-bost wales@pins.gsi.gov.uk