Cynlluniau newydd i fynd i'r afael â TB Buchol

Cyhoeddwyd 08/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/07/2022   |   Amser darllen munudau

Cafodd dros 10,000 o wartheg eu lladd yn 2021 fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i ddileu twbercwlosis buchol (TB). Nod Rhaglen Dileu TB (2017) bresennol Llywodraeth Cymru yw i Gymru fod yn rhydd o TB erbyn 2041.

Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaeth Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, lansio ymgynghoriad i adolygu'r strategaeth. Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) y Senedd ymchwiliad byr i'r adnewyddiad ym mis Ebrill 2022.

Mae'r erthygl hon yn archwilio'r hyn y canfu'r Pwyllgor, argymhellion a wnaed a'r ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Mae achosion newydd mewn buchesi ar i lawr, ond mae gan Lywodraeth Cymru fwy i'w wneud i gyrraedd ei thargedau dileu

Mae’r data yn dangos bod nifer yr achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng 56% ers cyflwyno Rhaglen Dileu TB Cymru yn 2008. Mae Llywodraeth Cymru yn priodoli’r cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd ers 2014 i brofion sensitifrwydd uwch.

Achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru

Mae Graff 1 yn dangos nifer yr achosion newydd o TB mewn buchesi rhwng mis Ionawr 2008 a mis Ionawr 2022. Mae nifer yr achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng yn gyson ers mis Ionawr 2008.

Anifeiliaid a laddwyd i reoli TB yng Nghymru

Mae Graff 2 yn dangos nifer yr anifeiliaid a laddwyd oherwydd TB buchol rhwng mis Ionawr 2008 a mis Ionawr 2022. Cafwyd gostyngiad cyson yn nifer yr anifeiliaid a laddwyd tan fis Mehefin 2014, yna gwelwyd cynnydd hyd at fis Hydref 2019 i’r lefelau uchel a welwyd yn 2008, ac mae wedi gostwng ers hynny.

Ffynhonnell: UK DEFRA, Tuberculosis (TB) in cattle in Great Britain

Mae'r strategaeth bresennol yn rhannu Cymru yn ardaloedd risg uchel, canolradd ac isel. Bu cynnydd mewn ardaloedd risg uchel ond gostyngiad mewn ardaloedd risg canolradd ac isel. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau rheoli newydd yn yr ardaloedd risg isel hyn y llynedd.

Ar 28 Ebrill, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ymchwiliad undydd yn canolbwyntio ar dri maes allweddol o’r ymgynghoriad:

  • Profion
  • Prynu Gwybodus 
  • Taliadau iawndal

Cymerodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan academyddion, Undeb Cenedlaethol  Amaethwyr (NFU) Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac RSPCA Cymru.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio mwy gyda ffermwyr

Clywodd y Pwyllgor gefnogaeth unfrydol i ymgysylltu mwy â ffermwyr ac â’r diwydiant. Dywedodd yr epidemiolegydd milfeddygol, yr Athro James Wood, y bydd rhannu’r cyfrifoldeb rhwng Llywodraeth Cymru a ffermwyr yn hanfodol ar gyfer datblygu a gweithredu polisi llwyddiannus. Roedd tystion yn priodoli llwyddiant Gwasanaeth Cynghori ar TB Lloegr i’w ymgysylltiad â ffermwyr.

Cymeradwyodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda ffermwyr a’r diwydiant ehangach a’u grymuso wrth ddatblygu’r polisi dileu TB.

Cytunodd Llywodraeth Cymru bod yn rhad trin ffermwyr a'r diwydiant ehangach fel partneriaid cyfartal a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn gyfrifol am ei lwyddiant. Mae’n ystyried argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ymgysylltu â Ffermwyr ynghylch ymgysylltu.

Cydbwyso costau, risgiau a buddion gofynion profi newydd

Symud gwartheg â haint heb ei ddarganfod yw'r ffordd fwyaf tebygol o ledaenu'r clefyd i ardaloedd newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio profion cyn symud (PrMT) ac ar ôl symud (PoMT) i helpu i leihau lledaeniad TB.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig ehangu gofynion PrMT a PoMT drwy wneud y canlynol:

  • Cynyddu sensitifrwydd profion;
  • Cynyddu profion symud (e.e. i symudiadau o ardaloedd risg isel).

Dywedodd yr Athro James Wood wrth yr Aelodau mai Cymru a Lloegr sy’n defnyddio’r profion lleiaf sensitif fel profion sgrinio o unrhyw wledydd yn y byd..

Daw sensitifrwydd cynyddol ar draul penodoldeb – adnabod gwartheg heintiedig yn well ond rhagor o ganlyniadau positif anghywir. Roedd yr undebau amaethyddol yn pryderu am ganlyniadau positif anghywir. Mae RSPCA Cymru yn argymell cynyddu sensitifrwydd profion ond mae eisiau cynlluniau clir ar gyfer adegau pan yr amheuir canlyniadau positif anghywir, yn enwedig ar gyfer ffermydd sydd â hanes o fod yn rhydd o’r clefyd.

Roedd y ddau undeb ffermio o blaid ailgyflwyno PrMT mewn ardaloedd risg isel. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu am effaith economaidd-gymdeithasol gofynion llymach PoMT.

Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad effaith economaidd-gymdeithasol manwl o unrhyw newidiadau i’r drefn profi TB.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod unrhyw newidiadau i’r dull gweithredu ar gyfer profion TB yn cael eu hasesu’n llawn.

Prinder milfeddygon yn y DU

Mae'r DU yn wynebu prinder milfeddygon ar hyn o bryd. Dywedodd NFU Cymru y dylai adnoddau milfeddygol ganolbwyntio ar gefnogi’r ffermwr i reoli’r achosion, gan leihau difrifoldeb yr achosion, nid ar brofion rheolaidd.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai ffermwyr gael eu cosbi oherwydd diffyg milfeddygon ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i gynyddu’r capasiti i gynnal profion drwy ddefnyddio profwyr lleyg sydd wedi’u hyfforddi’n ofalus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad allanol o’r opsiynau i ategu capasiti milfeddygol ar gyfer cynnal profion TB, gan gynnwys profwyr TB lleyg.

A ddylai prynwyr gael mynediad at hanes profion TB?

Mae prynu gwybodus yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddarparu hanes profion TB gwartheg a werthir yn gyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu i brynwyr asesu’r risg o glefyd. Mae'r system bresennol yn wirfoddol, ond dechreuodd y Gweinidog weithio i’w wneud yn orfodol yn 2019.

Mae NFU Cymru yn pryderu y gallai prynu gwybodus gorfodol greu system dwy haen, gydag anifeiliaid y canfyddir eu bod yn rhai risg uwch yn cael eu tanbrisio. Rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru y byddai ffermwyr yn gwerthu eu hanifeiliaid y tu allan i Gymru os nad yw'r system yn cael ei chyflwyno ledled y DU.

Roedd yr Athro James Wood o blaid prynu gwybodus gorfodol ar gyfer gwerthiannau preifat oherwydd rôl hollbwysig symudiadau lleol wrth drosglwyddo rhwng ffermydd. Dywedodd RSPCA Cymru y dylai prynwyr sy'n methu cymryd sylw o wybodaeth TB ac sy’n gwneud pryniannau peryglus wynebu goblygiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cronfa ddata olrhain amlrywogaethau, EIDCymru, i helpu i gyfyngu ar effaith achosion o glefydau. Roedd undebau’r ffermwyr yn croesawu cyflwyno’r gronfa ddata ond maent yn bryderus ynghylch cydnawsedd â gwledydd eraill y DU.

Argymhellodd y Pwyllgor, os bydd prynu gwybodus yn cael ei gyflwyno ar sail orfodol, fod rhaid iddo gael ei gyflwyno gan system sy’n gweithio pan gaiff ei lansio, sy’n ddibynadwy ac yn hawdd ei chyrchu. Rhaid i ddata fod ar gael yn gyflym, rhaid iddo fod o ansawdd uchel ac yn gywir.

Cydnabu Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i wybodaeth am TB gael ei darparu mewn modd amserol.

Newidiadau posibl i'r system iawndal

Mae ffermwyr yn cael eu talu am wartheg sy'n cael eu lladd oherwydd TB. Gyda’r system bresennol, mae prisiwr yn asesu cyfradd y farchnad pob anifail yn unigol. Disgrifiodd Llywodraeth Cymru y system bresennol fel un “anghynaliadwy”, gan anelu at ddull “teg a chymesur” sy’n “adlewyrchu’r adnoddau ariannol sydd ar gael”.  

Cynigiwyd systemau iawndal amgen gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar system brisio dablaidd lle defnyddir pris cyfartalog y farchnad i gyfrifo iawndal.

Mae ffermwyr yn gwrthwynebu newid y system iawndal bresennol ac yn ofni y bydd y systemau newydd yn gwahaniaethu yn erbyn ffermwyr sy'n magu gwartheg gwerth uchel. 

Dywedodd RSPCA Cymru fod cynigion tablaidd ar gyfer iawndal yn rhesymol. Ei barn yw y dylai ffermwyr lunio a chydymffurfio â chynllun TB cadarn i fod yn gymwys i gael iawndal.

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi taliadau iawndal TB i gymell arferion ffermio da. Os cyflwynir system dablaidd, tynnodd y Pwyllgor sylw at yr angen am degwch i geidwaid gwartheg gwerth uchel.

Cytunodd Llywodraeth Cymru â’r argymhellion mewn egwyddor gan ddweud bod yn rhaid i’r drefn taliadau TB a ddewisir fod yn deg i’r ffermwr a’r trethdalwr.

Bywyd gwyllt a TB buchol

Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru difa moch daear ac mae’n archwilio opsiynau ar gyfer brechu moch daear.

Croesawodd RSPCA Cymru y ffocws ar wartheg yn hytrach na bywyd gwyllt yn yr ymgynghoriad, gan nodi bod y risg o drosglwyddo yn bennaf o ganlyniad i symud gwartheg. Galwodd yr undebau ffermio am fesurau rheoli pellach i atal trosglwyddo o boblogaethau bywyd gwyllt.

Mae’r Pwyllgor yn bryderus am y diffyg data ynghylch TB buchol mewn bywyd gwyllt a gofynnodd i’r Gweinidog hysbysu’r Pwyllgor: 

  • A yw'n teimlo bod ganddi'r lefel gywir o ddata o ran nifer yr achosion o TB buchol mewn bywyd gwyllt er mwyn canfod pa mor eang y mae angen i'r rhaglen frechu moch daear fod; 
  • Ei barn ynghylch pa mor economaidd yw brechu moch daear; ac 
  • Unrhyw ddadansoddiad o gost brechu moch daear neu gynlluniau i wneud y gwaith hwn.

Cyfeiriodd y Gweinidog at astudiaeth gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i werthuso effeithiau brechu moch daear ar wartheg. Gallai’r canlyniadau lywio rhaglen brechu moch daear yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog hefyd fod grant brechu moch daear ar gael, ac y gallai llafur wirfoddol ostwng y rhan fwyaf o gostau brechu.

Bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cael eu trafod yn y Senedd ar 13 Gorffennaf. Gallwch wylio’n fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Michael High, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Michael High gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.