Cynlluniau Ad-drefnu Byrddau Iechyd Lleol - Diweddariad

Cyhoeddwyd 24/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Ym mis Rhagfyr 2011 lansiodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei ymarfer ymgysylltu cyn ymgynghori, Eich iechyd, Eich Dyfodol, a ddaeth i ben ar 30 Ebrill 2012.  Rhoddodd yr ymarfer gwrnado ac ymgysylltu nifer o opsiynau posibl ar gyfer diwygio'r bwrdd iechyd gan wahodd barn ac adborth ar y cynigion.  Lansiwyd yr ymgynghoriad ffurfiol, Eich Iechyd Eich Dyfodol - Ymgynghori â'n Cymunedau, ym mis Awst 2012 a daeth i ben ar 29 Hydref 2012.  Cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ei gynigion terfynol ym mis Ionawr 2013. Ar ôl yr ymgynghoriad ffurfiol bu gohebiaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Iechyd Cymuned (CIC) Hywel Dda  lle y cododd y CIC rai pryderon ynghylch y cynigion.  Er bod rhai materion wedi eu datrys mae rhai materion eraill sy'n parhau i fod yn destun pryder i'r CIC (Gwasanaethau Newyddenedigol - yn benodol mewn perthynas ag Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg; a gwasanaethau Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli).  Mae Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi sefydlu Panel Craffu i edrych ar bob dogfennaeth berthnasol ac ystyried y materion.  Bydd y Panel yn rhoi cyngor ac yn gwneud argymhellion ar y gwasanaethau dan sylw a bydd y Gweinidog yn gwneud ei benderfyniad ar sail hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn cynnal nifer o adolygiadau o wasanaethau penodol.  Datblygwyd senarios posibl ar gyfer newid gan glinigwyr ac fe'u cyflwynwyd i'r Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2012.  Gyda chytundeb y CIC, penderfynodd y Bwrdd Iechyd gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau sylweddol mewn pedwar maes (Gwasanaethau Ardaloedd a Chymunedau; Gwasanaethau Gofal Dwys Newyddenedigol; Pobl Hŷn ag Anghenion Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Fasgwlaidd) y bydd angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arnynt.   Lansiwyd yr ymgynghoriad ffurfiol, Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid, ym mis Awst 2012 a daeth i ben ar 28 Hydref 2012.  Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ei gynigion terfynol ar gyfer newidiadau i wasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd. Ym mis Mawrth 2013, cyfeiriodd CIC Betsi Cadwaladr  elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd i'r cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC, i'w penderfynu.  Ar ôl cyfarfodydd ar wahân rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac aelodau o'r CIC a'r Bwrdd Iechyd, roedd y ddwy ochr yn credu bod ffordd ymlaen i ddatrys y materion hyn.  Ers hynny mae'r Gweinidog newydd, Mark Drakeford AC, wedi cael llythyr ar y cyd gan y CIC a'r Bwrdd Iechyd sy'n cytuno eu bod wedi dod i gytundeb ar y materion a oedd eto i'w datrys.   Bellach, mae'r CIC yn fodlon, yn amodol ar ganlyniad boddhaol y prosesau monitro ac adolygu a amlygwyd ganddo, ei fod wedi dod i gytundeb yn lleol ar elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd yr oedd wedi'u cyfeirio at y Gweinidog i'w penderfynu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.

Rhaglen De Cymru

Sefydlwyd Rhaglen De Cymru ym mis Ionawr 2012.  Mae Bwrdd Rhaglen De Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr i edrych ar sut y dylai rhai gwasanaethau ysbytai arbenigol gael eu darparu yn y dyfodol.   Mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar bedwar gwasanaeth ysbyty - gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol, gofal newyddenedigol, pediatreg cleifion mewnol a meddygaeth frys (Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys). Mae'r pum bwrdd iechyd (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro; Bwrdd Iechyd Cwm Taf; a Bwrdd Iechyd addysgu Powys), sy'n gwasanaethu pobl sy'n byw yn Ne Cymru a De Powys, wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i wella ansawdd y gofal yn yr arbenigeddau hyn ac i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu o ran y gweithlu. Ym mis Medi 2012 lansiodd Rhaglen De Cymru ei dogfen ymgysylltu â'r cyhoedd, Cydweddu â’r gorau yn y byd – Yr her sy’n wynebu gwasanaethau ysbyty yn Ne Cymru, a ddaeth i ben ar 19 Rhagfyr 2012.  Lansiwyddogfen ymgynghori lawn Rhaglen De Cymru, sy'n amlinellu'r opsiynau ar gyfer dyfodol y pedwar gwasanaeth ysbyty, ym mis Mai 2013 a daeth i ben ar 19 Gorffennaf 2013. Bydd Byrddau Iechyd yn gwneud eu penderfyniadau terfynol yng nghyfarfodydd eu Byrddau ym mis Hydref 2013. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.
Erthygl wedi’i ysgrifennu gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.