Mae ffermwyr ledled Cymru wedi bod yn protestio yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru.
Mae’r erthygl hon yn ateb rhai cwestiynau cyffredin am y cynllun.
Beth yw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy?
Byddai’r Cynllun a gynigiwyd yn talu ffermwyr am weithredoedd sydd â chanlyniadau o ran yr amgylchedd, lles anifeiliaid a chymdeithasol, uwchlaw’r gofynion cyfreithiol sylfaenol.
Byddai’n ofynnol i ffermwyr gyflawni cyfres o ‘Weithredodd Cyffredinol’ er mwyn cael ‘Taliad Sylfaenol Cyffredinol’ ar eu cyfer.
Byddai gweithredoedd ‘Opsiynol’ a ‘Chydweithredol’ yn fodd iddynt gael eu talu ymhellach.
Mae rheolau’r cynllun yn cynnwys:
- o leiaf 10 y cant o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin;
- o leiaf 10 y cant o dan orchudd coed fel coetir neu goed unigol.
Ar hyn o bryd, disgwylir i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2025.
Mae mynediad i’r cynllun yn wirfoddol ac mae’n rhaid i ffermwyr fod â rheolaeth lwyr dros y tir er mwyn cael taliad.
Pam mae cynllun newydd yn cael ei gynnig?
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ddisodli’r system gymorth flaenorol, sef Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE.
O dan y system hon, mae taliadau wedi’u gwneud drwy’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) a’r Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP).
Mae taliadau uniongyrchol i ffermwyr drwy’r BPS wedi parhau ers Brexit, ond y bwriad yw eu diddymu’n raddol rhwng 2025 a 2029, unwaith y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i gyflwyno.
Byddai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r BPS yn rhedeg ar yr un pryd yn ystod y cyfnod pontio hwn. Byddai ffermwyr yn gallu ymuno â’r naill gynllun neu’r llall, ond nid y ddau, yn ystod y cyfnod hwn.
Gallai ffermwyr sy’n ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod y cyfnod pontio gael ‘taliad sefydlogrwydd’ i ychwanegu at eu taliadau i’r lefel y byddent wedi’i chael o dan y BPS yn 2024.
Daeth y Rhaglen Datblygu Gwledig i ben ar ddiwedd 2023 ac mae’r cynlluniau interim buddsoddi gwledig a Chynllun Cynefin Cymru yn pontio’r bwlch nes i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau yn 2025.
Beth yw gweithredoedd y cynllun?
Mae 17 o Weithredoedd Cyffredinol wedi’u cynnig a fyddai’n orfodol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Yn gyffredinol, maent yn ffitio i bedwar categori: datblygiad y ffermwr; iechyd pridd; iechyd a lles anifeiliaid; a thirweddau a chynefinoedd.
Bwriedir i’r Gweithredoedd Opsiynol fod yn wirfoddol ac maent yn mynd y tu hwnt i ofynion y Gweithredoedd Cyffredinol.
Mesurau gwirfoddol fyddai Gweithredoedd Cydweithredol er mwyn i ffermwyr weithredu ar lefel leol, lefel tirwedd, lefel dalgylch neu lefel genedlaethol.
Byddai’r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol yn cael eu datblygu a’u cyflwyno ar ôl y Gweithredoedd Cyffredinol, yn ystod y cyfnod pontio. Mae hyn er mwyn cymryd i ystyriaeth bryderon ffermwyr fod yna ormod o newid.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn gweithredu cynlluniau dros dro cyn i’r Camau Opsiynol a Chydweithredol gael eu cyflwyno, yn amodol ar y gyllideb.
Pam mae’r rheol ynghylch 10 y cant o orchudd coed mor ddadleuol?
Mae ffermwyr wedi bod yn protestio am nifer o faterion sy’n effeithio ar amaethyddiaeth yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnwys elfennau o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig, ond hefyd rheoliadau llygredd amaethyddol a pholisi TB mewn gwartheg.
Mae’r gofyniad hwn o 10 y cant o orchudd coed o leiaf ac i reoli o leiaf 10 y cant o dir fel cynefinoedd lled-naturiol wedi bod yn feysydd dadleuol iawn.
Mae NFU Cymru yn dadlau na fyddai’r ddau ofyniad 10 y cant yn ymarferol ar lawer o ffermydd a bod y rheol ar gyfer 10 y cant o orchudd coed yn debygol o fod yn rhwystr i fynediad i nifer o fusnesau. Mae ffermwyr yn dadlau y gallai rheolau’r ddau gynllun olygu nad oes cynhyrchiant ar 20 y cant o’u tir.
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn croesawu’r gofynion. Gwnaeth RSPB Cymru bwysleisio’r ‘goeden gywir yn y lle cywir’, i sicrhau’r manteision amgylcheddol.
Mae’r rheol gorchudd coed o 10 y cant wedi’i diwygio wrth i’r cynigion ddatblygu. Mae’r cynnig presennol ar gyfer 10 y cant o dir addas, yn hytrach na 10 y cant o’r daliad cyfan fel oedd yn digwydd o’r blaen. Mae coed a choetir presennol wedi’u cynnwys yn y 10 y cant.
Mae Coed Cadw wedi asesu, ar gyfartaledd, fod 6 i 7 y cant o orchudd coed ar ffermydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Cymru yn dweud y gall 10 y cant o orchudd coed a 10 y cant ar gyfer cynefinoedd gael ei integreiddio â chynhyrchu bwyd felly mae’n bosibl gwneud y ddau.
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, yn dweud, yn wahanol i’r Cynllun Taliad Sylfaenol, bydd coed a choetiroedd yn cael eu cynnwys yn yr arwynebedd tir sy’n cynhyrchu taliadau, felly mae’n gobeithio “y gall ffermwyr unwaith eto ddysgu i werthfawrogi’r manteision lluosog a ddarperir gan goed.”
Sut y bydd ffermwyr yn cael eu talu?
Byddai’r dull talu a gynigir ar gyfer y Taliad Sylfaenol Cyffredinol yn amcangyfrif o’r gost y bydd ffermwyr yn ei hysgwyddo a’r incwm y byddant yn ei golli o ganlyniad i gymryd camau o dan haen Gyffredinol y cynllun.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwobrwyo gwerth cymdeithasol y canlyniadau yn sgil y gweithredoedd drwy’r dull ‘cyfalaf naturiol’ (hynny yw, gwerth ariannol buddion sy’n deillio o’r amgylchedd naturiol).
Mae undebau amaethyddol yn pryderu y bydd y dull talu arfaethedig yn darparu dim incwm ystyrlon.
Pa faterion eraill a godwyd?
Mae pobl yn pryderu na fydd y cynllun yn gweithio ar gyfer ffermwyr tenant na ffermwyr tir comin oherwydd cymhlethdodau yn ymwneud â pherchnogaeth tir, cyfyngiadau mewn contractau a hawliau i’r tir
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn pryderu na fydd cymorth priodol i newydd-ddyfodiaid.
Mae NFU Cymru ac RSPB Cymru yn siomedig nad yw taliadau cynhaliaeth ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi’u cynnwys yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol.
Mae RSPB Cymru yn dweud na fydd y cynigion yn gwarantu’r gymysgedd o gynefinoedd tir fferm sydd ei hangen i atal colli natur erbyn 2030.
Beth fydd effaith y cynllun hwn?
Yn y gwaith modelu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, awgrymwyd y byddai’r cynllun yn creu tua 26,000ha o gynefin lled-naturiol newydd a 28,000ha o goetir newydd, ond hefyd yn lleihau cyfanswm incwm y fferm £199m ac allbwn y fferm £125m.
Mae’r gwaith modelu hefyd yn dangos y byddai unedau da byw yn gostwng 122,000 a llafur ar y fferm yn gostwng 11 y cant. Mae NFU Cymru yn dweud y gallai hyn fod gyfystyr â cholli 5,500 o swyddi.
Mae’r modelu yn "dangos y canlyniadau gwaethaf" ac mae’n dod gyda chafeatau sylweddol.
Mae’r Gweinidog wedi dweud bod y modelu’n seiliedig ar fersiwn gynharach o’r Cynllun, ac y bydd gwaith modelu pellach yn cael ei gynnal.
Beth yw’r gyllideb ar gyfer y cynllun?
Nid yw’r gyllideb ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i gadarnhau hyd yma.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn mynd ar drywydd leiaf yr un lefel o gyllid ar gyfer ffermwyr gan Lywodraeth y DU ag y bydd yn ei chael yn 2024-25, gan gynnwys cynnydd yn unol â chwyddiant.
Mae’r Gweinidog wedi dweud mai £238m fyddai’r gwaelodlin, h.y. yr arian blynyddol blaenorol ar gyfer y BPS.
Nid yw’n hysbys eto sut y byddai’r gyllideb yn cael ei dyrannu ar draws haenau Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol ac felly ar ba elfennau y bydd y pwyslais.
Mae RSPB Cymru yn amlygu asesiad annibynnol a welodd fod angen £496m ar Gymru yn flynyddol i fodloni blaenoriaethau rheoli tir amgylcheddol yn unig.
Mae NFU Cymru yn dweud bod angen i’r gyllideb godi i dros £500m dim ond i sefyll yn ei unfan a bodloni uchelgeisiau a rennir ar gyfer bwyd, hinsawdd a natur.
Beth yw’r camau nesaf?
Daeth y trydydd ymgynghoriad, ac o bosibl yr ymgynghoriad olaf, ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ben ar 7 Mawrth. Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ar 8 Mawrth.
Dywedodd y Gweinidog wrth Bwyllgor Materion Gwledig y Senedd ar 6 Mawrth nad oes dim wedi ei gadarnhau’n bendant ac y bydd newidiadau.
Cadarnhaodd y Gweinidog ei bod yn bwysicach cael y Cynllun yn iawn na’i wneud erbyn 2025.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y Prif Weinidog newydd (a fydd yn dechrau ar 20 Mawrth) “am adolygu yn ofalus canlyniadau’r ymgynghoriad ac ystyried mewn manylder yr amserlen ar gyfer rhoi’r SFS ar waith”.
Mae gwaith craffu’r Senedd ar y Cynllun yn parhau.
Erthygl gan Elfyn Henderson and Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru