Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Cymorth amaethyddol

Cyhoeddwyd 17/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i newid polisi amaethyddol yn sylfaenol.

Byddai’r cynigion a welwyd hyn yma yn gwyro’n sylweddol oddi wrth Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, yn rhoi mwy o bwyslais ar wobrwyo ffermwyr am ddefnyddio’u tir i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus amgylcheddol.

Disgwylir i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft gael ei gyhoeddi fis Gorffennaf ac i’r Bil Amaethyddol (Cymru) gael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi’r cefndir ar gymorth amaethyddol cyn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Mae’n egluro system gymorth y PAC y mae ffermwyr Cymru yn trosglwyddo ohoni, rheolau Sefydliad Masnach y Byd y mae’n rhaid eu dilyn, trefniadau trosiannol a chynlluniau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cynllun cymorth newydd a gwahanol iawn.


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru